Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDTDDIWE. Cyf. XIII.] EBRILL, 1854. [Rhif. 148. BHAGLUNIAETH. " Ac y tnae, ie, holl wallt eich pen icedi eu cyfrif."—Math. x, 30. GAN V PARCH. DANIEL. REES, LLANGYNIDR. Mae yr Arglwydd Iesu, yn y cysylltiad* hwn, yn calonogi ei ddysgybíion i wrth- sefyll y stormydd oeddent iddeu cyfarfod, trwy ddango3 iddynt ofal Duw am danynt yn mhob amgylchiad y gallent fod ynddo yma yn y byd ; ac nid yn unig am danynt hwy, ond hefyd am bob peth, y pethau lleiaf a mwyaf dystadl. " Oni werthir dau aderyn y tò er ffyrling, ac ni syrth un o honynt ar y ddaear heb eich Tad chwi." Nid oes fawr o gyfrif gan ddynion ar y bodau hach hyn, mae un o honynt yn ddi-bris,—rhaid cael dau cyn y bydd iddynt fod yn werth y dernyn lleiaf o arian cym- meradwy,—dau am un ffyrling. Darn hychan iawn o arian hathol oedd ffyrling gan yr Iuddewon. The 9Gthpart of a shil- ling. Bodau bach yn cael eu gwerthu bron am ddim oeddent; dau am un ffyr- ling ; íe, medd Luc, " Oni werthir pump o adar y tò er dwy ffyrling 1" Dyma betbau dystadl'. Waeth yn y byc', nid oes un o honynt wedi ei anghofio gan Dduw,—" Ni syrth un o honynt ar y ddaear heb eich Tad chwî." Nid ydynt yn disgyn i chwilio am eu bwyd, heb fod Duw wedi darparu ar eu cyfer, ac er amled ydynt, nid oes cymmaint ag un o honynt yn cael ei ang- hofio ; gan hyny, os yw yn porthi yr ader- yn, yn sicr ni newyna efe ddim o'r credad- yn. Amcan Crist yw profi athrawiaeth Rhagluniaeth, fel yn cyrhaedd at bob creadur, hyd y nod y Ueiaf a'r mwyaf di- werth ; felly, rhaid nad oedd ei ganlynwyr anwyl yn ddisylw; ewch, gan hyny, yn mlaen yn wroí, pregethwch y gair, ac yn wyneh gelyniaeth y byd na Iwfrhewch, 'oblegid y mae yna un yn gofalu am dan- och, Fel am ganwyll ei lygad ; " ac y mae, îe, holl wallt eich pen wedi eu cyfi if." Ymadrodd diarèbol yw hwn, yn d'angos gwybodaeth berffaith y Jehofah, yn nghyd &*i ofal manwl yn ei ragluniaeth am ei holl greaduriaid. Y mae pawb sydd yn credu fod Duw, yn cyfaddef ei ofal rhag- luniaethol am y cyfanfyd ;. ond pa fodd y CvV. xin. mae yn gofalu, pwy mor fanwl y mae yn sylwi, sydd bwnc ag y mae dynion yn gwahaniaethu yn ddirfawr o berthynas iddo. Rhyw blaid a gredant ac a ddadl- euant fod pob ysgogiad a phob gweithred- iad yn effeithiau uniongyrchol gallu dwy- fol anwrthwynebol ; dywedant na allai creaduriaid, nac unrhyw ddefnydd, fod yn achosion, ond achlysuron, oblegid mai Duw yw yr unig Fôd sydd yn gweithio y cwbl yn y gieadigaeth ; dynion, pob peth, a phawb, yn cael eu rhoddi ar waith fel peiriant trwy rym ager, neu rywbeth arall, ni a feddyliwn. Pleidwyr y gyfun- draeth yma, rai o honynt, a fuant mor Iiaerllug â phriodoli cymmeriad moesol pob dyn i Dduw, gan mai efe oedd yr unig fôd gweithredol ; bodau goddefòl oedd trwy yr holl amheroriraeth. Pl.-iici arall a feddylient i Dduw greu y bydys- awd, yn gyfryw oedd â modd ynddò ei hun i'w ddiogelu yn ngwýneb damweiniau moesol ac anianyddol, fel ag y byddai iddynt gymmeryd lle ; am ei fod, wrth greu meddwl a mater, wedi rhoddi iddynt y fath briodoliaethau, a'u gosod yn y fath sefyllfaedd, a'u diogelu â deddfau, fel ag y byddai iddynt weithio allan yr amcan mawr, ac ateb y dyhen pwrpasol, heb ragor o ymyraeth Duw â hwynt. Gwnaeth beir- iant, rhoddodd bob olwyn yn ei lle, crog- odd ef yn y gwagle, a gosododd yr oll ar waith ; dim rhagor am dano, nid yw yn meddwl am dano, nac i sylwi arno, i dragywyddoldeh. Mae y gjfundraeth olaf a nodasom ya hollol wahanol i'r gyntaf, ac y mae 'y ddwy yn groes i air Duw, ni a fedd- yliwn. Er gwrthẁynebu y gyntaf, digon ydynt eiriau Iago, " Na ddyweded neb pan demtier ef, Gan Dduw y'm temtir ; canya Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb;" ac y mae yr ail yn groes hollol i'r Arglwydd Iesu, yr hwn a ddywed, " Oni werthir dau aderyn y tô am ffyrlingî" Pethaurhad, hawddeurhoi, hawdd eu cael, hawdd bod hebddyrit; ond