Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

124 BT/CHEDD-DRAETH. BUCHEDD-DRAETH, JSTeu ychydig o hanes genedigaeth a bywyd (y Parch. James Hughes,) Iago Trichrug, a ysgrifiwyd ganddo ei hun, yn y flwyddyn 1825, pan yn 45 oed. Yn Deut. viii. 2, mae yr Arglwydd yn gorchyruyn i feibion Israel, " Gofio yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd eu Duw hwynt 'ynddi, y deugain mlynedd y buont yn teithio yn yr anialwch," <fec. Felly, iawn yw i minau yn awr yn 45 oed, adolygu fy llwybr yn y byd, a daioni Duw tuag ataf yr holl flynyddoedd a dreuliais ynddo hyd y dydd heddyw. Ac O, na folianwn yr Arglwydd am ei ddaioni a'i ryfeddodau i mi y gwaelaf o feibion dynion. » Fy nhad ydoedd Jenkin Hughes, (neu "Siencyn y gôf," wrth ei enw mwyaf cyffredin hyd y wlad) mab i Hugh, Felin y Cwm, gerllaw Llan- ddewi-Aberarth, yn Ngheredigion. Fy mam ydoedd Elen, merch i Rhys y crydd, fei ei gelwid, o'r Pistyll Gwyn, yn mhlwyf Ciliau-Aeron, Ceredigion. Fy mam ydoedd ail wraig i fy nhad, ac hi a fu farw pan oeddwn i ond blwydd a haner oed. Ganwyd fi mewn lle a elwid y Neuaddddu, ar lan Aeron, yn mhlwyf Ciliau, ar y 3ydd dydd o fis Gorphenaf, yn y flwyddyn 1779, a chefais rywfodd fy medyddio dranoeth, fel yr ymddengys wrth y "llyfr gwyn" yn Nghiliau rhagddywededig. Yn fuan wedi fy ngeni, symudodd fy nhad, e weddai, i le a elwir Craig y Barcut, yn yr un plwyf, Ciliau, ac yno, tebygaf, y bu farw fy anwyl fam. Cyn pen hir gwedi hyny, symudodd fy nhad eilwaith i le ŵ elwid Gwrtbwynt Uchaf, yn mhlwyf Trefilan, gan fy ngadael dan ofal dwy fodryb i mi, chwiorydd fy mam, y rhai oeddynt, (y peth a eilw y wlad,) hen ferched gweddwon. Dywedid i mi fy mod yn fachgen tlws pan oeddwn yn blentyn, ae yr oedd fy modryboedd yn boff ac yn anwyl iawn o honof. Y cóf cyntaf sydd geuyf am danaf fy hun yw, bod fy modryboedd yn nadu ac yn crîo yn rhyfeddol ar fy ol, pan oedd fy nhad yh fy nghymeryd ymaith oddiwrthynt, ar ryw noswaith rewllyd, oleu-glaer yn y gauaf, ac fy saod yn cael llawer o hyfrydwch yn edrych ar y sêr megys yn cyd-chwareu yn ddysglaer yn yr awyr, wrth ddyfod trwy y lle a elwir Bwlch y Castell tua Gwrthwynt. Yn fuan wedi hyn, priododd fy nhad y drydedd waith, â gwraig weddw a chanddi dri o blant; yr oedd pump o honom ninau, pedwar o'r wraig gyntaf, a minau o'r ail; ni chafodd fy nhad ddim plant o'r drydedd wraig; a gwelwyd yn fuan nas gallai y ddwy epil gydfyw yn gys- urus yn yr un nyth, gan hyny gorfu ar blant y drydedd wraig fyned allan i weitù. Er hyny, nid hollol gysurus oedd yr hen bobl, gan y byddai yr hen wraig yn ochri at ei phlant ei hun— hyny oedd naturiol iddi wneyd; ond mae'n debyg ei bod yn myned a phethau yn mlaen yn rhy bell, heb yn wybod i fy nhad, pan elai efe oddi- cartref, yr hyn a berai anghydfod go flin rhyngddynt weithiau, pan ddaliai efe yr hen lances mewn rhyw ys- tranciau drwg. Pa fodd bynag, ar y cyfan, nid hen wraig o'r fath waethaf ydoedd hi tuag at fy nhad, nac ych- waith tuag at ei blant ef. Byddai fy mrodyr a'm chwiorydd yn lled ddi- barch o honi hi yn aml; ac yr oedd yn aros iddi hithau ddyoddef pechau felly ganddynt. Gallaf ddyweâyd i mi ei hanmharchu lai na hwynt, am fy mod yn ieuengach, ac iddi hithau ymddwyn tuag ataf, gystal ag y gallesid dysgwyl i lysfam. Dyn cryf, gwrol, a go ddibris oedd fy nhad ; yn grefcwr da, yn weithiwr caled, ac yn gydymaith difyr pa le bynag y byddai. O ba herwydd byddai ymofyn mawr am dano, a chroesaw caredig iddo yn mhob cym- deithas a chyfeddach, niewn priodasau a neithiorau, ffeiriau a mafchnadoedd; a phur anaml y byddai byth gyfarfod gan y plwyfolion, ar uurhyw aohos plwyfol, na byddai rhaid cael Siencyn y gôf yno yn un o wyr y cynghor. Ac anaml iawn y gorphenid y cyfryw gyf- arfodydd heb fyned i'r Hed Lion neu y Lamb yn Nhal-y-sarn, a chadw y gyfeddach i fyuy efalbii tán haner no«e Hyny, yn nghyd ag anniddigrwyd4 gartref, a wnaeth fy nbad yn yfwr go drwm, ac yn llawer rhy ddifater am ei , denlu a'i amgylchiadau; nes <ẁ diwedd iddo i raddau mawr ddibrisio ei hun, ein gadael oll, a cbymeryd ei