Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PROPHWYD T JUBILI "MÄE y deyrnas wedi dyfod." Rhif. 3.] MEDI, 1846. [Cyf. I. TYSTIOLAETH HANESWYR EGLWYSIG YNGHYLCH GWYRTHIAU. Dywed ein gwrthwynebwyr i'r gwyrthiau ddarfod gyda, neu yn fuan ar ol, yr oes apostolaidd; ond y mae eu haneswyr eglwysig eu hunain yn eu herbyn. Wele enghraiíft allan o "Hanes Eglwys Iesu Grist," gan y Parch. Dr. Barth, yr hwn a gyhoedd- wyd gan Gymdeithas y Traethodau Crefyddol yn Llundain. Yn awr, os parhäodd gwyrthiau fel hyn hyd ganol a diwedd y drydedd ganrif, pa beth beblaw Uygredigaeth Cystenyn yn cyssylltu crefydd â gwladwriaeth, &c., a bellhaodd Ysbryd Duw yn ei ddoniau oddiwrthynt ? "Er fod yr anrryw swyddau eglwysig yma yn arwain i'r gwahan- ìaethiad rhwng llên a lleyg, ni allasai gymmeiyd lle yn gyflawn tra yr oedd doniau gwyrthiol yr Ysbryd yn parhau; canys nid oedd y doniau ynia yn cael eu cyfyngu i un dosparth. Y mae amryw o brofion credadwy na ddarfu y doniau neillduol hyny efo'r oes apestolaidd. Y mae Justin Ferthyr yn ysgrifenu at amher- awdwr Rhúfain, yn nechreu yr ail ganrif, fel hyn :—'Y mae lliaws, trwy'r byd yn gyffredin, ac yn y ddinas hon (Rhufain), wedi eu glanhau oddiwrth ysbrydion aflan, pryd nad allasent gael un gwellhad gan eich dewiniaid a'ch tynghedyddion cliwi, yn unig trwy i ni, Gristionogion, ddefhyddio enw Iesu a groeshoeliwyd dan Bontius Pilat; ac y mae yr un peth yn cael ei wneyd hyd y dydd hwn; canys y mae ysbrydion aflan yn cael eu bwrw allan yn wirioneddol o ddynion.' Yn rhan olaf y ganrif }'ma (sef yr ail) y mae Irenaaus, esgob Lyons, yn ysgrifenu:—' Y mae rhai, mewn gwirionedd, jti bwrw alìan gythreuliaid yn enw Iesu : ac yn aml, y mae y rhai a waredir odiliwrth ysbrydion aflan yn dyfod ya