Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PROPHWYD Y JUBILI, NEU SEREN Y SAINT. Rhif. 19.] IONAWR, 1848. [Pris 2g. CYFARCHIAD AR DDECHREU Y FLWYDDYN NEWYDD. Dywenydd mawr yw genym gyfarch ein darllenwyr drwy y Prophwyd ar ddechreu y flwyddyn 1848. Ac nid llai fydd ein hawydd, ein hym- road, na'n sel i'w llesoli, ae ni flinwn yn erfjn ar y cyfranwr o bob rhoddion daionus i'w dedwyddoli yn dymmorol ac yn ysbrydol yn y flwyddyn hon, nag o'r blaen. Mae pob blwyddyn fel y dilyna sodlau y llall yn gyflawnach o hynodrwydd a chyfnewidiadau er sefydliad yr eglwys yn y flwyddyn 1830. Mawr y cynwrf a'r cyfnewidiadau a fu yn mhlith teyrnasoedd y byd !—y daeargryrifäau moesol a ysgydwasant gymdeithasau, ac a lwyr ddymchwelasant gyfundraethau sylfaenedig ar ddoethineb ddynol. A dysga ysbryd y brophwydoliaeth ni maidechreu- ad gofìdiau a chyflafan yn unig yw hyn oll, ac y cynnydda, ac y dilyna heintiau, newynau, a chwyldroadau, ar ol sodlau cenadon " goruchwyl- iaeth cyflawnder yr efengyl," hyd oni sengo Mab y Dyn ei draed ar Fynydd yr Olewwydd. Yr amser goreu i drysori gwybodaeth hanesyddol yw pan y byddo y cyfryw bethau yn cael eu cyflawni. O anghenrhaid, cynnwysa hanes yr eglwys am y flwyddyn ddyfodol lawer o ffeithiau pwysig, llesiol, a di- fyrus, os nad anghydmarol. Sefyllfa y " deuddeg" arweinyddion, yr eglwys yn yr anialwch, a sefydliad y " faner" i'r holl genedloedd ydynt yn mhlith rhyfeddodau yr oesoedd mynedol. ' Seion, wedi bod yn gwaedu drwy ei holl chwysdyllau, ac wedi bod am dros ddwy flynedd ar bymtheg yn mron boddi yn y genllif o ormes a tbrallod, syddo'r diwedd wedi planu baneri rhyddid ar benau y mynyddoedd, ac anfon ei chen- adon drwy'r byd i wahodd truenusion y cenedloedd i lawnder a ded- wyddwch. Y mae sylfaen yr amherodraeth gad-arnaf a fu erioed ar ein daear weidi ei osod yn y ftn lle y rhagwelodd prophwydi santaidd, er's canrifoedd. Ni wawriodd un flwyddyn mor obeithiol ar yr eglwys a'r flwyddyn 1848. Bu yr eglwys yn crwydro mewn gwlad ddyeithr yn hir Dyeithriaid, estroniaid, a geiynion, a'i hamgylchasant ar bob llaw. A [Cyf. III.