Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. Cyf. V.] GORPHENHAF, 1846. [Rhif. 55. Y SWYDD WEIMDOGAETHOL. Mr. Gol,—Llawer o wahanolfarn.au sydd yn mysg dynion, a chrefyddwyr ynghylch eangder a iawnderau y swydd weinidogaethol, ac yn ngwyneb y faíh amryfal furnau, y mae o angen- rheidrwydd lawer o gyfeiliorni yn ei chylch. Nid wyf fì yn honi dwyn allun un dadguddiad newydd er nodi allan ei therfynau, nac enwi ei holl iawnderau; ond nodaf amryw o bethau cyffredin er ystyriueth y cyffredinolruydd, gan obeithio y bydd i chwi ganiatâu i'r nodiadau canlynol ymddangos yn eich Cyhoeddiud efengylaidd. Gwylfa. TlMOTHEUS. ün dosbarth o*r byd crefyddol a feddyl- I Grist> * bregnthu a gweinyddu cynghor iant am weinidog yr efengyl mai gwas | Duw 5n ei air> ac fel y cyfryw y mae yn bach i bawb ydyw—fod rhyddid gan bawb i ddweyd ei feddwl yn rhydd ac yn rhwydd am dano, a'i orchymyn a'i gommandio wrth eu hewyllys eu hunain. Ac os beiddia wneud dim heb ymgynghori á hwy, neu roddi yr awgrym lleiaf o'i anfoddlonrwydd i gytìawni eu cyfarwyddiadau, neu mewn un modd i ymgynghori â'i reswm a'i ddeall ei hunan, ffromant yn aruthr, ac honant eu *hawdurdod, fel ei feistri, " Onid gwas yr eglwys ydyw ef?" meddant, " a nyni yw yr eglwys, o ganlyniad y mae yn was i ni," &c. Meddyliant nad oes ganddo yr un hawl i fedyddio neb ar broffes o'i fíydd, heb yn gyntaf ofyncaniatâd yr eglwys, neu yn hytrach un neu ddau o ddiaconiaid yr eglwys. Y mae y cyfryw yn barnu mai gweithred berthynol i'r eglwys fel cynull- eidfa gyfamodedig â'u gilydd yw bedyddio ymgeiswyr, ac nad oes hawl gan y gweinid- og heb droseddu deddf y Testament New- ydd i wneud hyny o'i ben ei hunan—ond y maent yn cyfeiliorni yn hyn. Gall y gweinidog fedyddio unrhyw ddynar broffes °'i ffydd a'i edifeirwch heb ymgynghori gair à'r eglwys, nac â neb o'i haelodau— oblegid dyma ei gomisiwn ef, " pregethu yr efengyl i bob creadur, a bedyddio y neb a gredo." Ac os anturia gyflawni ei gomisiwn heb ganiatàd yr eglwys neu ryw bersonau ynddi, buan y clywir hwynt yn hygwyth attal y supplìes, a'i ddwyn i gyd- nabod ei ddarostyngiad iddynt, &c,. &c. •Y mae y rhai hyn yn gwneud yn rhy fach o weinidog, oblegid nid gwas i ddyn- ipn ydyw, i gyflawni eu mympwyau hwy, °ndgwas Crist yw—dyn Duw—Cenaddros Cyf. V. gofyn y parch mwyaf a'r cydymdeimlad- rwydd mwyaf oddiwrth y rhai y mae yn ddysgu yn yr efengyl; ac hefyd yn meddu hawl ddiamheuol i gael ei gynal yn weddus a chysurus oddiwrth y weinidogaeth. "Os hauasom i chwi bethau ysbrydol, ai bach genych os medwn o'ch pethau cnawdol?" Un yw gweinidog yr eí'engyl, sef gwir weinidog, (ac yr ydyru i gymeryd pawb felly hyd nes y profant fel arall) ag sydd wedi cael ei gymhwyso i'w waith gan Dduw, trwy roddi iddo gynheddfau a gallu- oedd i wahaniaethu rhwng y gweithfawr a'r gwael. Un ydyw wedi cael ei alw a'i neillduo i'w waith—nid gan ddynion, ond gan Dduw,nid trwy weledigaeth na gwyrth, ond trwy ogwyddo ei feddwl a'i duedd- iadau at hyny—un a fyddo, nid a budr-elw neu fywioliaeth fydol dda yn ei olwg, na gwag ogoniant yn ei gyracll, ond un ag a fyddo a " chariad Crist yn ei gymell at y gwaith." Un ydyw sydd yn ceisio ei glod, nid gan ddynion, ond gan Dduw. Dyma rai o'r prif linellau gwahaniaethol a gyfansoddant gymeriad " gweinidog da i Iesu Grist." Am hyny, frodyr, " parch- wch hwynt er mwyn eu gwaith"—ystyr- iwch hwynt fel cenadon Duw ; a choíiwch yn mysg y cyfan mai llestri pridd ydynt. Y mae plaid arall, a hono yn lluosog iawn, a osodant y fath bwysigrwydd ar y swydd, fel yr ystyriant y rhai sydd yn ei dàl yn Yicariaid Crist ar y ddaear, ac ystyr- iant fod pob awdurdod yn eu dwylaw ar y ddaear mewn pethau crefyddol, megis gosod i fyny ddeddfau a gosodiadau new- yddion, gosod grvm ac effeithiolaeth vn vr 2G