Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(ffglclgraímt. Cyfres Newydd. MEHEFIN, 1864. [Ehif. XXX.] Cracílttrbîiu h ÊnhctmcílîiitL AT Y METHODISTIAID CALFINAIDD YN MORGANWG. AWGRYM i'R CYFUNDEB. Nid oes dim mwy amlwg wedi cymeryd lle mewn amseroedd diweddar na bod llaw yr Arglwydd wedi ei hamlygu yn nghyfodiad a chynydd Methodistiaeth yn Nghymru. " Nid â'u cleddyf, ac nid â'u bwa eu hun y goresgynodd ein tadau y tir." " Nid eu braich eu hun a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a'th fraich, a llewyrch dy wynab, o herwydd i ti eu hoffi hwynt." Nid oedd dim yn mhellach oddiwrth fwriad ein tadau, yn y rhan flaenaf o ystod eu llafur, na sefydlu enwad annibynol o Gristionogion o'r ciddynt eu hunain. Amgylchiadau yn unig a'u dygodd i hyn yma: math o angenrheidrwydd a osodwyd arnynt. Pan welsant fod fFrwyth eu llafnr mor fawr, y plant a enid trwy eu gweini- dogaeth wedi dyfod mor lluosog, yr oedd yn rhaid trefnu rhyw foddion tuag at eu hyingeleddu a'r nad oeddynt i'w çael yn y Sefydliad Gwladol o grefydd i ba un y perthynent hwy eu hunain ; ac felly trefnwyd ar fod cyfarfodydd gweddi, cyfarfodydd cymdeithasol, a chyfarfodydd cynghori i gael eu cynal yn y lleoedd mwyaf cyfieus a ellid gael (defnyddiwyd llawer ysgubor ganddynt i'r perwyl) • a rh wng gwaith yr offeiriaid, blaenoriaid y symudiad, yn pregethu yn afreolaidd yn ol rheolau Eglwys ^gr, y cyffro mawr a gymerodd le yn y wlad, a lluosogrwydd y dysgyblion newydd, tynasant arnynt eu hunain wg ac erledigaeth yr awdurdodau Eglwysig; a gyrwyd hwynt yn erbyn eu hewyllys i gynal pob moddion o ras ar wahan oddiwrth yr Eglwys Wladol; ac, yn mhen amser, i sefydlu cyfundeb gwa- hanol o'r eiddynt eu hunain. Gellir dywedyd mewn gwirionedd, gyda golwg ar hyn, "Efe a'u harweiniodd hwynt ar hyd ffordd nid adnabuant." Gorfodwyd hwynt i fod yn Ymneillduwyr heb eu bod yn Ymneillduwyr. Cawsant eu gyru i ffurfio cyfundeb annibynol heb eu bod yn bwriadu nac yn ewyllysio hyny. Nid oes amcan genym yn bresenol i ymholi yn nghylch ansawdd y cyfan- soddiad a ffurfiasant—ei dda, na'i ddrwg, ei berffeithrwydd na'i anmher- ffeithrwydd, gan hyny, ni chawn ddef- nyddio yr adeg hon i'w ddyrchafu na'i orfoli. Y peth sydd yn synu fwyaf arnom yw, ei fod mor rhagorol, ag ys- tyried yr amgylchiadau o dan ba rai ei ffurfiwyd. Mae yn debyg nad ydyw yn berffaith mwy na rhyw gyfansoddiad dynol arall. Ac efallai nad ydyw yr Eglwys eto wedi darganfod yr un cy- f ansoddiad eglwysig ag y gellir dy wedyd am dano ei fod yn anffaeledig. Amlwg yw hefyd, nad ydyw perffeithrwydd yn hyn yma yn hanfodol i lwyddiant yr Eglwys; canys gwelir hi yn cael ei bendithio a llwyddiant mawr o dan wahanol ffurfiau eglwygig.