Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDRYR. G-OIRFIIEISI-.A.IF, 1856, COFIAXT Mrs. JENKIXS, TYGWYH, | GEE LLA>TGYNDEYEX. Mae adfyfyrio ar Gristion ymadawedig, ac adgofio ei rinweddau, yn un o'r pethau hyfrytaf a allwn ddwyn i'n meddwl. Yma canfjddwn olygfeydd ardderchog, y rhai ynt effeithiau gras Duw yn y galon. Nid yw yn bosibl dychymmygu am olwg mwy swynol nà gweled cariad at Dduw yn blaguro, blodeuo, ac yn ffrwythloni yn ymarweddiad dyn; ac felly fod ei gym- meiiad yn orchuddiedig ac yn addurnedig gan ffiwythau santeiddrwydd. Mae dyn neu ddynes o'r fath nodweddau, yn debyg i " bren wedi ei blanu ar lan afonydd dyfr- oedd.yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd, a'i dalen ui wywa; a pha beth hynag a wnel, efe a lwydda." Mae ei ddail yn wyrdd, ei flodau yn hardd, a'i arogl yn beraidd. Y mae •« megis pren afalau yn mysg prenau y coed, neu lili yn myeg y drain." •• Perarogl Crist" ydyw, ac y mae ei ••enwfel enaint ty walltedig," yn sawrio yn ddymunol lle bynag y bo. Nid rhyfedd fod ysbrydoliaeth yn dweyd, *' foçi coffadwriaeth y cyfiawn yn fend'gedig." Mae y sôn am dano yn creu llonder yn yr ysbryd, ac ailfeddwl am ei waith yn cyn- hesu ein serchiadau fwy-fwy tuag ato. Gellir cymhwyso hyn yn drwyadl at wrth- ddrych ein Cofiant, a dywedyd am dani jr un fath ag am Abel gynt, ei bod, er "wedi marw, yn llefaru etto." Mae ei hysbryd efengylaidd, a'i hymddygiad.iu dyngarol a chrefyddol, mor fyw yn ein meddyliau, ac mor anwyl gan ein serchiadau heddyw, ag oeddent yr amser y preswyliai yn ein plith. Sylwwn ar rai o'i phrif nodweddau, y rhai a ddosranwn i dri do&parth : — 1. El NODWEDDAU NATURIOL. Yr oedd Mrs. Mary Anne Jenkins yn ferch i'r bresenol Mrs. Evans, Allty- cadnaw, yr hon, fel y gŵyr pawb o'i cliyd- nabyddion, sydd enwog mewn gwir ddyn- garwch a duwioldeb. Ganwyd gwrth- ddrych ein cofiant lonawr30, 1823. O'r adeg hon, gofalwyd yn dyner am dani, a diau yr edrychid arni yn fynych gan ei rhieni, fel •' angyles lonwedd fwyn." Dygwyd hi i fyny yn nghanol llawndei, cyfoeth, a threfn, a rhoddwyd iddi y man- teision angenrheidiol er gwir wrteithio ei meddwl, a chynnyddu mewn gwybodaeth o'i Chrëwr mâd. Yr óedd Mary Anne, er yn blentyn, yn Riiif. 173.—Cyf. xv. gryf, cyflym, a goleu ei hamgyffredion medd- yliol,— Cynnysgaethwyd hi yn helaeth â'r cynneddfau hyn, a gofnlodd hithau eu maethu hwynt mewn amser piiodol. Pau yn siarad am bethau, gwnai hyny fel un ag oedd yn eu deall hwynt; gafaelai yn gyflym yn yr hyn a ddywedid wrthi, a chan- fyddai mewn byr amser eu natur, amcanion, a'u caniyniadau. Yn ei hymddangosiad, yr oedd yn fodd- laicn a siriol bcb amser. — Mae llawer o ddynion, er yn wir dda eu hegwyddorion, etto, yn mabwysiadu rhyw dduîl ag sydd yn oeri ein serchiadau atynt, ac yn ein gyru yn mhell oddiwrthynt. Y maent yn wastad yn wgus ac anfoddlaton eu hediychiad ; nid oes dim attynol yn eu gwedd a'u ffurf allanol. Nid un fel hyn oedd Mrs. Jen- kins, ond hollol groes ; pelydrai ei gwyneb- pryd sirioldeb yn ddibaid, a dangosai daw- elwch a boddlonrwydd meddwl yn mhob amgylchiad. Yr oedd yn ystyriol a phwyllog yn nech- retiad yr hyn a gymmerai mewn llaw, ond yn benderfynol, diwyd, agwrol yn ei ddygiad yn mlaen.—Bwriai y draul yn fanwl cyn dechreu ei gorchwyl, ac edrychai yn ofalus i ba ochr y tröai y fantol, Wedi cael pethau i'w lle, a gweled pa fan oedd y loss a'r gain yn sefyll, ai yn mlaen â'i gwaith yn wrol a didroi yn ol. Mynych y gweiir dynion yn ei llwyrgolli yn y pwynt hwn ; yn hytrach nâ bod yn ofalus a phwyllog yn eu mater, y maent yn danllyd, nwyd- wjllt. a diystyr yn eu hcll ymdriniaeth a'u trafodiaeth, t'el y maent yn y diwedd yn methu yn drwyadl a chyrhaedd y peth yr amcanant ato. Ymorchestant i fyned yn mlaen, ac ymdrechant gyrhaedd eu nôd ; eithr nid ydynt, trwy hyny, ond gwneyd pethau yn waeth nag y byddent, o herwydd collasant y ffordd yn y cam cyntaf. Cadwai ein chwaer ymadawedig ei hunan yn mhell o'r llwybr hwn, a chaseai o'i chalon y fath ddull o weithredu. Gofalai yn brydlawn, gweithiai yn egniol, a phenderfynai na chai un rhwystr posibl ei orchfygu, ei hattal i gwblhau yr hyn a amcanodd. 2. Ei Nodweddau Perthynasol. Fel merch, anrhydeddodd ei thad a'i tnam. —Rhoddodd iddynt yr ufydd-dod a'r parch. dyledus. Cydnabyddai ei rhieni boh amser fel uchafiaid, a'i hunan fel îsufiad ; o her- wydd hyny, ymostyngai yn gariadlawu iddynt, can be'lled ag oedd natur y bei- tbyua8 yn ei gofyn. 2 B