Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

450 ADOLYGIAD. arnynt, fal y gallont weithredu mal cynt o barth y Geìiadiaeth,* &c, &c. Mae yr ymdrechion a wnawd ganddynt yn barod mewn cysylltiad à'r addoldy newydd yn brawf nad ynt wedi bod yn " ddiog mewn diwydrwydd," (gan iddynt gyfranu 200p. ato y flwyddyn ddiweddaf,) ac nid ydynt yn meddwl bod felly rhagllaw. A yw yr '« Anghydffurfwyr" yn Morganwg yn mysg y Bedyddwyr i gyd yn ddiddyled i'r eglwys hon? Barnwch chwi, a barnent hwythau. Ond i ddychwelydaty prif bwngc. Yn gyntaf oll, yr wyf yn hollol rydd- hau ein Gweinidog oddiwrth bob bai yn nghylch Mr. Miall, &c.; o herwydd gwnaeth ef ei ereu, i gael addoldy y Bedyddwyr ac addoldy yr Anymddibynwr yn y dref hon at ei wasanaeth; ond methodd a llwyddo. Paham felly, meddychl A ganlyn yw y ffeithiau cysylltiedig â'r achos. Er ys mwy nâblwyddyn yn ol daeth Mr. D. R. Stephen yma i gynal cyfarfod ynghylch y Llyfrau Gleision, y Coleg Normalaidd, &c, &c chafodd dderbyniad i addoldy y Bedyddwyr; ac er bod ei ddyfodiad i'r dref, a'i neges hefyd, yn hysbys ar hyd y wlad, ni ddaeth i'w wrando gymaint ag un o weinidogion yr enwadau ereill! Rhwydd yw encilio i'r wlad dan rhyw ffug-neges gan y rhai ni chredent, neu ni fynent gredu, bod yr amser i ymdrin â'r pwngc, wedi dyfod oddiamgylch! Pan ddaeth yr hysbysiad i law ein gweinidog bod Mr. Miall yn bwr- iadu ymweliad â'n tref, gosododd ef o flaen yr eglwys mewn cyfeillach, a gofynodd os oedd gwrthwynebiad ganddynt iddo gael benthyg yr addoldy"? A'r ateb a gafodd oedd, Ni a roddasom ein haddoldy i Mr. Stephen, rhodded yr Anymddibynwyr yr eiddynt hwy i Mr. Miall; a mynegwch hyn i'w gweinidog; ac felly y gwnaeth. Yr ateb a gafodd, Nad oedd yn gyfleus iddo ef roddi benthyg ei Addoldy, oblegid ei fod am gael darn o dir [gan Églwyswr] at addoldy Llechryd er gwneud mynwent, ac y gallai dyfodiad Mr. M. atynt hwy fod yn attalfa iddo ei gael. Yn ganlynol my- negodd y genad yr atebiad uchod i'w frodyr. Wel, ebynt hwythau, os yw hyna yn ddigon o reswm ganddynt hwy i wrthod eu tŷ iddo, gallwn ninau ddefnyddio rheswm llawn mor gadarn dros beidio rhoddi yr eiddom ninau iddo, sef yw hyny, bod ein cyfarfod Blyneddol yr wythnos ganlynol, (a thyma, Mr. Golygydd, ryw gymaint a sail i'r «si a gyrhaeddodd yna'); ac mae y ddau esgus y naill mor bwysig * Yn 1828-9, nid oedd casgliadau y Bedydd- wyr trwy Gymru oll at y Genhadiaeth ond 48p. 9s. 3c.; ac, os nad wyf yn camgofio, eglwys Aberteifi a roddodd gynhwrf yn yr eglwysi, nes y cyrhaeddodd eu casgliadau cyn hir ar ol nyny i o fil i bymtheg cant o bunnau yn yr un flwyddyn. Ai fel Meros yr ymddygodd yn hyny o orchwyl hcfyd ? a'r llall. Dyna lle y terfynodd yr ymddi- ddan. Ond dywedai gweinidog yr An- ymddibynwyr ar ol hyny, na wnelai efe ddimâ'rdyn: a danfonodd gyda chyfaill at Mr. M. i Hwlffordd, i'w hysbysu nad oedd darpariadau wedi cael eu gwneud ar ei gyfer yma, ac i'w ddarbwyllo i beidio dyfod i fyny! Pell wyf fi o gyfiawnhau ein hymddyg- iad yn yr achos diflas hwn; ar yr un prytl yr wyf yn credu y cawsai Mr. Miall ein haddoldy gyda phob parodrwydd, er y gylchwyl a phob peth arall, (oblegid y mae yma laweroedd yn synied yn uchel, uchel iawn am dalentau ac egwyddorion Mr. M., ac yn cymeradwyo y Gymdeithas a bleidiai), oni buasai yr ystrangciau llwynogaidd a grybwyllais yn barod. Ac nid wyf fi yn medru gweled fod manau ereill yn llwyr rydd oddiwrth ryw fath o ystrangciau, gan mai yn addoldỳau y Bedyddwyr yu Nghaerdydd, Abertawy, Llanelli, Caerfjr- ddin, Hwlffordd, &c, y traddododd Mr. Miall ei ddarlithiait, gan nad pa le y bu yn pregethu. A oedd addoldŷau y Bed- yddwyr yn mhob tref yn fwy cyfleus nâ'r addoldyau ereill 1 Ymddengys i mi bod yr Anymddibynwr yn yr achos hwn, yn rhy debyg i'r Eppa, yr hwn a ddefnyddiai droed y gath i dynu yr afal o'r tân! Gan hyderu y maddeuwch feithder yr ysgrif hon, gan nad oedd genyf amser i'w gwneud yn fyrach, y gorphwys, er y cystwyad didrugaredd a roddasoch i ni, Yreiddoch, fal cynt, ., , . - Carwr y Gwir, Abertetfi. Gelyn y Gau> #% Y mae yn hoff genym roddi lle i'r ymddi- ffyniad blaenorol o eiddo y Bedyddwyr yn Aber- teifi, er ein bod yn cael tipyn o'n cuio ynddo : onii y mae yn guriad tra charedig. Nid ydym mor or- deimladol a myued i wneud gwrth-atebiad hiifaitli iddo—y mae y cyhuddiad a'r ainddirtyniad yn awr ger bron brawdley cyhoedd—a barneut hwy. Ond ilywedwn gymaint a hyn, Mai ein heiddigedd dios enwogrwydd Bethania hyglod a wnaetli i ni ys- grifenu fel y gwnaethom—rheol ein liymddygiad oedd "ceryddu y rhai yr oeddem yn eu caru." Nid ydym yn rhyfeddu dim am ymddygiad llwy»- ogaidd a flalst rhai gweinirtogiou ereill y dref, oblegid " That is just lihe them ;" ac yr oeddein yn hydern wrth wneulhnr y cyhuddiad, y bnasai rhyw ddirgelwch yn dyfod i'r goleu. Ni a ddy- wedwn yn awr fel y dywedai y Sweep ar ol bwyta ei bytatws a halen, " Vr wyf yn caniatau i'r Brenin glniawa yn awr;" felly yr yin ninan yn caniatau i Mr. Rees ddyfod i Forganwg i ga8glu yn awr,—Gol. ADOLYGIAD Y WASG, CYFANSODDIADAU BUDDYGAWL, A CHERDDI EREILL, GAN IAGO EMLYN. Caerdydd: Argraffwyd gan Owen a Roberts, 1848. Mae Awen Cymru wedi bod yn doreitb- iog yn ei ffrwytnau o oes i oes. Mae nifer