Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ŵjjlílgrahm. Oyfres Newydd."] IONAWR, 1866. [Rhif. XLIX. Crtójtótrra, ŵr, Y GWIRIONEDD FEL Y MAE YN YR IESÜ. GAN Y PABCH. I. MATTHEWS, CANTON. jRIF bvrac yr Apostol yn ei ddy- fodiad at eiriau y testyn, ac yn ngeiriau y testyn yn benodol, yvr dangos—fod dysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu yn arwain at welliant buchedd ac yinarweddiad yn y byd, a thrwy hyny yn darparu y dyn i fuch- edd dragywyddol yn y nefoedd byth. Yn gymaint a bod pechod wedi di- nystrio dyn, a chwedi llanw cymdeithas â phob anhwylderau moesol, y mae dysgeidiaeth Crist yn adferu dyn i'w gyfeiriad priodol, yn ei wella o ran ei foesoldeb, ac felly yn puro cymdeithas, ac yn gwneyd Eglwys y Duw byw fel " halen y ddaear," ac fel " dinas ar fryn, yr hon nis gellir ei chuddio." O dan ddylanwad pechod, gwelir fod dyn- ion yn elynion i'w gilydd, yn casâu eu gilydd: yn dyweyd celwydd ar eu gilydd, yn lladd eu gilydd; eithr y mae dysgeidiaeth Crist yn dysgu caru y naill y llall, dyweyd y gwir " bob un wrth ei gymydog," ac am ei gymydog hefyd. Peidio niweidio neb mewn dim : nac yn ei enw, nac unrhyw beth a allai fod yn gam ag ef. Y mae pethau yn "gweddu i dduwioldeb" ac y mae duwioldeb, lle y mae, yn cy- nyrchu y pethau hyny. Os yw yr Ar- glwydd Iesu, pan " ddyrchafodd i'r uchelder, wedi derbyn rhoddion i ddynion," ac yn eu cyfranu i ddynion, rhaid i'r dynion hyny eu gweithio hwynt allan yn eu hýmarweddiad, ac felly, ymddangos "fel goleuadau yn y byd." "Deisyf gan hyny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar roddi o honoch yn addas i'r alwedig. aeth y'ch galwyd iddi. Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, yn nghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad ; gan fod yn ddyfal i gadw uudeb yr Ysbryd yn nghwlwm y tangnefedd." Pan y bydd yr Apos- tol yn trin gras, mewn cysylltiad â dynion, gwelir ei fod bob amser yn egluro nad oes dim yn cymell i rin- weddau gymaint â gras. A phob am- ser lle y mae gras yn teyrnasu hel- aethaf, y gwelir y gweithredoedd amlaf a chyfoethocaf. Pechod sydd yn an- foesoli dynion, ac yn eu " cylcharwain a phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo." Gras sydd yu gwneyd ei ddtíiliaid yn " gywir mewn cariad," ac yn cynyddu i Grist " yn mhob pefch." Athrawiaeth yr Apostol yn y testyn yw—Os nad ydyw cref^'dd yn gwella y rhai ag sydd yn ei phroffesu, nad ydyw y cyfryw o dan ei dylanwad o gwbl. Os ydych chwi yn rhodio " fel y mae y ceuedloedd ereill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl, wedi tywyllu eu deall,wedi ymddyeithrio oddiwrth fuchedd Duw, trwy yr anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon : y rhai, wedi diddarbodi, a ymroisant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn un chwant," yr ydych chwi " heb ädysgu Crist" eto. " Eithr chwychwi nid felly y dysgasoch Grist." Nid ydyw dysg Iesu Grist yn tywys i aflendid, eithr i santeiddrwydd. Gan hyny, " Os bu chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi