Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWE. Cyf. X.] EBMLL, 1851. [Rhif. 112. ILfitHlEg YR reHWYB (B3RHSTMOGdDL Hanes Cristnogaeth yn yr Ail Ganrif. Ar ddechreuad y canrif hwn yr oedd Trajan yn eistedd ar yr orsedd ymerodrol i'r hon yr oedd wedi esgyn yn y flwyddyn 98. Yr oedd tymor bjr yr ymerawdwr Nerva wedi rhanu rhwng llywodraeth or- thrymus Domitian ac esgyniad Trajan, ond ni pharhaodd teyrnasiad Nerva ond un- mis-ar-bumtheg ac wyth niwrnod, pryd y cafodd yr ymerodraeth achos galaru o herwydd marwolaeth anmhrydlawn un o'r ymerawdwyr goreu, a'r Cristnogion, o herwydd colli llywodraethwr oedd wedi dangos gradd mawr o dynerwch tuag atynt yn eu cyflwr blinderus. Dan ei nawdd, yr oedd ei ddeiliaid mewn dysgwyliad am lonyddwch adedwyddwch gwladol, oblegid yr oedd y rhai a gaicharasid am dyb-frad- wriaeth yn cael rhyddhad.a'r rhai a alltud- a8Ìd am eu crefydd yn cael dychwelyd yn ddiogel i'w cartrefleoedd. Dywedir hefyd iddo adferu meddianau y rhai a ysbeiliasid yn anghyfíawn, a chosbi yr athrodwyr oeddent wedi eu cam-gyhuddo, ac ymroddi â'i holl egni i feddyginiaethu blinderau ei ddeiliaid mor belled ag oedd ddichonadwy mewn tymor mor fyred. Estynodd i'r Cristnogion ymgeledd tyner drwy anghef- nogi pob ymo3odiad arnynt, er eu bod eto yn cael eu cyfrif yn fath o ddidduwiaid, am nad oedd ganddynt na themlau, nac allorau, nac aberthau, yr hyn, yn marn y Cenhedloedd oedd hanfodoli grefyddoldeb. Yr oeddTrajan yn ymerawdwro gymer- iad cymysglyd; yn llawn o uchelgais am anrhydedd, weithiau yn annoeth yn ei fesurau, ac yn anystyriol yn ei ymddyg- iadau; ond ar y cyfan yn haelfrydig i'w ddeiliaid, ac yn tueddu i fod yn drugarog; ond i'r Cristnogion yn wahanol iawn i hyny, drwy ei fod yn rhoi ffordd i'r eulun- addolwyr i gyflawnu yr amcanion mwyaf anghyfíawn tuag atynt, ac weithiau, fel y cawn weled, yn arfer ei awdurdod i'w gormesu yn bersonol hyd farwolaeth am eu crefydd. Yn lled fuan wedi ei esgyniad i'r orsedd, gosododd ei gyfaill Pliny yn rhaglaw ar dalaeth Bithynia. Yr oedd hwn yn un o'r dynion mwyaf enwog, a'r dalaeth dan ei lywodraeth yn un helaeth a chyfrifol; ac yn ngweinyddiad ei swydd yr oedd nifer fawr o'r Cristnogion yn cael eu dwyn o'i flaen dan gyhuddiadau o herwydd eu ffydd. Gan nad oedd yn flaenorol wedi cael cyfleustra i fod yn wyddfodol Cyp. x. pan fyddai eu hachos yn cael ei drin yn y brawdlysoedd, yr oedd mewn petrusdod o barth y dull y dylasai ymddwyn tuagatynt, ac yn yr anigylchiad ysgrifenodd at yr ymerawdwr yn yr achos yn y flwyddyn 206, ac yn gymaint a bod ei lythyr yn rhoddi golwg gyffrous ar gyflwr y Crist- nogion yu y tymor hyny, meddyliwn na bydd cytìeithad o hono, ynghyd âg ateb Trajan yn anfuddiol i'r darllenydd, yr hyn sydd fel y canlyn :— Plinî at yr Ymerawdwr Trajan. "SlRE, " Fy arfer yw ymgynghori â chwi yn mhob achos dyruslyd, oblegid pan fyddo fy marn fy hun yn petruso, pwy all fod yn fwy cymwys i'm cyfarwyddo, neu i'm dysgu lle yr wyf yn anwybodus nâ'ch hunan. "Nid oeddwn erioed wedi cael achlysur i fod yn wyddfodol pan fyddai achos y Crist- nogion yn cael ei drin cyn i mi ddyfod i'r dalaeth hon. Yr wyf gan hyny yn an- wybodus am yr eithatìon mae yn arferol eu cosbi, neu i anog eu herlyniad. Yr wyf hefyd yn amheus na ddylai rhyw wahan- iaeth gael ei wneuthur rhwng ieuenctyd ac henafiaid, a rhwng y gweiniaid a rhai cedyrn ; a pha un a ddylai meddeuant gael ei gynyg ar amod edifeirwch, a pha un hefyd ai yw yn ddichonadwy i ddileu euogrwydd protfes o Gristnogrwydd drwy ddad-ddywediad penderfynol, ac felly hefyd a ydyw proffes yn unig i'w hystyried yn drosedd,gan nad pwy mor ddiniweid bynag y bydd y proffeswr mewn ystyriaethau ereilí, ac oni ddylai y troseddau a gysylltir â'r enw gael eu profi cyn y byddont yn ddar- ostyngedig i gosb. "Ar yr un pryd, y dull yr wyf wedi arfer ymddwyn hyd yma tuag at y Crist- nogion a gyhuddid fel y cyfryw, sydd fel y canlyn :—Mi a'u holwn,—Ai Cristnogion ydych chwit Os cydnabyddent hyny, rhoddwn yr un gofyniad yr eiiwaith, a'r drydedd, gan fygwth y gosb mae y gyfraith wedi ddarparu. Os par/iaent, gorchymyn- wn eu dihenyddio yn y fau ; oblegid yn hyn yr oeddicn yn benderfynol, beth bynag oedd natur eu crefydd, fod yfath bengamrwydd a chyndynrwydd anmhlygadwy yn galw am gosb. Mi a gedwais rai a gyfranogent o'r ynfydrwydd hyn i'w hanf'on i Rufain i