Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PROPHWYD Y JUBILI; NEU SEREN Y SAINT. Rhif. 27.] MEDI, 1848. Päts 2g. DYSGRIFIAD O CALIFORNIA. [A ddyfynwyd o lythyr teitfiiwr diweddar yno, at ei gyfaill.'] "Mewn atebiad i'eh llythyr diweíldaf ataf, dywedaf mai pleser genyf yw rhoddi i cùwi unrhyw hysbysrwydd am yr hyn a weìais ar fy nhaith ddiweddar trwy California. Ymdeithiais heibio tardd- iad yr afon Platte, a ehroesais yr afon werdd i'r dcau i'r mynydd gwyntog, ac oddiyno yn orllewinol drwy y Mynyddoedd Creiglyd i ddyffrynoedd California. "Mae California wedi ei dosranu ya ddwy ran. Mae y naill han- ner o honi yn ddyffrynoedd breision a harddwych, a'r hanner arall ya fynyddoedd a bryniau. Dechreua y dyffrynoedd yn agos i'r Mor, a chyrhaeddant am 80 neu 100 milldir; a rhai a gyrhaeddant hyd y mynydd mawr, ac ereill a*dueddant i'r deau, ac a ymledaen- ant yn eang iawn. Mae y dyffrynoedd agosaf i'r Môr Tawel gan mwyaf o 10 hyd 50, ac weithiau 100, milldir o led, ac y maent yn ddaear hynod o fras; eithr y gweddill o'r wlad nid yw mor firwyth- lon, etto cynnyrcha laswelit a llysiau yn doreithiog. Rhagora y tir goreu yma ar ddim ag sydd ar y-cyfandir am gynnjTchu gwen- ith; o 50 hyd 100 o fwsheli a geir yn gyffredin ar ol heuad un bwshel. Mae yr amaethwyr yma yn codi pys, ffa, a phob amryw- iaeth o Iysiau gerddi yn doreithiog, ac hefyd ŷd yr India, melìon.s. pumpfànss ac nid oes un wlad yn y byd mor addas i gynnyrchu grawnwin â California. Mae yr ychydig drigolion ag sydd yma yn hynod o iachus, ac y mae yr hinsawdd yu hynod o dymherus a hyfryd; nid oes yma nemawr dywydd a ellir ei alw yn auaf; ond y mae yma ddau dy- mhor, gef gwlyb a sych. Nid oes nemawr wlaw yn disgyn yn yr haf, ond dechreua y gwlawogydd tua dechreu mis Tnoh^- H a.