Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

COFIANT Y PARCH. BENJAMIN EYANS. 263 bregethu ar amgylchiadau neillduol, yr oedd ei destunau yn ddetholedig, ei ymadroddion yn dwyn perthynas agos â'r matter mewn llaw, a'i gymhwysiadau o'r fath nad ydoedd modd i ddiengyd rhagddynt. Pan yr ydoedd yn ddiwyd yn cyflawnu ei weinidogaeth, yn y Drewen a lleoedd eraill, a'i lawenydd yn fawr wrth weled amryw yn cael eu hychwanegu at yr eglwys, cafodd ei ofidio yn ddwys oblegid yr ym- drechiadau a wneid er gwasgaru tybiadau ym mhlith ei bobl, a du- eddent ar unwaith i rwygo yr eg- lwys. Y Bedyddwyr oeddynt bryd hyn yn ddiwyd iawn yn gwasgaru amryw gyhoeddiadau bychain ym mysg y gynnulleidfa yn Nhrewen, yr hyn a achosodd ddadl nid bychan mewn perthynas i fedydd Ioan, a'r rhai a fedyddid ganddo; a rhai o ganlynwyr Mr. Ëvans a dueddwyd i ammeu eu bedydd, a thybient mai dyledus iddynt ymostwng i'r ordin- had trwy drochiad, fel y gweinyddir hi gan y Bedyddwyr. Cymmerodd Mr. Evans y pwngc dan sylw, a phregethodd yn achlysurol arno, a hynny gyda y fath rym ac eglurdeb fel y gwelwyd yn fuan ei fod yn feistr ar y ddadl, a bod ei olygiadau yn hollol gyttunol â'r Testament Newydd, gyda golwg ar ddeiliaid yr ordinhad yn gystal â'r dull o'i gweinyddu. Ond gyda phregethu ar y pwngc hwn, cyhoeddodd dri Llythyr at Gyfaill, ar yr Ordinhad o Fedydd; y rhai ydynt mor rymmus ac anwrthwynebol, fel nad galluadwy byth eu dadymchwelyd heb fyned dan seiliau yr Ysgrythyrau hefyd. Cafodd ryw fath o wrthwynebiad, ond mwy o dafod drwg nag o ddadl, yr hyn a ganfuwyd yn union- gyrchol gan y wlad; ac egwyddor- ion Bedyddwyr Babanod a lewyrch- asant yn fwy tanbaid, o herwydd gwendid y rhai a'u gwrthwynebent. Gwnaeth Llythyrau Mr. Evans dda- ioni mawr yn y dywysogaeth, drwy ddangos gwendid, gwrthuni, ac af- resymoldeb yr hyn a gynnygid fel dadleuonganwrthwynebwyrBedydd Babanod. Ond bu y ddádl hon yn achos i iselhau ei fri yng ngolwg y Bedyddwyr; ac oblegid i ddwfr dorri i mewn i'w fedd ar ddydd ei gladdedigaeth, cafwyd llythyr yng Nghastellnewydd-yn-Emlyn, wedi ei ddyddio yn y Nefoedd, a'i ar- wyddo gan Wiìliam Richards, o Lynn, yn gwneuthur gwawd o'r amgylchiad:—ond y mae yn rhy waradwyddus ac esgymmunedig i'w roddi ger gŵydd ein darllenyddion. Yn y flwyddyn 17^7^ cyfieithodd Mr. Evans cGrefydd Gymdeithasol' Mathias Maurice i'r iaith Gymraeg; llyfr o werth ammhrisiadwy i'r Cymry; ond y mae achos i ofni ei fod wedi cael ei esgeuluso yn fawr. Cyhoeddodd hefyd ddau Gatecism, yn yr iaith Gymraeg ; un o ba rai a fwriedid yn neillduol er egluro egwyddorion anymddibyniaeth ac ymneillduaeth. Y mae y ddau yn llyfrau bychain tra defnyddiol, am eu bod yn agor y deall ac yn ehangu yr wybodaeth mewn egwyddorion angenrheidiol i'w gwybod gyda eu proftesu. A thua therfyn ei oes, ymddengys ei fod yn ystyried yn neillduol yr angenrheidrwydd o an- nog crefyddwyr i ufudd-dod efang- ylaidd; ac i'r diben hyn cyhoeddodd yn y flwyddyn 1813, bedair o Bre- gethau ymarferol byrion, y rhai ydynt yn deilwng iawn o gael dar- ìleniad cyffredinol. Yn y wedd hon, bu Mr. Evans yn ddiwyd ac yn llafurus iawn drwy ei hoU oes; a'i unig ymgais ydoedd gwneuthur daioni, ym mhob mannau y byddai rhagluniaeth y Goruchaf yn ei ar- wain iddynt. Wedi ei oddiweddyd gan henaint, pan ydoedd ei babell briddlyd yn gwaelu, ac yn nesu tua chaerau y beddrod, cyfododd ei Arglwydd iddo gynnorthwywr, ym mherson ei nai, sef y Parch. Thomas Griffiths, gweinidog presennol Haw- en a Glynarthen, yr hwn a ddaeth atto i fyw i Drewen. Rhoddes y Goruchaf ei foddlonrwydd ar lafur Mr. Griífiths : ond am fod rhaglun* iaeth wedi torri llwybr arall iddo, ni chanlynodd ei ewythr yn y Dre«