Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYLCHGRAWN. 85 fydd yn addas i roddi pwysau i'w waith swyddol. "Chwi yw halen y ddaear. Chwi yw goleuni y byd, &c, ebai ein Harglwydd wrth ei ddysgyblion pan ydoedd yn ngbylch eu hanfon allan yn y cymeriad o athrawon cyhoeddus. Fel rhai y niae tywys eneidiau a'u tynged, i raddau, wedi eu hymddiried i ni, nis gallwn golli, trwy gymeryd cam nad yw yn iawn, heb beryglu iachawdwriaeth ereill, fel os na hwyliwn ni yn iawn, yn ofalus, cam- ymddygiad pilot yw ein un ni, na chaiff y fraint o drengu ei hunan heb suddo ereill gydag ef. Mae ymddygiad anfoesol gweinidog yn ddim llai na buddugoliaeth gyhoeddus ar y grefydd a gymhella; a phan gofiom freuolder ein natur, y maglau yr ydym yn agored iddynt, a dichellion y gwrthwynebwr, yr hwn a wna ei oreu o gymaint ag y mae y fantais o lwyddo yn fwy, rhaid i ni deimlo cymaint yw yr angen- rheidrwydd am ymddygiad teilwng yn ei wneyd yn fwy anhawdd i gyflawnu gweinidogaeth y Gair. Rhaid cadw nyn mewn golwg o hyd, a thuag at i m gael ein cadw rhag y drwg, rhaid gweddio llawer am help dwyfol. (Tw orphen yn ein nesaf). HEN BREGETHWYR BRYCHEINIOG. "R oedd " Hen bregethwyr y dyddiau gynt" gan " Hen Ddysgybl," yn rhifyn Ionawr, mor ddyddorol, nes codi awydd ynom ninau i roddi trem frysiog dros rai o " hen bregethwyr y dyddiau gynt" yn Mrycheiniog. Os na chynyrchodd Brycheiniog "yn y dyddiau gynt" gewri o bregethwyr, cododd o'i mhewn, o bryd i bryd, er dyddiau Howel Harris, ddynion a fu o wasan- aeth mawr i grefydd ac i Fethodist- iaeth. Buasai yn dda genym fod yn alluog, fel " Hen Ddysgybl," i roddi adgofion o'r eiddom ein hunain am yr hen bregethwyr a fwriadwn osod ger- bron ein darllenwyr ; ond gan ein bod yn myned yn ol at rai o hen bregeth- wyr y Cyfundeb yn y Sir, prin mae yn rhaid i ni ddywedyd ein bod wedi gwneyd ein hymddangosiad yn rhy ddiweddar yn y ganrif hon i roddi adgofion am danynt. Gresyn fod mor ychydig ar gof a chadw am yr hen gynghorwyr cyntaf yn Mrycheiniog ; ac, yn wir, nid oes ond ychydig iawn o hanes y gweinidogion cyntaf a lafur- iasant yn y Sir wedi dyfod i lawr hyd atom ni. Nid ydym yn bwriadu cadw at y rhai hyny a gafodd eu nheillduo yn gyflawn i'r weinidogaeth, yn y gyfres a ganlyn, ond ceisiwn hefyd adgyfodi ambell i hen gynghorwr a fu o ddefnydd i achos crefydd yn y Sir. Drwg genym na fuasem wedi ymaflyd yn hyn o orchwyl yn gynt. Pe buasem wedi cymeryd ein hysgrifell yn ein llaw flynyddau yn ol, cawsem gýn- orthwy sylweddol y pryd hwnw gan hen bobl yn y Sir oedd yn eu cofio yn dda, ac wedi bod yn gwrando arnynt yn pregethu a chynghori Yr ydym wedi esgeuluso yr adeg briodol: mae yr hen bobl fu yn gwrando y cynghor- wyr a'r pregethwyr boreuaf yn Mrycheiniog wedi myned erbyn hyn i gyd "i dỳ eu hir gartref." Nid oes ond ychydig iawn yn fyw yn y Sir a allant fyned yn ol tuhwnt i ddyddiau William Havard a Thomas Elias. Buasai yn dda iawn genym heddyw fod yn alluog i alw gerbron yr hen bobl hynaf oedd' yma ddeng mlynedd ar hugain yn ol, er eu holi a'u croesholi o barth i "hen bregethwyr y dyddiau gynt." Hoffasem gael gwybod gan- ddynt pa fath ddynion oedd James Beaumont a Thomas Janies, Crug- cadarn; pa fath bregethwyr oedd Hugh Pritchard, Clochydd, Llanhir, a Robert Newell, Nantmel ; pa un ai efengylu neu daranu y byddai Rees Morgan a Rhydderch Price, o gymyd- ogaeth y Gorwydd ; pa un ai toddedig neu gynhyrfus oedd gweinidogaeth Bili Williams a Bili Bevan o Dre- castell; pa fath oedd doniau Morgan Jones a William Powell o gymydog- aeth Crughywel. Pan ydym yn gofyn, " Pa fath 1" mae yr adsain yn ateb, " Pa fath ?" Mae yr olaf a'u clywodd "yn mhriddellau'r dyffryn" er ys llawer blwyddyn^ ac nid oes un o'u gwrandawyr yn aros i ateb yr ychydig gwestiynau a ddymunem ofyn iddynt. Mae yr hen frodyr a enwasom yn huno, bellach, er yn agos i ganrif, ac nid oes genyf ddim yn eu hanes ond eu henwau. Mae y gwaith a ddechreuwyd ganddynt yn aros hyd