Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PROPHWYD Y JUBILI, NËU SEREN Y SAINT. Rhif. 18.] RHAGFYR [Pris Ig. « LLEFARU A THAFODAU" Y TESTAMENT NEWYDD, A MORMONIAETH! Ma. Gol.,—Cafodd gofyniadau eu cyfeirio ataf fi yn Seren Medi, gan un Parchedig Annibynol o'r Gogledd, ac ysgrifenais atebiad iddynt, gan fod yn sicr yn fy raeddwl y cawswn yr un chwarae têg agagafodd y gofynwr; ond er fy siomedigaeth, dywedwyd wrthyf ei fod yn rhy wael, nad oedd dim o'r " cleterness" a ddangoswn ar brydiau ereill yn yr ysgrif hon, ac na fuasai y Parchedig crybwylledig yn gwneyd un sylw o honi. Yr unig beth a ddywedaf fi yw, i mi wneyd fy ngoreu. Yn awr, yr wyf yn gosod fy achos o'ch blaen chwi, ac yn erfyn y chwarae têg a nacäwyd yn y fan lle y dylasid ei gael. . , Yr eiddoch yn ostyngedig, --------- J. D. [Copi o'r Ysgrif a ddanfonwyd at Olygydd Seren Gomer, dan yr enw uchod.~\ Mr. Gomer,—Pan ddanfonais atoch ysgrif tua mis Chwefror di- weddaf, ar " Lefaru â Thafodau," yr hon a ymddangosodd yn y Seren aoi Fehefin, ychydig oeddwn yn feddwl y buasai neb mor graffus ei olygon ag i weled mai amddiffyn Mormoniaeth oedd hyny; canys nid oedd ond yn unig ymchwiliad i mewn i'r Testament Newydd er gwy- bod pa beth sydd i'w ddeall wrth " lefaru â thafodau." Ond cyn pea deufis, dyma H. Tegai (gwel tud. 258) yn ysgrifenu fel y canlyna:— " Gwelais yn Seren Mehefin, ysgrif o eiddo un J. D., ar • Lefaru a Thafodau.' Os yw J. D. am ddyfod yn mlaen i amddiffyn Mormon- iaeth, deued at wreiddyn y ddadl ar unwaith, trwy ateb, 1. A wnaeth Crist a'i apostolion wyrthiau cyhoeddus ? Os gwneuthant, 2. A ydywy Mormoniaid yn gwneyd yr un modd ? Atebed J. D. fel y myno, ac yna bydd genyf air i.ddywedyd wrtho." Yn awr, dymunwn ar y darllenydd i gymmeryd y drafferth o ail- ddarllen yr ysgrif ar " Lefaru â Thafodau," rhag ei bod wedi myned }n anghof ganddo. Yr ydys yn ceisio profi yno nad yr hyn a feddylia H. Tegai a'r cyfaill o Borthyrhyd, yw y " llefaru" dan sylw ; ond mai rhodd ydoedd o ejddo Duw i'r eglwys, er ei hadeiladu, a'i bod yn N [CVF. II.