Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYLCHGRAWN. Rhif 12. Rhagfyr, 1891. Cyf. I. Y BLAENORIAID—EU CYMHWYSDERAU. YN y rhifyn diweddaf, ceisiasom ddangos beth a ddywed y Testament Newydd am waith y blaenoriaid ; a'n gorchwyl y tro hwn fydd ceisio dangos beth a ddywed yr un llyfr am y cymhwysderau gofynol ynddynt tuag at gyflawnu eu gwaith yn effeithiol. Llawer o g\vyno sydd yn y blynyddoedd hyn, a mwynag a ddylai fod, fe ddichon, o herwydd diffyg y blaenoriaid yn nghyflawniad gwaith eu swydd. Ond pa un a yw y c\vyn yn un a sail iddo ai nid yw, y mae wedi dyfod yn gŵyn lled gyffredinol, ac erbyn hyn wedi mynu cael sylw yn llys uchaf ein Cyfundeb. Beth a ddaw o'r pwngc yn y Gymdeithasfa, cyn y byddo hi wedi darfod âg ef, ni pherthyn i ni ddadgan barn. Y peth priodol i ni o dan yr amgylchiadau yw edrych yn wyneb y gofyniad—A yw y gwyr da sydd yny swydd -yn bresenol yn feddianol ar y cymhwysderau gofynol i'r gwaith y maent wedi eu gosod arno ? Neu fe ellir rhoi y gofyn- iad fel hyn :—A yw ein blaenoriaid presenol, a'u cymeryd fel dosbarth, yn-oreu gwyr ein heglwysi ? Os nad yw y rhai ydynt yn y swydd yn awr yn meddu cymhwysderau iddi, ofer dys- gwyl iddynt gyflawnu y gwaith fel y dylid ei gyfìawnu ; ac os yw y blaenoriaid presenoi mewn swydd na ddylent fod, rhaid i ni gydnabod nad arnynt hwy y gorphwys y bai am yr amryfus- edd, eithr ar yr eglwysi ddarfu eu dewis. Ond bydded diffyg y rhai sydd yn y swydd y peth y byddo, os ydynt, o'u cy- meryd gyda'u gilydd, y goreuon yn yr eglwysi, ni enilhr dim trwy eu diswyddo, ac ail ddewis. Ac os na eíholwyd y rhai cymhwysaf a allesid gael yn yr eglwysi yn y blynyddoedd diweddaf, iawn yw cael rhyw sicrwydd gan yr etholwyr y <nvnant yn well yn y dyfodol, cyn caniatau iddynt ail gynyg, rhag bod yr amryfusedd diweddaf hyn yn waeth na'r cyntaf. Gan fod holl aelodau yr eglwys yn meddu llais yn newis- iad blaenoriaid, y mae yn beth nid o ychydig bwys fod yr holl aelodau yn meddu syniad clir am gymhwysderau y rhai a ddylid ddewis. Yr Ysgrythyrau sydd i benderfynu hyn o bwngc; a'r rhanau mwyaf arbenig o'r Testament Newydd sydd yn ymwneyd ar diaconiaid a'u cymhwysderau, yw Actau^i. ^6, a' 1 Tim. iii. 8-13. Darllener yr adranau hyn yn bwyllog ac yn ystyriol, a'r canlymad fydd yr argy- hoeddiad hwn:-Rhaid i'r blaenonaid fod yn dÿnion da ac yn ddynion llawn. Nid y byddai yn ddymunol iddynt fod