Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gylchgrawn. C*T'ltKK XXI.] EBRILL, 1882. [Kmr. ^36. PREGETH A Draddodwyd yn Nghyfarfod Misol Llanedi, Sir Gaerfyrddin, Mai 25ain 1881, Ea CoFFADWRlAETH AM Y DlWEDDAR BaRCHN. JoHN E\rANS, LlANELLI ; B. D. Thomas, Llandilo ; a John Jones, Ferryside, gynt Llanedi. Gan y Parch. Thomas Job. Conwil. "Mediyliwch am fich blaenoriaid, y rhai a draethasmt i chwi air Duw ; ffydd y rhai dilynwcb, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."—Heb. xiii. 7. EDI ymdriniaeth í'anwl a galluog ar swyddau cyfryngol yr Arglwydd Iesu, ac ar rag- oriaeth Archoffeiriadaeth Crist ar yr Archoffeiriadaeth Iuddewig, a'r Oruch- wyliaeth Gristionogol ar yr Hen Or- uchwyliaeth, yn nghorff yr Epistol hwn, y mae yr apostol yn y benod olaf yma yn rhoddi amrywiol gyfarwyddiadau a chynghorion buddiol a chynwysfawr i'r Hebrëaid Cristionogol, a phawb o'r saint, er eu galluogi i ddal eu ffordd yn mlaen i ganlyn Criat gyda dewrder a phenderfyniad di-ildio, gan eu cyng- hori i undeb, a brawdgarwch, a llety- garwch, a chydymdeimlad dwfn y rhai sydd yn rhwym ; ac hefyd i ufuddhau i'r rhai sydd yn gwylio dros eu hen- eidiau ; a rhoddi parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus, gan wneyd cyfrif mawr o honynt mewn cariad er mwyn eu gwaith : « Ufuddhewch i'ch blaen- onaid, ac ymddarostyngwch ; oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich hen- ™aa chwi' me^s rhai y hydd rhaid iddynt roddi cyfrif, fel y gallont wneu- tnur hyny yn llawen, ac nid yn drist; canys difudd i chwi yw hyny." Yma, rel y gwelwn, y dangosir beth yw ein rhwymedigaeth tuag at ein blaenoriaid yn eu bywyd wrth gyd-deithio â hwy trwy yr anialwch tua thir yr addewid, sei ufuddhau iddynt a'u parchu. Ac ya y testyn, fe ddygir ein sylw at ein rnwymedigaeth tuag at ein blaenoriaid yn eu marwolaeth, ac wedi eu hym- adawiad â ni am yr orphwysfa; sef, meddwl am danynt, dilyn eu ffydd, ystyried diwedd eu hymarweddiad. '" Meddyliwch am eich blaenoriaid." " Eich blaenoriaid." Gorchwylrhy anhawdd fyddai i ni ar hyn o bryd benderfynu hyd at sicrwydd ar ba rai o'r blaenoriaid oedd llygad yr apost<íl wedi ei setydlu yn uniongyrchol yn y fan hon ; o herwydd, yn y penodau blaenorol, y mae m edi bod yn son am amryw o gewri yr Hen Oruchwyliaeth, y rhai yn nghymhorth gras y nefoedd a wnaethant wrhydri yn eu dydd. Fe gofrestrir gyda pharch enwau amryw o honynt yn yr unfed benod ar ddeg o'r Epistol hwn, y rhai a elwir yn nechreu y benod fiaenorol i'r benod hon yn gwmwl tystion ; ac yn ein testyn fe'u gelwir yn flaenoriaid. "Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draeth- asant i chwi aír Duw." Y mae y frawddeg yma yn ein testyn yn lled- arwyddo fod llygad yr apostol yn y fan hon ar rai o broffwydi'r Hen Or- uchwyliaeth, pa rai fu yn mynegu i'r bobl eu camwedd, yn eu galw i edifeir- wch d,m eu bai, ac fel greision ffyddlon y Duw Gornchaf, yn mynegu iddynt tfordd iachawdwriaeth. Gan hyny, chwi welwch mai yr hyn sydd yn yr adnod hon yw ein dyledswydd ni, sydd wedi ein gadael ar ol yn yr anialwch, tuag at y cyfryw o'n brodyr sydd wedi ein rhagflaenu i'r orphwysfa, yn enw- edig gweinidogion cymhwys y Testa- ment Newydd. Fe'u gelwir yn yr adnod hon, yn " rhai a draethasant i chwi air Duw." Y mae ein rhwymed- igaeth tuag atynt yn y cysylltiad hwn 10