Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PROPHWYDYJÜBILIJ, NEU SEREN Y SAINT.:. Rhif. 24.] MEHEFIN, 1848. [Pris %.- ÁZARIAH SHADRACH YN FORMONIAD! Anwyl Frawd Jonés,— Un o'm prif ddybenion yn ysgrifenu y llythyr hwn atoch yw, er mwyn eich hysbysu am uirprawf yn yehwanegol ag a gef- ais yn un o golofnau Azariah Shadrach o adferiad yr eglwys yn ol i'r cynllun apostolaidd trwy gysgodau, yr hyn y mae efe wedi ei rajweled yn eglur. Ei ddull ef o osod y drychfeddwl allan yw, tr>vy gymmeryd Zorobabel yn gysgod o Grist; a'r dull a'r modd yr adeiladwyd yr ail deml, yn gyfeiriad at adferiad yr eglwys i'r cynllun cyntefig. Dywed mai yn yr un dull, ac yn yr un modd yr adferasid yr eglwys yn ol i'r sefyllfa ogoneddus ag yr oedd hi yn y dechreu,—îe, i'r un sefyllfa ag y sefydlwyd hi hefyd gan Fab Duw ei hun; ac i'r un sefyllfa ag y mae yn rhaid iddi fod cyn y bydd hi byth ỳn eglwys i Dduw; ac i'r sefyllfa ag y mae yn rhaid iddi fod cyn y dichon dyn gael bywyd ynddi. Mewn gair, mae yn rhaid iddi fod etto fel y bu gynt, neu ynte ni ddichon dyn gael e berffeithio. Ond diolch i Dduw, y mae hi felly, ac wedi cael ei hadferyd yn ol ewyllys Duw, ac yn ei amser da ei hunan. Yr hy» y cyfeiriaf ato sydd fel y canlyn:— »'Yr oedd JZorobabel yn gysgod o^Grist, Zecb. iv, 9. Yn "1. Yr oedd Zorobabel wedi ei ddewis a'i apwyntio gan Dduw i ar- wainlsraelo Babilon i Ganaan: felly mae Crist wedi cael ei apwyntio i ddwyn y Saint yn ol o bob crwydriadau, eu gwaredu o bob caethiwed, »'ü harwain i'r Ganaan nefol. 4,2. Fe adeiladodd Zorobabel yrsail deml yn Jerusalem ; ei ddwylaw ef'a'i sylfaenodd, a'iddwylaw ef a'i gorpbenodd: felly fe adeilada Crist ei eglwys, ac fe fydd yn sicr o ddwyn yr boll adeilad i ben, er mai trwy foddion çwael, a llawer o wrthwynebiadau. Yr oedd yr ail deml hefvd F. [Ctf. IIL