Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

308 V CYLCHGEAWN. arnoeh chwi a'ch plant, genedlaeth a chenedlaeth. Yr eiddoch yn wir, T. Jerman Jones. THOMAS EVANS, PEN-Y-FEIDR, A'I DEULU PAEHAD O HANES JOHN EVANS. R ol i John Evans dreulio tua Daw mlynedd yn ardal Nolton, bu yn gweithio am rai blyn- yddoedd mewn gwahanol fanau yn Sir Benfro, ond lle bynag y byddai, yr oedd " yn ymwasgu at y dysgyblion " ypeth cyntaf yn mhob man. Ýna ymsefydl- odd yn Tyddewi, a bu yn gweithio am amser maith gyda y diweddar Mr. George Williams. tad y Parch. George Williams, Llysyfran yn awr, a phar- haodd cyfeillgarwch mawr rhyngddo a'r teulu tra y bu byw. Yr oedd ef yn cyfrif Mr. G. Williams yn nesaf at fod yn berffaith, ac yr oeddent hwythau f'el teulu yn meddwl am J. Evans yr un fath. Dywedai y Parch. G. Williams am dano yn ei angladd:—" Bydd arnaf rwymau i John Evans i dragywyddol- deb. Yt wyf yn ei ystyried fel tad i rui. Efe ddefnyddiodd yr Arglwydd i fod yn foddion iachawdwriaeth i mi. Efe ddywedodd gyntaf wrthyf am achos fy enaid," &c. Gan ei fod wedi treulio cymaint o amser gyda Mr. G. YŸüliams a'i deulu, y mae y llythyr canlynol a dderbyniwyd oddiwrth y Parch. G. Williams yn dangos y medd- wl mawr oedd ganddynt am dano:— " Llysyfran, 29ain Gorph., 1882. "Anwtl Gypaill,—Y uiae yn dda genyf gael cyfie i ddweyd gair am eich tad. Ÿr oedd efe i mi, nid yn unig yn un o "ragorolion y ddaear," ond yn un o'r rhai rhagoraf yn nihlith y rhai rhagsrol. Ni feiddiaf ddywedyd yr oll yr wyf yn ei feddwl a'i deimlo mewn perthynas iddo. Nid arfer eweniaeth a wnaethwn ar ddydd yr Arglwydd: gorfod atal yr oeddwn bryd hwnw, ac felly yn awr. Ýr oedd nid yn imig yn uchel yn fy ngolwg, ond yn anwyl iawn genyf. Yr oedd yr anwyldeb wedi dechreu oddiar pan oeddwn yn blentyn, ac ni ddarfu leihau dim yn ystod yr haner canrif y bum yn adnabyddus o hono. " Treuliodd gryn amser dan gronglwyd fy rhieni, ac yr oedd sirioldeb a serchog- rwydd ei natur wedi meddianu fy nghalon gymaint pan yn blentyn, fel y mynwn dreulio llawer o amser gydag ef, a niynwn gysgu gydag ef y nos. Ac yn gymysgedig ag ymddyddanion plentynaidd (y rhai a adroddodd wrthyf lawer gwaith gyda Uawer o hwyl mewn blynyddau diweddar- ach), dywedai lawer wrthyf am yr Iesu, gan fy rhybyddio yn ddwys i gadw oddi- wrth bob drwg. Clywodd fi un diwrnod yn arfer gair na ddylwn am blentyn arall, a throdd ataf gyda y difrifwch mwyaf, ac adroddodd i mi adnod o'r Beibl; ac nid yn aml, os unwaith, y darllenais yr adnod hono byth wed'ýn heb goíio am John Evans. Ir oedd gan fy rhieni y parch mwyaf iddo, a'r ymddiried Uwyraf ynddo. Ni chly wais ganddynt yr un bai, na thebyg i fai, yn cael ei osod yn ei erbyn erioed.' " Fel dyn yr oedd yn hawddgar, Uon, a difyr; ac yr oedd y ddynoliaeth brydferth hon wedi ei haddumo â gras y nefoedd. Ac i'r nefoedd y mae wedi myned, ac y mae y nefoedd ar ei mantais o gael J. Evans iddi. Ni bydd arnaf inau eisieu gwell nefoedd nag y mae efe wedi ei chael. " Yr eiddoch yn gywir, gan gredu a theimlo pob gair yr wyf wedi ei arfer uchod. "H. Evans." " G. Williams." Ar ol iddo aros am rai blynyddau yn Tyddewi, aeth i weithio am dro i Sir Fynwy ; a bu yn ffyddlon iawn gyda chrefydd tra y bu yno. Yn fuan ar ol dychwelyd i Dyddewi, Rhagfyr 22ain, 1825, ymunodd mewn glân bri- odas ag Elizabeth, merch i Thomas a Mary JenMns, o Gaerfarchell,—ty sydd wedi bod yn gartref i Fethodist- iaid yn y Ue er ys ugeiniau o flynydd- oedd bellach; a gellir dyweyd nad oedd eu priodas yn anghymharus, gan ei bod hithau wedi dewis yr un pobl a'r un Duw ag yntau. Wedi iddynt dreulio rhai blynyddau yn Nghaer- farchell ar ol priodi, symudasant i Tygwyn, ger Tyddewi; a buont yno tua 24 mlynedd. Yn y fiwyddyn 1858, aethant oddiyno i Treiago, yn yr un plwyf, a buont yno hyd y fiwyddyn 1877. Aethant oddiyno i'w hen le yn Nghaerfarchell i dreulio gweddill eu hoes. Bu iddynt chwech o blant— pum' mab ac un ferch, a buont yn ddi- wyd iawn yn eu "maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Y maent oll yn fyw yn bresenol ond un mab, o'r enw William, yr hwn a fu farw Mai 15fed, 1857, yn agos i 29 mlwyda oed. Ae y mae lle cryf i obeithio ei fod yn "adnabod Duw ei dad."