Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PROPHWYD Y JüBILL "mae y deyrnas wedi dyfod." Rhif. 1.] GORPHENAF, 1816. [Cyf. I. ANERCIIIAD Y CYHOEDDWR AT EI GYD-GENEDL. Ddarllenydd Anwyl,—Wele ddechreuad cyfnod newydd, yn ein hoes ni! îe, a'r nn hynotaf a fu erioed, mwyaf rhyfeddol yn ei darpariadau, daionus yn ei gweithrediadau, a gogoneddus yn ei heffeithiau, o bob oes fiaenorol! Unwaith yn rhagor, ymddiried- wyd i ddynion yr agoriadau euraidd o'r nef, er agor pob trysorau, datgloi pob dirgeledìgaethau, ac fel y dad-ddyryser pob cyfeiliorn- adau yn nihlith dynion. Eisoes gwelir drysau y tragywyddoìfyd yn agorydar eu pegynau rhydlyd: ei berlau cuddiedig, a'i drysorau hen a newydd, sydd unwaith etto yn dechreu dysclaerio ar lygaid dynolion, megys yn nyddiau yr lôr! Llawenyched preswylwyr y ddaeai', a rhodded pob Cymro glust o ymwrandawiad i'r nev»-yddion da o lawenydd mawr a udgenir drwy yr udgorn diweddaf hwn. Fy esgusawd dros ddyfbd â'r " Prophwyd" newydd a dyeithr hwn i'ch püth ydyw, oherwydd fy mod yn gwybod fod ganddo lawer o newyddion gwirioneddol, gogoneddus, a llesol, i'w traethu i'ch clywedigaeth, pa rai sydd yn deilwng o ystyriaeth pob dyn— pethau a ddygant oleuni, gwybodaeth, a llawenydd, i bob un a'u derb)Tiio, a lles digymmysg i bawb. Nid oes ynddo dueddiad i niweidio neb; ond y mae ei galon yn fíiam enynol o gariad at bob dyn. ac yn enwedig at lesoli ei frodyr a'i chwiorydd unwaed. Ni ddichon dwyllo neb, oherwydd dwg bob amser glorianau didwyll—rheswm yn y naill law, a safon dwyfol anffaeîedig y gyfrol santaidd ei hun yn y llaw arall, yn rheol benderfynol i bwyso pob gosodiad a ddwg o'ch blaen; a'r neb a ysgrffeno "Mene, Mene, TeM," ar ei dalcen, heb ei gael yn "brin" yn y cloriauau cywir hyn, a wna gam ag ef ei hun, a wrthyd ddanteithion nefolaidd,