Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. MEIDI, 1856. COFIANT Y PARCH. DAFYDD REES, ABEUTEIFI. Gan y Parch. T. E. James, Cwmbach. (Parhad o'r Ilhifyn diweddaf.) Yn y rhifyn diweddaf, taflasom gipolwg ar y rlian hanesyddol o fywyd llafurus y diw- eddar Barcb. Dafydd Rees, o'r pryd y mag- wyd ef yn ardal Glanyfferi, hyd ei farwol- aeth yn Äberteifi. Yn awr, príodol yw sylwi ar y nodweddau Cristionogol hyny, a addum- ent' yn benaf ei gymmeriad r'hagorol, er cyfiawnder i'w goffadwTÌaeth ef, ac er addysg i'r oesoedd a ddeuant. Cawn yn y Bibl Santaidd fod prií' enwogion crefydd yn cael eu haddurno gan iyw rasusau ne'ülduol, megis Moses mewn llarieidd-dra, Abram mewn ffyddlondeb, Job niewn amynedd, a Salomon niewn doethineb ; a gwnaed sylw neillduol o honynt, fel rhai a feddent ar y grasusau hyny. Y mae pethau yn parhau yn mhlith plant yr Arglwydd yn dra thebyg hyd yr awr hon. Er fod yr oruchwyliaeth wedi newid, a'i seremoniau wedi eu syl- weddoli, etto y mae cedym crefydd yn gadarn yn eu grasusau neillduol, megis cynt. Pan yr ydym yn ysgrifenu yn gynredin am wa- hauol nodweddau gwcinidogion y gair, sonir am y dyn, y cyfaill, y gwladwr, y Cristion, y pregethwr, y gweinidog, &c.; ac er fod y drefn hon yn un dra chyffredin, etto, wedi ystyriaeth bwyllog, methodd yr ysgrifenydd a chanfod ei' threfhusach gyda golwg ar wrthddrych parchus y cofnodion hyn. Y mae yn bosibl sôn am bersonau, heb grybwyll am nodweddau; ond cyn y gellir gwneyd bywgrafnad cyflawn, y mae hyn yma yn angenrheidiol. Gyda golwg ar Mr. ítees, dilynir y llwybr cyffrcdin o osod allan ei nodweddau; a dechreuir drwy sylwi arno fel Dyk. Nid ocdd o ran ei berson yn dàl iawn, ac nid oedd yn un o'r rhai bỳraf ychwaith. Yr oedd yn ddyn prydferth yr olwg, a serchogaidd ei wynebpryd. Un o'r pethau cyntaf a'n tarawai wedi deng mynyd o'i gyfeillach, oedd, ei fod yn ddyn didwyìl, dihoced, a diddichell. Fel dyn, addumwyd ef â synwyr cyffredin o'r fath ëangaf. Gwel- wyd llawer yn anghyffredin niewn rhyw dalent neu dalentau; ond yr oedd rhyw " goes fèr " (fel y dywedai uìi) yn tỳnu yn ol yn enbyd; eithr gyda golwg ar Mr. Rees, yr oedd wedi ei lenwi â'r fath gyfìawnder o synwyr cyffredin, fel yr oedd yn dra ogy- hyd ei esgeiriau yn yr ystyr hyny. Fel dyn o'r synwyr cyífredin o'rfath giyfaf, gwyddai Iíiiif. 177.—Cyf. xv. pa bryd i dewi, a pha beth i beidio dweyd. Gwerthfawrogid ei synwyr cyffredin mawr, yn neillduol mewn cynnadleddau; a lle bynag y dygwyddai achosion dyrys, a rheid- rwydd i'w dadi-us. Nid oedd perygl y byädai ol-sylwadau anffafriol ar ei bresen- oldeb yn un man, ond bob amser yn ffafriol, o'r palas i'r bwthyn; ac yr oedd efe yn un a fedrai droi yn y cylchoedd hyn oLL heb wridio, gan wneyd ei hun yn artrefol yn mhob un o honynt. Yr oedd fel dyn hefyd yn ddiddichell; nid bob amser y medrodd ddangos cyfrwysdra y sarff, ond yr oedd yn gyflawTi bob amser o ddiniiceidricydd y go- lotnen. Drwy ei ddiniwreidrwydd, llwyddodd rhai o odreuon dynoliaeth i weithio eu ffordd, yn ddichellgar, i'w fynwes, gydag amcan i'w fradychu; ond, er y cwbl, methasant a chael ynddo ddim yn annheilwng o'i enw a'i swydd; ac o ba herwydd, syrthient i warth a chy wilydd, a chawsai Mr. Rees gyflawnder o archoffeiriaid i gydymdehnlo ag ef, ar gyf- rif ei fod yn mesur ereül wrth y llathen gyf- iawn a berthynai iddo ei hun. Gallesid crybwyll hefyd am dano, ei fod yn ddyn cydwybodol ia^vn, fel y byddai yn hynod o ochelgar rhag gwneyd cam â neb pa bynag. Yn y meddiant o'i gyd^vybodol- rwydd, hoffai roddi yn gystal a dei'byn; ac yr oedd yn elyn anghymmodlawn i bob math o lwgr-wobrwyaeth. Yr oedd hefyd yn un tra sefydlog ac annibynol ei feddwl. Pe diddichelldi-a yn unig a hynodai ei gym- meriad fel djTi, byddai ei beryglon yn aml ac yn lliosog; ond gwrthbwysid y peiyglon hyn i raddau dymunol yn yr annibyniaeth a'r sefydlogrwydd meddwl a berthynai i'w gymmeriad; ac, fel y cyfryw, bamai drosto ei hun; ac fel un a'feddai ar ei fam, dan- gosai hyny mewrn Uafai", yn unol â'r arwydd- ah- hwoiw, sef "Rhydd i bob meddwl ei farn, a rhydd i bob barn ei lafar;" ond gochelai rhag gwneyd dim dan ddyíanwrad pcn-gamrwydd, eithr derbjTiiai argyhoedd- iad gwastadol yn ngwryneb goleuni ac eglur- had gwell. Yr oedd hefyd fel dyn yn hynod o gym- mwynasgar. Er nad oedd uwchlaw bod yn gysùrus fel gweinidog a ymddibynai ar bobl ei ofal am ei gynnaliaeth, etto hynodid ei fywyd gan gymmwynasgarwch mewn llawer ffordd. Ceir llawêr yn dweyd, " Rhodd- wch;" ond annogaeth Mr. Rees ydoedd " Rhoddwn." Nid " Gweithiwch," ond " Gweithiwn;" ac felly mewn cynimwynas- garwch, rhoddai sianrpl o flaen ereill deü^Tig K K