Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

239 Y PARCH. WILLIAM PRYTHERCH, FERRY SIDE. Gan y Parch. D: Geler Owen, Cydweli. YN gymaint ag nad oes dim wedi ymddangos am y diweddar dad y mae ei enw uwchben, ond ychydig lin- ellau yn yGoleuad ac yn y Dyddiaduy, meddyliasom anfon gair am dano i'r Cylchgrawn—nid cofiant, na dim yn debyg i gofiant, eithr gair o grybwylliad am dano, i fod yn rhyw beth i dori ar y dystawrwydd, hyd oni wnelo y Cofiant priodol ei ymddangosiad. Pan ddelo hwnw, dysgwylir y bydd yr hen Barchedig, er " wedi marw, yn llefaru eto." Nis gwyddom yn iawn yn mha le i ddechreu, na pha beth i'w ddyweyd arol dechreu ; nid o herwydd cyfyngdra y maes, na phrinder defn- ydd, ond yn herwydd yr hyn y gellir ei alw yn ormod o ddewis. Pan yn cyffwrdd â'i enw mewn g-wahanol leoedd yma a thraw ar hyd a lled y wlad, gwneir i ni deimlo ein bod yn cyffwrdd âg enw gwr y mae gan yn mron pob un swm di- derfyn o hanesynau dyddorol i'w hadrodd am dano. Enw tra adnabyddus ar aelwydydd Cymru, ac yn arbenig aelwydydd Methodistiaid Cymru yn Ne a Gogledd, ydywenw Prytherch. Nid oes eisieu rhoi " Parch. " na " Mr. " o'i flaen, i'r dyben o alluogi y bobl i'w adnabod yn well, neu i'w barchu yn fwy ; gwnaeth y gweinidog hwn ei hun yn barchus yn meddyliau pobl y wlad yn ei fywyd, ac yn anwyl yn eu calonau. Digon yw dyweyd yrenwyn foel—Prytherch ; neu fel y ceid ef ar lafar gwlad er's blynyddoedd bellach—Yr Hen Brytherch. Nid hen o anmharch, cofier, eithr hen o barch ac anrhydedd ; a hen, hefyd, yn gyferbyniol i ieuangc, o her- wydd fod gwr arall o'r un enw, o'r un teulu, yn gwasanaethu yr un swydd ag yntau. Hwyrach mai dyogelwch i ni yw peidio myned yn mhellach gyda'r enw yma : y mae ynddo weithian gymaint o swyn, fel y mae perygl iddo ein harwain ar grwydr ; ac os dechreuwn grwydro, nid oes ditn sicrwydd nad awn i brofedigaeth. Fe ailai y dyryswn rhwng y naill Brytherch a'r lla.ll, neu ynte y temtir ni i'w cymharu â'u gilydd. Yr oedd Prytherch, yn ddi-os, yn gymeriad a safai yn hollol ar ei ben ei hun ; beth bynag a ddywedai neu a wnelai efe, yr oedd delw y cymeriad arno ; efe a osodai ei stamp ei hun ar y cyfan a ddeuai oddiwrtho. Yr ydym yn clywed llawer o son am gymeriad gwreiidiol gan y rhai sydd fedrus ar elfenu a gwahaniaelhu cymeriadau ; ac os bu y fath beth a chymeriad gwreiddiol yn y byd hwn ar ol y dyn cyntaf neu yr ail Ddyn, yr oedd Prytherch yn gyfryw. Un ydoedd â llonaid ei lestr o humour. Ymadroddwr hoenus a rhwydd, ffraeth od- iaeth yn ei ddywediadau, yn taro yr hoel ar ei phen i drwch y blewyn, ac yn ei tharo mor effeithiol y waith gyntaf, fel na fyddai byth eisieu taro hono yr ail waith. O'r mil a mwy o hanesion difyr a geir am dano ef a'i hen gyfaill mynwesol, y diweddar Barch. John Jones, Llanedi, ni a adroddwn un yn unig, yr hwn sydd yn allwedd rhagorol i'r cymeriad yr ydym