Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

06 HANESION. cynwys mwy nag un rhan o dair o'r wlad. [Y mae yn llawn bryd gwneud rhyw gyf- newidiad yn nghyfraith y wlad ar yr achos hwn. Addawyd dwyn ysgrit'raith i'r tỳ, i'r perwyl hwnw y sënedd-dymhor diwedd- af; a dysgwylir yr achlysura y penderfyniad hwn brysuriad cyflawniad yr addewid hon.] DYFAIS FEDDYGOL NEWYDD. Un o'r enw Dr. Simpson, sydd newydd gael allan ryw hylif a elwir Chloroform, yr hwn y mae ei arogl yn peru cwsgadrwydd ac annheimladrwydd, fel ag y gellir arfer unrhyw law-feddyg-waith ar y person tra yn y sefyllfa hono; megis tynu dannedd, cymeryd ymaith aelod, a'r cyffelyb, yn hollol ddiarwybod iddo. Y mae hwn gymaint yn rhagori ar y dull a gafwyd allan yn ddiweddar o'r blaen o daflu personau i annheimladrwydd trwy anadlu ether', nid oes eisiau yr un peiriant at hwn, ac ni achosa un anghyfleustra i'r meddyg, na salwch i'r dyoddefydd. Y dull o'i wein- yddu yw gosod tua 50 o ddiferion mewn ysbwng, carth, (lint) neu wlân, a'i ddal droa fynyd neu ddwy yn agos i'r genau a'r ffroenau, fel y gellir aroglu ei sawyr; a'r canlyniad fydd i'r dyoddefydd syrthio i annheimladrwydd hollol, heb beru iddo unrhyw deimladau annymunol wrth fyned i'w gwsg nac wrth ddyfod o hono. Cym- erwyd clun dyn ymaith yn ddiweddar yn Laugharne, swydd Gaerfyrddin, heb yn wybod i'r dyoddefydd. Pan ddeffrodd wedi iddynt ei roddi yn y gwely gofynai iddynt am drin ei goes; nis credai ar y cyntaf ei bod wedi ei chymeryd ymaith. Un Mr. Brown, o Hwlffoidd, hefyd a dynodd ddant i ddyn heb yn wybod iddo tra o dan ei effeithiau. Ystyrir y datgudd- iad hwn yn un tra gwerthfawr trwy ei fod yn lliniaru arteithiau dyoddefwyr tra yn myned dan driniaethau meddygol angen- rheidiol er dyogelwch bywyd. MEDDWYN AR DAN. " Yr oedd dyn ieuangc, oddeutu bum' mlwydd ar ugain oed, wedi bod yn arferol o yfed am lawer o flyneddoedd. Myfi a'i gwelais oddeutu naw o'r gloch y prydnawn y dygwyddodd yr anffawd ; yr oedd y pryd hyny fel arferol, nid yn feddw, ond yn llawn o wlybwr, (liquor.) Oddeutu un ar ddeg o'r gloch yr un prydnawn, fe'm gwahoddwyd idd ei weled. Myfi a'i cefais yn rhostiedig o wadn ei droed hyd goryn ei ben ; efe a ganfuwyd mewn masnachdŷ gôf, braidd gyferbyn a'r lle yr oedd wedi bod ; fe ddarfu i'r perchenog yn ddisyir.wth ganfod rhyw oleuni ëang yn ei fasnachdŷ, fel pe buasai yr adeilad yn un wenfHatn gyffredinol, efe a redodd gyda ffrwst anar- ferol, ac wrth daflu y drws yn agored, efe a ganfu ddyn yn sefyll ynghanol è'ang-estyn- edig fflam arianliw, cyfeiriad fel yr oedd efyn ei ddarlunio, yn gywir i ymddangosiad o losgiad canwyll yn ei fflam ei hun. Efe a afaelodd ynddo, (y meddwyn,) gerfydd ei ysgwydd, ac a'i tatìodd i'r drws, ar ba un y fflam yn ddioed a ddiffoddodd. Nid oedd dim tân yn y masuachdỳf nac ychwaith nid oedd yno ddim yn alluadwy i danio o hono ei hun. Yr oedd y weithred o ennyn- iad gwirfoddol. Cnawd-syrth (sloughing) cyffredinol yn fuan a ddaeth yn mlaen, ac yr oedd ei gnawd wedi treulio, neu wedi symud yn y triniad, gan adael yr esgyrn, ac ychydig o'r gwaed-lestri mwyaf; y gwaed, pa fodd bynag, a adgynullodd o gylch y galon, ac a gynhaliodd y wreich- ionen fywydol hyd y trydydd dydd ar ddeg, pan y fu farw, nid yn unig y fwyaf atgas, drwg-wynebpryd, a'r darlun mwyaf echryslawn a gyflwynwyd erioed i olygfa ddynol, ond ei ysgrechfeydd, ei ocheneid- iau, a'i wylofain hefyd, oeddent ddigon i rwygo y galon fwyaf adamentaidd. Nid oedd yn achwyn fod aino boen corfforol, oblegid yr oedd ei gnawd wedi myned ymaith. Efe a ddywedodd ei fod yn dyoddef arteithiau uffern, a'i fod braidd ar y trothwy, ac y buasai yn fuan yn myned i'w ogof echryslawn ; ac yn yr agwedd nieddwl yma efe a roddes i fyny yr ysbryd. Yr Arglwydd a waredo ieuengtyd ein gwlad rhag myned i ymdrafod â'r fath fasnach felldigedig, yr hon sydd wedi dinjstrio cymainto filoedd, ac yn y diwedd yn damnio eu heneidiau am dragywyddol- deb."—Darlithoedd Dr. Nott, ar gymedrol- deb. Yr eiddoch yn serchog, W. O. Llywelyn. CHARLES CONWAY, YSW. PONT- NEWYDD. Y boneddwr haelionns hwn, â gafodd ei bennodi yn ddiweddar i Ynadiaeth yr Heddwch dros Sir Fynwy, trwy gymerad- wyaeth Rhaglaw y sir, sef Squire Leigh, o hono i'r Arglwydd Ganghellwr, yr hyn yn gytì'redin a ystyrir yn arwydd o barchus- rwydd a chyfrifoldeb; a'r hyn gyda llaw fuasai yn rhoddi awdurdod a dylanwad yn ei law, ac hefyd yn gosod ysgol yn ei ymyl ar hyd yr hon y gallai ddringo i gwmpeini a chymdeithas y pendefigion. A pheth a allasai fod yn fwy deniadol i'r natur ddyn- olî Ond yn eu gwyneb oll, pwysodd Mr. Conway y mater yn dda, a chofiodd yn gyntaf ei fod yn grefyddwr Ymneillduedig, ac mai ei brif bwngc oedd cadw " cydwy- bod ddirwystr." Felly gwrthododd yr anrhydedd, mewn llythyr boneddigaidd iawn, gan roddi fel ei resymau dros hyny Ei fod yn Ymneillduwyr o gydwybod ; a'i fod yn credu o'i galon fod crefydd senedd- sefydledig yn ddrwg moesol ac yn gamwedd cymdeithasol; a phe byddai yn derbyn y swydd o Ynad, y buasai feallai yn gosod ei