Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PROPHWYD Y JUBILI. NEU SEREN Y SAINT. Rhif. 9.] MAWRTH, 1847. [Pwa 2ç. CATECISM I ATHROFEYDD Y " PEIRCH." Beth yw yr Efengyl?—Cynllun Daw i achub dyn. Pa sawl cynllun, neu efengyl, sydd gan Dduw j achub dynion t—Yr un nifer ag a anfonodd o Gristiau i'r byd i'w trefnu, sef «n ; ac y reae yr un hòno mor gywrain, cyflawn, a pherffaith, drwyddi oll, nes y mae yn addas i bawb yn mhob oes a gwlad, heb gyfnewid drwy leibau na mwyhau un iot na thipyn o honi. Beth yw yr egwyddor gyntaf yn yr efengyl ?—Coelio fod ei Hawdwr hi yn eirwir, wedi ei groeshoelio, a'i adgyfodi. Beth yw yr ail ddyledswydd ar ddyn ?—Ymgyfammodi â Duw, y* ufyddha i'w orchymynion y cyfleustra cyntaf a gaffo, ac yr ymdrecha ymwrthod â'r drwg, a rhyngu ei fodd ef. Beth yw y trydydd peth ?—Myned gydag un o bregethwyr Saint y Dyddiau Diweddaf, yn gymhwys i'r dwfr cyntaf a gaffo, a chymmeryd ti fedyddio ynddo " er maddeiumt pechodau." Bcth yw y pedwarydd peth ?—Derbyn yr Ysbryd Glân drwy arddod- ìad dwylaw henuriaid yr eglwys, megys yn nyddiau yr ApostoJion. Y neb a wnelo yr holl bethau hyn oddiar iawn egwyddor, a fyddant yti Saint, neu blant i Dduw, drwy efengyl Crist Iesu; ac os parhant yn y Ifurf o'r athrawiaeth iachus hon, bwy a gânt deyrnasu gyda'u Prynwr, Crist Iesu, ar y ddaear adferedig, mewn gwynfyd, heb byth farw mwy. A ddichon y pechadur gwaethaf ufyddhau i'r holl ammodau yna cyn gynted ag y deallir hwynt, heb gymhorth Ysbryd Duw ?—Sicr iawn, onide bydd byth heb ufyddhau iddynt, canys ni addawodd Duw ei Ys- bryd i helpu pechadur i gredu mai Iesu yw y Crist, nac i edifarhau, na cherdded i'r dwfr, canys rhoddodd dystìolaeth drwy ei weision a rheswm i farnu y cyntaf, galluoedd naturiol i'r ail, a thraed i ufyddhau i'r trydr ydd, &c. Yna, ni all ddysgwyl i Dduw gredu, ediíarhau, a chael ei fed- yddio drosto ef, na'i orfodi yntau i wneutbur hyny. Ar o/eael maddeu- «ît y rhoddodd Pedr hyd y nod addewid o Ysbrj'd Duw. Gwel Act LL Ú, viii. 15—17. xhc 5, 6. » [Ctf. II.