Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

154 BTJCHEDD- DRAETH. Stagira, na chwaíth eiddo ei ddiweddar efelychwyr Harris, Home, a Monboddo. Athrylith gynwyuol, ac nid ffurf- reolau sydd yn addurno ineddwl dyri, gan ei ddyrchafu uwchlaw ereill, megys heb iddo geisioy feistrolaeth. Cymer- oddHomergyfarwyddydnatur, a chyf- ansoddodd arwrgerdd anfarwol cyn geni y beirniad Aristarchus; cafodd Demosthenes arweiniad natur, a llefar- odd areithiau didranc cyn bodoli y bratheiriog Ulpin; a derbyniodd Virgil lywiadaeth natur, ac ysgrifenodd haues- gerdd fyth wiwgof cyn anadlu y sènwr Seryius Honoratus Maurus. Nid oedd cymdeithas Celfundeb wedi ei dychy- mygu pan y cerfiodd Phidias, na phan y paentiodd Apelles ; nidoedd Egluryn Ffraethineb yn gyhoeddedigpan arsyn- odd areithyddiaeth Cieero ddadleudŷ Rhufain; nid oedd arnodiadau ar Gein- ddysg yn hysbys pan gyflenwodd Shakespeare ei bruddgerddi gyda darfel- yddion rhagorach na'r eiddo Aschylus, Sophocles, ac Euripides yughyd; ac nid oedd traethawd ar yr arddunol a'r prydferth wedi ymddangos pan arllwys- odd Milton ddysgleirdeb ei awen fawr- eddog ar feddyliau holl lenorion olynol y byd. Braint urddasol yw gallu rhagori ar ddynion cyffredin yn y peth hwnw a barodd eu bod hwy yn rhagori ar yr anifeiliaid direswm; acanghraifft nod- edig o'r lles a geir oddiwrth ond un gwr athrylithgar, yw helaethrwydd y goleuní a dywynodd ar feddyliau dysg- edigion, am dros ugain cant o flynydd- oedd, oddiar ddealltwriaeth lleuerol yr areithydd Cicero. Dylid gwerthfawrogi pob addysg, hyfforddiad, a chynorthwy llenorol, a fyddont at arwain, cyfarwyddo, a chodi dyn mewn gwybodaeth gywir a manyl- graff; ond cyueddfau cynhenid a galluog o fewn dyn sydd yn enynu, gwyniasu, a llugeinio delfrydau bywiog, nerthol, a mawreddus. Dawn cynwynol sydd yti gwneuthur i ychydig ymadroddion syml athrylith allu treiddio at y byw, ac agor dirgel ffynonell ydagrau,mewn lle y byddai ffugarawd mor ddieffaith a'r hyn yw suad awel at hollti craig. Tra'r bydolddyn heb ganiatau amser at geisio dirnad gwirionedd eglur, a'r arddansoddwr, gydag ysbryd araf a musgrell, yn ymlynu wrfch ei resym- iadau oerion ahwyrdrwm, ceir perchen gorddyfnawd yn medru cipdremio trwy holl gyfanswm dyrysbwnc, fel treidd- iad mellden trwy lwybr nad ellir ei olrhain; dichon ef hwylus ymaflyd mewn syniad, y bydd ei werth y tu- | hwnt i ganfodiad celf ; a gall ef ollwng ffrydlif hyawdledd bywhaol i fan a welid yn crinellu dan adroddiad traetheg yn ngefynau ffurfioldeb. Y mae cyrchlam disymwth yr enaid a daniwyd gau athrylith a gorddyfn- awd yn rhyfeddol i lenorion deallus ; a chan ddirmygu aros, am hyd yn oed un eiliad, o fewn i gylch syniadan isel, salw, ac afrywiog, y mae yn dirnad llawer mwy nac a fynegir ganddo, ac yn ymgodi gyda hediant chwyrn i'r syniadau eang ac arnch »1 a gyuwysant yr arwyddion amlycaf o rym a nerthoi- deb. Y mae yn wresog yu ei ysbryd, yn gryf yn ei ddawn, ac yn chwim yn | ei feddylddrychau, fel y ceir cyfiymder | ei symudiadau delfrydol yn tebygu i | daith un o dduwiau Hoiner, pedwerydd | braslam yr hwn a'i dygodd onaill ben j y bydysawd i'r llall.—Iliad. p. xiii. llin. j 32, 33. Yindicitjs. BUCHEDD-DRAETH, Neu ychydig o hanes genedigaeth a bywyd (Y Parch. James Htjghes,) Iago Trichrug, a ysgrifiwyd ganddo ei hun, yn y flwyddyn 1825, pan yn 45 oed. (Parhad o tudal. 126.) Y dyddiatj hyn yr oedd rhyw agwedd nefol ar fy ysbryd i yn feunyddiol: byddwn yn darllen llawer ar y Beibl, yn canu hymnau gyda blas mawr, ac yn gweddio llawer yn fy ffordd i, ar fy mben fy hun, wrth fugeilio defaid ac anifeiliaid fy Nhad. Yr oedd pregethu hefyd yn bwysig ar fy meddwl; o leiaf, yr oedd arnaf chwant mawr i hyny. Anfynych yr awn allan ben bore, heb fy Meibl gyda mi ; ac nid oedd Beiblau bychain hylaw i'r llogell i'w cael yr amser hwnw. Fy hoil hyfryd- wch fyddai pregethu pryd na byddai neb yn fy ugwrando: awn trwy y darllen, y canu, a'r gweddio yn lled rwydd, ac weithiau torwn allan mewn gorfoledd mawr; ond pan awn at y bregeth, byddai yn myned yn ataliad arnaf ar ol ychydig o rágymadrodd