Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BUCHEDD-DRAETH. 227 Gan na pherthyn ymddygiad i ddef- nydd a'i agweddiadau, ac na pherthyn cyfrifoldeb nioesol i anifail direswm, ond y perthyn y ddau i ddyn, rhaid raai gorchwyl ansynwyrol yw ceisio cyp- lysu anianeg a uioesaddysg; a chan mai llyfr yn dadguddio trefn cadw enaid pechadur yw y Beibl, gan ond crybwyll ffeithiau ereill, megys ffyn ysgol i feddwl dyn ddringo trostau y pwnc mawr, uid yw ceisio clytio dar- ganfyddiadau daeareg ar hanes y byd- gread yn yr Ysgrythyr lân, yn haeddu rungen enw na chais at ddyfysgu pethau y dylid eu cadw ar wahan. Pan gafodd Harri VIII. y teitl— " Diffynwr y Ffydd," gan y Pab, dy. wedodd ei gellweirwas, " Harri anwyl, bydded i ni amddiffyn ein gilydd, a gâd i'r Ffydd ofalu am dani ei hun ;" a da pe cymerai ambell un y cynghor yn ein dydd hwn. Nid yw y gwirionedd yn dybynu ar awdurdod dyn, a cheir dyn- ion callaf y byd yn proffesu eu cred ynddo ; eithr y mae musgrellni ambell i amddiffyniad gwan a roddwyd iddo gan rai, yn Uawer tebycach o godi a meithrin anffyddwyr, na'r hyn a allasai yr ymosodiadau cryfaf a wnaed yn erbyn y gwirionedd ei gwblhau. Prynir a darllenir yn Nghymru lyfrau anghred, na wybuasai eu meddianwyr am eu bodolaeth, pe heb i ddynion gymysgu enwau yr awduron llygredig gyda phethau glàu y gair sant- aidd. Arddengys rhydd ymofyniad yr oes am wybodaeth, a phrawf cyhoeddiad cyfrolau dysgedig, llyf rynau goleuadol, a newyddorion craffus, yn nghyd â symudiadau lìywiawdwyr teyrnasoedd, fod gorgyffrawd rhyfedd gerllaw; canys ymae ffenestri nefoedd delfrydau duw- inyddion aruchel yn ymagoryd, a ffyn- onau dyfnder mawr gwleidiadwyr cyf- rwysgall yn ymrwygo tuag at orchuddio gwledydd cred â düuw chwyldroadau, fel y rhaid i gyfundrefnau eglwysig ddyoddef eu puro, ac y rhaid i osod- ladau gwladwriaethol ymostwng i'w glanhau. Eithr er i'r nefoedd daranu, 1 r bryniau ysgwyd, i'r mynyddoedd §rynu, ac i'r ddaear ymsiglo, etifeddion Purdeb a ganant; canys cywirdeb nî syfl, gwirionedd a saif byth, a'r hyn sydd uniawn nid ysgogir yn dragyw- Yindicius. BUCHEDD-DRAETH, Neu ychydig o hanes genedigaeth a byioyd Iago Trichmg, a ysgrifiwyd ganddo ei hun, yn y fiwyddyn 1825, pan yn 45 oed. (Parhad). Yn yard y Tŷ Coch, fel ei gelwid, yn Deptford, yr oedd llawer iawn o Gymry, ac yr oedd arnaf finau flys parhaus am fyned yuo; nid oedd waeth genyf beth a ddaethai o'r grefft, am y cafwn i fod yn mhlith y Cymry. Felly, yn ddiar- wybod i'm brawd,treiglais, a chefais fy ffordd rywfodd i Deptford, Ue y gwelais laweroedd o fy hen gydnabyddion yn Nghymru, a mawr yr hiraetli a godas- ant aruaf am gael bod yn eu plith. Tranoeth dychwelais at fy mrawd, yr hwn a'm ceryddodd am adael fy ngwaìth a fy llety wedi iddo ef dra- fferthu i gael pob un o honynt i mi. Ond nid oedd gwiw, i Deptford y myn- wn i fyned, lle yr oedd digon o Gymry ; a thranoeth daeth efe gyda mi yno, a chefais fy entro, sef fy ngosod ar waith yn y fau,lle y bum am flwyddýn anaw mis, sef hyd ddiwedd yrhyfel, pan y'm trowyd i a rhai cauoedd ereill i ffwrdd, gan nad oedd ein heisieu ar amser heddwch. Hyn a ddygwyddodd tua diwedd mis Hydref, 1801. Cyn dechreu ar ddim yn mhellach, nis gallaf lai na rhyfeddu mor wirion, gwladaidd, a diymadferth creadur oedd- wn i yn fy holl dreigliadau er pan gollais fy nhad hyd yr amser a enwyd uchod; ac hefyd, mor dirion a f u yr Arglwydd tuag ataf, ac mor rhyfedd y gofalodd am danaf. Er i mi fod mewn cyfyng-gynghor mewn ystyr dymhorol lawer gwaith,eto ni bum erioed yn ddi- obaith; byddai rhyw ddrws o ymwared yn agor yn mhob dyffryu Achor, a rhwymau lawer sydd arnaf i gydnabod daioni Duw tuag ataf mewn miloedd o amgylchiadau. O gylch yr un amser ag yr aethum i yard y Tŷ Coch, daeth yno lawer iawn o bobl dlodion o Gymru, yn enwedig o Geredigion, oblegid cynhauaf drwg y flwyddyn hono a chaledi yr amser y pryd bwnw. Yr oedd amryw o'r bobl hyn yn broffeswyr crefydd pan yn Nghymru; ac erbyn dyfod i Deptford, ac heb ddeall gair o Saesonaeg, yr oedd ein hamgylchiadau o barth crefydd a breintiau crefyddol yn ddigon tebyg