Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y CYLCHGRAWN. 4ydd, yn pregethu yno ry w noson waith oddiar y geiriau hyny, "Pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angeu nid ofnaf niwed." Pan yn darlunio y Cristion yn myned trwy " afon angeu," dywedai fod add- «widion Duw fel cylchau,—fel mod- rwyau, ac yn gyffelyb i life-belt y mor- wr yn ei gadw yn " ymchwydd yr Ior- ddonen " rhag suddo i'r gwaelod. Tan- iai y pregethwr y bobl, a thaniai y bobl y pregethwr. Gwaeddai y Dr. yn uchel ar dop ei lais clochaidd a gwynol, ond gwaeddai y bobl yn uwch: & bu rhaid iddo ildìo iddynt i gaeí molianu, a chanmol y Gwr fu farw rhwng y lladron. Ymunodd amryw â'r .eglwys y noson hono. Yn y blynydd- oedd diweddaraf y mae eglwys Pen- tyrch yn un o'r rhai mwyaf parchus a loyal i'r Cyfundeb, nid yn unig yn Nosbarth Caerdydd, ond o fewn cylch y Cyfarfod Misol. Mae'r hen bobl fu yn dal pwys a gwres y dydd gan mwyaf wedi myned adref i'r nefoedd ; ond mae y meibion wedi dyfod yn lle y tadau, a'r merched yn lle y mamau. ûlae y capel yn awr niewn sefyllfa gysurus, yr eglwys yn rhifo dros y cant, ac Ysgol Sul yn tynu am ddau cant, a'r Achos yn myned rhagddo yn Jlwyddianus o dan ofal bugeiiiol y Parch. W. D. Morris. Y blaenoriaid ;presenol ydynt—Mri. William Evans (grocer), Noah Lewis, Enoch Davies, Thomas Evans, a Thomas Awstin. Felly y terfyna ein tiem ar Bentyrch, gyda dymuniad am i'r hen Achos parchus, a defnyddiol, a fu yn perarogli Î'no gynifer o flynyddoedd, fod yn fwy lewyrchus eto nag erioed. Mountain Ash. T. C. Phillips. THOMAS EVANS, PEN-Y-FEIDR, A'I DEULIT. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) JOHN EVANS. 'R oedd John Evans yn ail fab i Thomas a Sarah Evans, Pen- _ y feidr. Er fod eu plant oll * yn rhodio mewn gwirionedd," ac yn cnwog iawn mewn crefydd, yr wyf yn meddwl na ddigia neb oedd yn eu had- nabod am ddweyd mai Ioan oedd y " dysgybl anwyl." Er o bosibl yn llai o allu na rhai o honynt, eto yr oedd ynddo fwy o'r "cariad ni feddwl ddrwg." Yr oedd yn feddianol ar " ysbryd add- fwyn a llonydd, yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr." Yr oedd yn debyg iawn i'w Feistr, yn " addfwyn a gostyngedig o galon." "A'r hwn a'i gostyngo ei hun a ddyrchefìr." Gan ei fod ar ddymuniad rhai o'i blant wedi ysgrifenu ychydig o gof- nodau o foreu ei oes, y mae yn debyg y bydd crynodeb o honynt yn dder- byDÌol gan ddarllenwyr Y Oylch- grawn. Ganwyd ef' yn Spittal, Tach. lOfed, 1793. Ymddengys ei fod o dan ar- graffiadau crefyddol yn bur ieuanc. Y peth cyntaf oedd yn gofio a effeithiodd ar ei feddwl oedd penillion o waith Dr. Watts, a ddysgodd ei nain iddo, pan oedd tua chwech mlwydd oed, sef:— " There is beyond the sky, A heaven of joy and love; And holy children when they die, Go to that world above. There is a dreadful hell, And everlasting pains; There sinners must with devils dwell In darkness, fire, and chains." Gwnaeth y penillion hyn argraff ddwys ar ei feddwl aro ddedwyddwch y nef, a thrueni uffern. Gan nad oedd un ysgol ddyddiol yn agos i'w gartref yn Penyfeidr, a'r teulu yn Iluosog, a'u hamgylchiadau yn isel, ychydig iawn o ysgol a gafodd y plant. Cafodd John tua blwyddyn ar bedwar tro. Ond ^r oedd eu rhieni yn ofalus iawn i fyn'd â hwynt i foddion gras i'r Hall, a manau ereill. Pan oedd tua 12 oed, bu yn gwrando Luther Evans, ewythr i'r diweddar Daniel Evans, Woodstock. Y mae yn debyg mai ei destyn oedd Salm. vii. 11, 12, "Duw sydd farnydû cyfiawn," &c. Yr oedd yn dangos cvf- lwr yr annuwiol "fel un â chleddyí llym yn hoDgian uwch ei ben wrth edau sidan, ac na wyddai pa bryd y syrthiai arno; fod digoíaint Duw yn aros ar y pechadur allan o Grist, ac nad oedd ond yr anadl frau, ac amyn- edd Duw rhyngddo a syrthio i uffern, i'r tân anniffoddadwy." Gwnaeth y bregeth argraff ddwys iawn arno. Daeth cymaint o ofn angeu ac uffern arno nes y ciliodd cwsg oddiwrtho am dio. Yr oedd yn ofni cysgu rhag om