Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cgltjjgrdmt Cyfres Newydd.] TACHWEDD, 1864. [Ehif. XXXV. CnicííjBÌriTu k tônljeíriacíljau. CORONIAD Y FLWYDDYN. Coroni yr ydwyt y flwyddyn á'th ddaioni."—Salm lxv. 11. (PARHAD o'r RHIFYN DIWEDDAF.) Y GORON. Coron amrywiol iawn ei defnyddiau ydyw.—Nis gellir llai na chanfod hyn ar unwaith mewn cysylltiad â hi. Y mae yn amlwg iawn yn gorwedd ar ei gwyneb. Nid cyfanwaith pur o'r un peth, nid darn unrhyw drwyddi ydyw. Gwir ei bod yn ddaioni i gyd, daioni digymysg; ond y mae y daioni yn ym- ddangos mewn gwahanol ffurfiau neu agweddau aneirif ; y mae yn dadguddio ei hun, ac yn ymgorffori mewn gwrth- ddrychau amrywiol i'w rhyfeddu. Ac y mae hefyd yn gyfangorff perffaith, fel y mae y gair coroni yn arwyddo. Eithr y mae, er hyny, yn gyfansoddedig o nwyddau amrywiol iawn, wedi eu gweithio yn gelfydd ynddi. Y mae yn lled anhawdd, os nad yn rhy anhawdd eu henwi i gyd, gan mor lluosog ydynt; y mae cnwd y maes, ynghyd â'r ani- feiliaid a borthir ganddo, yn cael eu cynwys ynddi; y ffrwythau a'r cre- aduriaid ddigonir â hwynt, wedi cael eu gweithio iddi; y cwbl sydd yn tyfu allan o'r ddaear, a phob peth sydd yn trigoarni, ac yn ymgynal ar ei chynyrch amrywiol, yn ei gwneyd i fyny. Y mae y creaduriaid byw, ymsymudol, ac yn arbenig y rhai gwaraidd, a gwasanaeth- gar i ddyn, sydd yn pori yr hyn ddaw ailan o'r ddaear, fel cynifer o foglynau yn addurno y goron hon. Y mae por- feydd yr anialwch, yn gystal a lleoedd cyfanedd ac amaethedig, yr ŷd sydd yn gorchuddio y dyffrynoedd, ynghyd â'r defaid sydd yn gwisgo y dolydd, yn dàl lle amlwg iawn yn ei gemwaith. Nodir hwynt allan yma wrth eu henwau, fel yn tynu sylw neillduol; ond y mae yr un mor amlwg nad hwy yn unig a olygir. Y maent yn cymeryd i mewn wahanol fathau neu ddosbarthiadau o wrthddrychau o danynt. Engreifftiau yn cyurychioli pethau o'r un natur yn gyffredinol ydynt; y maent yn sefyll am ddeiliaid ereill y deyrnas lysieuog ac anifeilaidd yn eu holl amrywiaeth diddiwedd. Y mae y goron hon hefyd yn amrywio ychydig mewn gwahanol wledydd, gyda golwg ar ryw bethau am- gylchiadol a lleol, er fod ei sylwedd i fesur mawr yr un dros wyneb yr holl ddaear. Yn ein gwlad ni y mae lle hynod yn cael ei roddi ynddi i'r gwe- nith coch, y ceirch melyn, a'r haidd barfog; ac nid yw y gwair a'r borfa yn llai yn y golwg. Mae y meillion, y pys, y ffacbys, y ffa, a'r hops, yn weith- iedig ynddi, ac nid yw "y cloron, y moron, a'r maip," heb eu lle ynddi, yn nghyd â'r oll sydd fwytadwy gan ddyn neu anifail. Ydyw, mae y blodau o bob math yn perthyn yn agos iawn iddi, os nad yn rhan angenrheidiol o honi. Mae amrywiol ffrwythau y coed, y gerddi a'r perllanau, yn gwneyd i fyny ran o honi, ac un bwysig hefyd. Os nad ydym i edrych ar y coed nad yn yn dwyn ffrwyth, fel y rhai sydd yn cael eu cynwys ynddi, mae Duw o'i ddaioni yn eu dilladu i gyfiawnu gwas- ss