Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYLCHGRAWN. Rhif XVI.] GORPHENAF, 1852. [Llyfe II. CADEENID TEEFN DUW I ACHTJB DYN. GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. JENKINS, BLAENANNERCH, SIR ABERTEIFI. [a gymerwyd allan o'i ysgrifenlaw ef ei hun.] "Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw; sef i'r rhai sydd wedi eu galw yn ol ei arfaeth ef."—Ehuf. viii. 28. Y mae yn ddyledswydd ar bawb sydd yn gwrandaw am Grist wneuthur proffes o Grist; ond y mae llawer yn gwneuthur proffes o Grist heb wreichionen o gariad at Grist. Enaid, swm, a sylwedd gwir grefydd ydyw cariad at Dduw, ac nid oes neb wrth natur yn caru Duw; ac o ganlyniad nid oes gwir grefydd gan neb heb ei chael gan Dduw, ac nis gall neb ei rhoddi ond efe. Yn y bennod hon y mae yr apostol yn gosod allan ragorfreintiau y credinwyr; sef y rhai a gyfiawnhawyd trwy ffydd yn Nghrist—y rhai sydd wedi eu haileni—y rhai sydd wedi eu mabwysiadu—y rhai sydd yn rhodio yn ol yr Ysbryd. Er nad ydyw y saint yn dianc rhag gofidiau yr amscr presenol, gorthrymderau taith yr anialwch—ymgyrch y byd, y cnawd, a'r diafol, picellau tanllyd y fall—marwolaeth naturiol, a llygredigaeth y bedd; eto y macnt wedi cu rhyddhau oddiwrth y gollfarnedigaeth a llywodraeth pechod—wedi derbyn anian santaidd, ysbryd mabwysiad, ac ernes yr etifeddiaeth dragywyddol; yn gyd-etifeddion a Christ—dan ddwyfol ddysgeidiaeth yr Ysbryd tragywyddol—yn derbyn ei gynorthwyon grasol, ei lewyrchiadau nefol, a'i ddylanwadau ysbrydol. Y mae yr apostol yn cysuro y saint trwy ddwyn ar gof iddynt arfaeth a rhagluniaeth dragywyddol, etholedigaeth rasol, galwedigaeth effeithiol, parhad hyd y diwedd—nas gellir gwahanu ctifeddion iachawdwriaeth oddiwrth gariad Duw—y caiff y cyfryw rai eu tragywyddol ogoneddu. Y mae y testun hwn yn cynwys cysylltiad cadarn a rheolaidd trefn Duw i achub dyn. I. Y DIRGELWCH TRAGYWYDDOL A NODIR—"Ei arfaeth ef." II. Y gwrthddrychau DEDWYDD a olygir—"Bhai yn caru Duw," &c. III. Y dedwyddwch cyflawn a ddarlunir—"Pob peth yn cydweithio," &C. I. Y dirgelwch tragywyddol a nodir—"Ei arfaeth ef." Arfaeth ydyw rhag-amcen, Aag-fwriad, rhag-osodiad. 1. Yr achos gwreiddiol o arfaeth. Yr achos gwreiddiol o honi ydyw Duw ei hun, sef yr hanfod tragywyddol yn dri Pherson dwyfol—boddlonrwydd y Duw mawr na bu erioed heb ri amcanion, ci fwriadau, a'i osodiadau tragywyddol. Y mae yn annichonadwy i neb sydd yn ystyried mawredd a phenarglwyddiaeth Duw roddi cred i'r dyb fod Duw heb ei fwriadau; hanfod anamgyffredadwy a gweithgar ydyw o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb. Y mae priodoliacthau gogoneddus yr hanfod dwyfol yn brawf fod gan Dduw ei arfaeth. (1.) Ei hollalluogrwyM. Ni osododd y Jehofa mawr ei allu ar waith erioed ond i