Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWE. Cyf. XI.] CHWEFROR, 1852. [Rhif. 122. HANES YE EGLWTS GRISTIONOGOL, Hanes Cristionogaeth vn y Ddeuddegfed Canrif. Wedi holl ymdrechion yr Eglwys Bab- aidd i ddwyn y byd dan ei hiau, yr oedd rhan fawr o lwythau gogleddol Ewrop yn parhau yn Baganiaid ar ddechreuad y canrif hwn, ac yn y tiriogaethau hyn y canfyddwn eu gorchestion yn y tymhor sydd yn awr dan sylw, yn nghyd â'r egwyddor- ion ar ba rai yr oedd eu gwaith yn cael ei ddwyn yn mlaen. Wedi i Boleslaus, brenin Pwyl, faeddu y Pomeraniaid mewn rhyfel gwaedlyd, cynygiodd iddynt heddwch ar yr amod fod iddynt dderbyn Cristionogaeth, a chaniatâu i athrawon y grefydd hono i sefydlu yn eu plith, ac arfer eu defodau yn y taieithau, er dysgu j' trigolion yn holl gyfundraeth Eglwys Rhufain. Gan nad oedd y Pomeraniaid mewn cyflwr i wrth- sefyll ei gorchfygwr, hwy a gydsyniasant â'r cynyg, ac yn y canlyniad anfonwyd Otho, esgob Bamberg, i'w plith, i'w dysgu yn égwyddorion ac arferiadau yr Egíwys Babaidd, tua y flwyddyn 1124. Dywedir i nifer fawr dderbyn ei athráwiaeth rhag ofn arfau brenin Pwyl, ond pan ymadaw- odd yr athraw am dymhor, syrthiodd y rhan fwyaf o'r dychweledigion yn ol at eu hen grefydd, fel y gorfuwyd Otho i ddychwelyd i ail-ymaflyä yn y gwaith, Cyfarfyddodd yn awr â mwy o wrthwynebrwydd nag o'r blaen, am nad oedd byddinoedd y Pwyliaid yn bresenol i'w gefnogi; ond yn y diwedd bu yr effaith yn fwy parhaus, a sefydlwyd Adalbert, drwy eu cydsyniad, yn esgob yn eu plith, ac o'r pryd hyn y rhesir y genédl yn mhlith Cristionogion. O holl dywysogion y gogledd ni bu neb yn fwy diwyd yn yr oes hon î helaethu aẁ- durdod yr Eglwys Babaidd drwy nerth arfau nâ Waldemar I, brenin Denmarc, yr hwn a enillodd enwogrwydd anfarwol yn ngolwg y Pabyddion, drwy y brwydrau buddygol a ýmladdodd a r Paganiaid. Dy- wedir iddo faeddu y Sclafoniaid, y Vened- iaid, a'r Vandaliaid, gan ddinystrio temlau y duwiau, malurio yr allorau, diwreiddio y llwyni cysegredig, a gorfodi y llwythau i wisgo enw Cristionogion, ac adeiladu eg- lwysi, a chyflawnu y defodau derbyniol.gan Eglwys Rhufain ; ac i?r gwaith gaël ei ber- CVF. XI. ffeithio gan Absalom, archesgob Lunden, yr hwn oedd yn gwisgo cymeriad cadfridog milwraidd a llyngeswr, yn gystal a'r swydd eglwysig; a'r hwn, o herwydd ei orchestion llwyddianus i ddarostwng y Paganiaid a lledaenu Pabyddiaeth, a gyfodwyd gan Waldemar i flaenorí yn holl achosion ei deyrnas. A thrwy y raesurau hyn y dygwyd preswylwyr ffyrnig ac anwaraidd Ynys Rugen, ar gyffiniau Pomerania, o'r bron yn Gristionogion mewn enw, yn gystal a llawer o'u cymydogion, heb wybod ond ychydig neu ddim am egwyddorion y grefydd a bro- ffesent, na dim ganddynt mewn golwg ond ymguddio rhag nerth arfau yr ymosodwyr oeddent yn analluog i'w gwrthsefyll. Drwy foddion o'r un matur y dygwyd y Finlandiaid hefyd i dderbyn Cristionogaeth y Pab, wedi Uawer o frwydrau gwaedlyd gan Eric IX, yr hwn a'u gorfododd i wneuthur hyny yn groes iawn i'w tuedd, ac a osododd Harri, archesgob Upsal, yn llyw- ydd eglwysig arnynt. Yr oedd yr eglwyswr hwn wedi cỳmeryd rhan awyddus yn y rhyfel oedd yn awr wedi terfynu yn naros- tyngiad y Finlandiaid, ac yn ei swydd arch- esgobaethol yr oedd yn eu gormesu mor annyoddefol, fel yn y diwedd y cyfodasant yn ei erbyn, ac y llofruddiasant ef mewn dull erchyll, am ei fod wedi gosod penyd drom ar bendefig oedd wedi bod yn euog o lofruddiaeth dyn. Mae Hani yn cael éi resu yn mhlith seintiau a merthyron yr Eglwys Babaidd, er ei fod yn llawer mwy teílwng o gael ei gyfrif yn mhlith treiswyr y byd, ond yr oedd yn was selog i'r " Dyn Dechod," ac yn offerynllẃyddianus i orfodi trueiniaid i ymostwng dan ei iau, ac mae ei farwolaeth greulon yn dangos pa fath droed- igaeth oedd yn cael ei heffeithio gan fin y cleddyf, a pha fath ddychwéledigion oedd y dynion a newidient eu crefydd rhag cael eu haberthu ar faes y gwaed. Yr oedd y Lifoniaid hefyd hyd yma yn parhau yn Baganiaid penderfynol, a'r cyntaf a amcàuodd effeithio eu troedigaeth oedd monach o'r enw Mainard, yr hwn a deith- iodd ynoyn nghymdeithtis masnachwyr, ac a lafuriodd am ryw dymìor yn eu plith, yn f-