Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MAEW-EESTR. 135 Heddwch i'w lwch ar waelod bedd, Ne3 delo i'r lan ar wedd ei Briod. Ni chafodd b'ant. Gadawodd weddw i aìaru ar ei ol, a'i fam, yn 82 oed, a chwaer. Yr Arglwydd rnddo nerth iddynt yn eu gil.r. Castellnedd. E. J. Y PARCH. DAVID DAVIES, P0NTŸP00L. Tachwedd 30ain bu farw v Parcb. David Davies, Pnntypool, yn 63ain mlwydd oed. Buyn y weinidogaeth ara 30aino flynyddoedd, ond ni chaf >dd ei neiUduo i gyflawn waitli y weÌDÌdogaetb nes y flwyddyn 1872, yn Caer- dydd. Yr oedd yn wr o alluoedd cryfion. yn nerthol hefyd yn yr Ysgrythyrau, ac wedi ei drwytho yn dda yn syniadau yr hen Burit- aniaid. Byddai gyda medru'a-wydd yn aml yn gwneyd defnydd o Dr. Owen, Gurnal, a Charnoeẅ. Fel dyn yr oedd yn cael ei barcbu gan bawb a'i hadwaenai, fel Cristion yr oedd yn un dedwydd. fel pregetbwr yn bur dder- byniol, ac yn v seiet yr oedd yn gawr. Nid oes amheuaeth yn meddwl neb na threfnwyd iddo fynediad helaeth i mewn i dragywyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachuiwr Iesu Grist. Rh^gfyr 5fed, dygwyd ei weddillion marwol i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw, Ue y gorphwys hyd ganiad yr udgorn T PARCH. W. JONE8, DWYRAN, MON. Dydd Gwener. Ch wefror 28ain, yn 55 mlwydd oed bu farw y Pareh. W. Jones, Bronceinwen, Dwyran, Mon. Bu yn pregethu yr efengyl am dros 30ain o flynyddoedd. Derbyniwyd ef i gylch y cyfarfod misol yn Cae Athraw, Sir Gaernarfon, cafodd ei neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1857. Yr oedd ei dduwioldeb a'i gysondeb yn ddi- amheuol. Fel pregethwr yr oedd yn un Uafurus, ac yn un o'r rhai mwyaf cymeradwy yn y wlad; fel ceryddwr yn ddidderbyn- wyneb; yn hynod am ei fedrusrwydd i gadw eeiet; yn Demlwr Da selog, ac nid oedd arno Tin amser gywilydd o'r egwyddor ddirwestol. Yr oedd yn aelod teilwng o'r Bwrdd Ysgol, yn Llangeinwen. Dydd Mercher, y 5fed o Fawrth, daeth tyrfa fawr o wahanol ardaloedd ynghyd i Ddwyran erbyn dau o'r gloch, i hebrwng gweddillion y gweinidog parchus uchod i dy ei hir gartref. Dyma y cynhebrwng Uuosocaf a welwyd yn Dwyran er claddedigaeth y Parch. David Jones, 26ain mlynedd yn ol. Tref'n yr yr orymdaith oedd fel y canlyn:—1, gweinid- ogion; 2, diaconiaid; 3, cantorion; 4, yr «lor, ar ypgwyddau pedwar o ddiaconiaid «glwya y Dwyran; 5, y galarwyr; 6, tyrfa gyfiredinol; 7, plant yr ysgolion dyddiol, o din arolygiaeth y ddau athraw. Ỳr oedd y gweidogion canlynol yn bresenol:—Parchn. Robert Hughes, Gaerwen; James Donne, Llangefui; David Roberts, Tyddyn; W. Herbert; Ricbard Owen, Penygarnedd; E. Evans, Bodedern; Simon Frazer, Llanf air; Evan Roberts, Caernarron; W. Jones, New- borough; H. Wilüams, Gwalchmai; W. Pritchard, Pentraeth; John WiUiama, Am- lwch; J. V. Williams, Rhoscolyn; W. Ed- jwdi, Llanfaohreth; W. Williams, Ty Calch, W. Hughes, Taberaaole; R. R. Jones (A.)f Newborough; G. Parry, Brynsiencyn ; W. Roberts, Capel Coch; W. R. Jones, Bethesda; J. J. Hughes, Cemaes; Jobn Owen, Peny- garnedd ; Morris J. Ówen, Penygarnedd; Thomas Jones, Gelliniog; yng)»yd a nifer mawr o ddiaconiaid o wahanol fanau. Llyw- yddwyd ar yr achlysur gan y Parch. R. Hughes. Gaerwen. Dechreuwyd y cyfarfod fran y Parch. W. Herbert. Anercbwyd yn bwrpnsol gan y Parchn. J. Donne. Evaa Roherts, D. Roberts, Thomas Jnnes, ac R. Hughes. Diweddwyd gan y Parch. J. Wil- liarns, Amlwch. Dadganwyd cydymdeimlad dwfn â'r teula galnrus, yn enwedig â Mrs. Jones, yr bon sydd ar ei chlaf wely er's blynyddau; ac erfyniwyd yn deimladol am amddiffyn Tad yr amddifaid a Barnwr y weddw arni hi a'i theiüu bychan. Gwasan- aethwyd ar lan y bedd gan E. Evans. a W. Willinms, Ty Calcb. Yn yr hwyr pregefchodd y Parch. R. Hughes, Gaerwen. yn rhagorolac ỳn gydweddol â'r amgylcbiad, oddiwrth Ioan ;x. i. Y PARCH. JOHN DAVIES, NKRQUIS. Mawrth y 5ed, yn ei breswylfod yn Rhos Ithel, bu farw yr hybarch dad, y Cristion gloew, a'r gweinidog ffyddlon i Grist, y Parch. John Davies, Nerquis, yn 79 mlwydd oed. Yr oedd yn gymeriad adnabyddus iawn drwy holl gylchoedd Methcdistiaeth, fel awdwr " Esboniad ar y Diarebion," y mae ei glod drwy holl eglwysi ac ysgolion Sabbothol ein gwlad, ac fe fydd ei dduil dengar ac agos at y gynulleidfa yn darllen ac yn egluro yr Ys- grythyrau yn fyw am hir amser yn nghof ei wrandawyr. Yr oedd yn ddyn ar ei ben ei hun, ddim yn dynwared neb, yn wahanol i bawb, nid yn unig yn nechreuad ei oedfaon, ond hefyd yn ei ddewisiad o destynau. Y mae llawer yn cofio ei bregethau ar y testyn- au canlynoì •—" Y manna yn peidio dran- oeth," " Lladd y Cawr." " Tori bodiau dwy- law a thraed Adonibezec," " Jonah yn mol y mornl," a "phaham yr erys Dan mewn llongau?" &c, &c. Pa rai oeddynt yn llawn o addysgiadau. Yr oedd yn un o'r pregeth- wyr hynaf yn y Cyf andeb. Nid oes ond dau weinidog hynach nag ef, sef yr hybarch Dad o Donyrefail. a'r enwog Robert Owen y Plant fet y gelwid ef. Dechreuodd bregethu yn y fiwÿddyn 1822. Ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1834; felly hu yn pregethu yr efeagyl am 57 o flynyddoedd, ac yn weinidog am 45 o flyn- yddoedd. Yr oedd iddo air da yn mhob man, cartref ac oddicartraf. Fel Cristion, yr oedd wedi ei wisgo â " phrydferthwch yr Arglwydd." Cafodd y fraint o barhau i bregethu hyd vn ddiweddar, ond wele efe a orphwysodd oddi- wrth ei holl lafur. Cymerodd ei gladdedigaeth le dydd Llun, y lOfed, pan y darfa o gwmpas saith cant ymgasglu yn nghyd er mwyn talu y gymwynas olaf i'w weddiUion. Yn eu pUth yr oedd 66 o weinidogion, a 66 o flaenoriaid. Yroedd trefn ygwasanaeth fel y canlyn :—Wrth y tỳ, cyn cwchwyn, rhoddwyd y penül— «'Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd," Sso. aUan i'w gacu gau y Paroh. Roger Edwardi,