Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PBOPHWYJD Y JUBILI. NEU SEREN Y SAINT. Rhif. 11.] MAI, 1847. [Pris 2g. Y "CASAWR TWYLL" WEDI EI BROFI YN GARWR, LLUNIWR, A CHYHOEDDWR, "TWYLL" EI HUNAN. Yn rhifyn Mai o'r Diwygiwr, tudal. 144, &c, gwelir traethawd hirfaith dan y teitl, " Y Mormoniaid yn Dwyllwyr," wedi ei gyf- ansoddi gan rywun a eilw ei hun, <* Casawr twyll, o'r Coed-duon." Er fod yr ysgrif drwyddi yn cynnwys digon o brofion i bob dyn ìneddylgar, fod ei hawdwr yn teilyngu y cymmeriad a roisom arno, etto lloffwn rai tywysenau o'i lafur, i ddangos yn eglurach y fath gynauaf a all ddysgwyl, ynghyd ag aflendid y cae a gynnyrcha y fath fresych. Y naid gyntaf a ddyry yr awdwr campus i geisio profi fod yn agos i 1500 o'i gyd-ddynion yn Nghymru, heblaw cannoedd o filoedd ereill, yn deilwng o'r cyhuddiad trwm uchod yw, gwaeddi o ben y clogwyn nerth ei ben, " Gau," a pharhau i waeddi "gau" ddim llai na phedair gwaith yn ei gychwyniad i frwydr. Ar y pegwn hwn y seilia ei holl gam-gyhuddiadau rhag- ymadroddol, fel pe buasai eisoes wedi ennill y frwydr cyn saethu ergyd! Ai peth bychau yn ei olwg yw condemnio yn ddibrawf y grefydd hòno ag yr ymorphwysa cynnifer eu heneidiau arni ? Os felly, profa mai mor fach fyddai ganddo i ereill wneyd yn gyffelyb â'i grefydd yntau. y "mormoniaid yn dwyllwyr." Gan, aiê? Gan ba beth, tybied? Ai gan mai twyllwyr ydj'nt ? Ond gan bwyll, y carlamwr buan, a phrofwch hyny yn gyntàf, ac yua bydd genym achos diolch i ehwi; ond hyd hyny byddai yn llawn mor briodol i ni waeddi, í( gan mai twyllwr ydj'eh chwi, Ye, bawb ereill." Wedi sylfaenu ei gastell awyrawl ar y gair "gan" pentyra gruglwyth o gamgyhuddiadau yn lie meini, ac a'u cìwbia wrth eu gilydd â hylif anwiredd yn lle mortcr ; uc felly, nid rhy- fedd iddjTit gwympo blith draphlith, a'i gladdu vn yr adfeüioii, F ' " [Cyf. tî.