Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PROPHWYDYJUBILI, NEU SEREN Y S.A.INT. Rhif. 26.] AWST, 1848, ■ ,J r,is 2g, AT DDARLLENWYR Y PROPHWYD. Anwyl Ddarllenydd,— Yn gymmaint a'n bod wedi dod i ben yn awr â'r dasg a gym-. merasom arnom er's blwyddyn yn oì o gyhoeddi llyfr at wasanaeth y Saint yn fwyaf neillduol, a llyfr ag sydd yn wasanaethgar i bwy bynag arall ag a, ddewiso ddeall ein hegwyddorion fel yr ydym yn eu proffesu mewn gwirionedd, cymerwn y cyfleusdra presennol o ddywedyd gair yn ei gylch wrth y rhai nad ydynt wedi ei bwrcasu iddynt eu hunain hyd yn hyn. Y llyfr yw yr " Eurgrawn Ys- grythyrol," yn yr hwn y cynnwysir crynodeb o adnodau dyfyn-. edig, a nodiadau genym arnynt, i brofi prif bynciau crefydd Saint^ y Dyddiau Diweddaf. Y mae yn ddiammheuol genym fod i'r Prophwyd bychan hwn lawer o ddarllenwyr ag nad ydynt wedi ufyddhau i'r efengyl a bregethwn, a llawer o'r rhai hyny o bosibl yn ddynic^ rhesymel, ac yn rhai a addefant hefyd mai dyledswydd dyn yw yradrechu: i iawn ddeall yr egwyddorion a broffesa. Cynnorthwyo ein dajv Uenydd i hyn oedd un o'n prif ddybenion yn cyfanspddi a chy- hoeddi yr Eurgrawn Ysgrythyrolar y dull ag y mae. Er ei fod ar drefniad hoUol wahanol i ddim a'r a welsom o'r blaen; etto, yn gymmaint ag mai ysgrythyraú y gwirionedd yw ein rheolau dysg- yblaethol, a'n safon crefyddol, hyderwn y bydd crynoad o farnau yr awduron ysbrydoledig at eu gilydd, a'u gosod wyneb yn wyneb fel hyn o flaen llygaid ein darllenydd, yn fwy manteisiol er iddo iawn ddeall ac amddiffyn yr egwyddorion a broffesir gan y Saint, na phe buasai raid iddo chwilio yr holl gyfrol santaidd ar bob pwnc, megys ag y gwnaethom ni wrth ei gyfansoddi. Mae yr Eurgrawn wedi costio i ni cryn lafur ac ymchwiliad, a ìlawer o weddiau taer am gyfarwyddyd yr Ysbryd Hl^n, fel y