Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. Cyp. XI.] EBRILL, 1852. [Rhif. 124. HANES YE EGLWYS GEISTIONOGOL, Hanes Cristionogaeth yn y Pedwerydd Canrif ar Ddeg. Yr ydyna wedi nodi yn hanes y canrif blaenoroí, fod achos y Cristionogion yn Palestina wedi iselhau i gyflwr anobeithiol, er holl orchestion treulfawr a gwaedlyd byddinoedd y groes. Ond er hollaflwydd- iant yr ymosodiadau blaenorol, yr oeddent y Pabau yn awyddus eto i anfon byddin- oedd newydd i'r maes. Clement V. a gymhellodd hyny yn daer iawn, tua y tlwyddyn 1308, ac a gysegrodd swm mawr o arian at y gwaith; ond yn rhyw fodd methu a wnaeth, er cymaint ei hawl i anffaeledigrwydd. Ioan XXII. hefyd a orchymynodd barotoi dego longau i hwylio i'r Dwyrain, yn y flwyddyn Ì319, i ddial ar y Mohametaniaid am eu trais; ac er cael modd i fyned â'r gwaith yn mlaen, anfonwyd swyddwyr drwy y gwledydd i werthu maddeuant {indulgence) yn enw y Pab, i bawb a ddymunent gael y fath fraint. Oud yr oedd Lewis o Bavaria, yr hwn oedd y pryd hyny jn llanw yrorsedd ymerodrol, yn ddigon llym ei olwg i ganfod amcan y Pab yn ei liw priodol; a chan fod llawer o'r tywysogion o'r un farna'r ymerawdwr, ac yn credu mai amcan Ioan oedd ymgy- foethogi ardraul y llwythau coel-grefyddol, nid hawdd oedd eu darbwyllo i gymeryd un rhan yn y gorchwyl, ac felly syrthiodd yr ymgais yn agos i'r dim. Car.lynwyd siampl Ioan gan Benedict XII., tua y flwyddyn 1330, pryd y casglwyd byddin nerthol gan Philip o Valois, brenin Ffrainc, mewn bwriad proffesedig i enill Palestina yn ol o feddiant y Mohametaniaid; ond pan oedd ar gychwyn torodd rhyfel allan rhwng Ffrainc a Lloegr, a chafodd Philip ddigon o waith i'w filwyr yn nes i'w artref, a gorfuwyd ef i roddi fyny ei amcan o barth y Dwyrain. Clement VI. hefyd, drwy werthu rhyddhad a gasglodd fyddin luosog, yn y flwyddyn 1345, ac a'i gosod- odd dan ofal Guy o Vienne, i hwylio tua Smyrna; ond o lierwydd diff'yg lluniaeth, gorfuwjd y milwyr a'u Uywydd i ddychwel- yn ol heb wneutliur dim. Ac ynddiwedd- af, Urban V. a lwyddodd i gyfodi byddin arall yn y flwyddyn 1303, yn erbyn jr anghredinwyr, jr hon oedd i gaeleithywys gan Ioan, brenin Ffrainc; ond trwy i Ioan farw yn hynod o annysgwyladwy y Cyf. xi. fyddin a wasgarodd, a therfynodd y cyfan mewn siomedigaeth. Yr ydym wedi sôn yn hanes y canrif diweddaf am anfoniad cenhadau Pabaidd i blith y Tartariaid, ac yr ydym yn cael iddynt lwyddo yn eu gwaith, fel y tuedd- wyd rhai i dderbyn eu cenadwri. Tua y flwyddyn 1307, sefydlwyd archesgob yn mhrif ddinas Cathay, yr hon oedd yr un, dan enw arall, a Pekin, dinas ymerodrol China yn awr. Ond er i'r cenhadau Pabaidd, a'r Nestoriaid lafurio yno am dymhor gyda gradd o lwjddiant, nid hir iawn y buont heb gyfarfod â 'thrallod anorfodol, oblegid Timur Beg, yr hwn a elwir yn gyfTredin Tamerlane, wedi esgyn i'r orsedd a gofleidiodd grefjdd Mohamed yn benderfynol, a chan ei fod yn barnu ei fod yn rhwym i orfodi pawb i'w derbyn yr un modd íig ef ei hun, yr oedd yn defnydd- io ei awdurdod i gosbi y neb na wnelai hyny. Trwy gosbi y Cristionogion na chymerent eu darbwyllo i newid eu orefj dd, a gwobrwyo y rhai a gydsj nient â'i ddy- muniad, llwyddo a wnaeth i ddifodi Crist- ionogaeth y Pab yn llwyr iawn j n y wlad hyny, tua y flwyddj n 1370; ac ni chafwyd dim hanes bjth am j' cenhadau Pabaidd ; ond ymddengys i'r Nestoriaicl barhau yno yn hir wedi hyny. Yr oedd holl lwythau Ewrop yn ycanrif hwn yn proflesu Cristionogaeth Eglwys Rufain, oddieithr y Lithuaniaid, a thua y flwyddyn 1386, ymostyngasant hwythau hefyd i iau y Pab; oblegid Jagello, eu tywysog wedi cymeryd ei fedyddio i'r ffydd, a ymroddodd yn egniol i ddarbwyllo ei ddeiliaid i wneuthur yr un peth, ac yn hyn bu mor llwyddianus ag y gallcsid dysgwyl. Ond mae lle i feddwl nad oedd eu troedig- aeth ddim ond dyfais i ateb dyben bydol, ac na wyddent ond megis dim am natur Cristionogaeth. Amcan Jagello, mae yn debyg, oedd rhwyddhau ei ffordd i orsedd Pwyl, ac nid oedd dim yu ngolwg ei ddeiliaid ond boddhau tywysog a gyfrifeut j n un nerthol, llwyddianus, a buddygol; ond gan fod holl weithrediadau yr eglwys Babaidd yn cael eu dwjn yn mlaen ar egwyddorion y byd, yr oedd troedigaeth y Lithuaniaid drwy foddion o'r fath hyn yn