Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

258 CYMDEITHASÍA MAESTEG. YR oedd Cymdeithasfa Awst eleni, a gynaliwyd yn Maesteg, Morganwg, yr wythncs gyntaf o'r mis, yn un o'r Cymdeithasfaoedd mwjaf a goreu a gafwyd er ys blyn- yddoedd. Mae yn wir fod yno wsgder mawr yn cael ei deimlo o herwydd absenoldeb cynifer o wyr y buwyd mor ddiweddar yn edrych arnynt fel yr arweinwyr yn ein plith—rhai o honynt wedi myned i'r Gymanfa fawr yn y nef, ac eraill o honynt wedi methu gan henaint a chan afiechyd; eto yr oeddym yn teimlo fod yr Arglwydd gyda ni, yn ein cyfar- wyddo, ac yn ein bendithio. Fel y mae y rhes flaenaf yn cael ei bylcnu, mae rhyw rai a arferent fod yn nes yn ol yn dyfod yn mlaen i lanw y bylchau, a than arweiniad y Pen- tywysog, y mae y gwaith da yn myned rhagddo, gan nad pwy a fyddo yn syrthio ac yn methu. Y mae hyn yn beth hyfryd i feddwl am dano. Ychydig iawn o'r cynrycniolwyr penod- edig oedd yn absenol yn y Gymdeithasfa ; prin y gallesid dysgwyl, yn nghanol amgylchiadau ansicr, i'r gynrychiolaeth fod yn gyflawnach nag yr oedd hi. Yr oedd yno ddigon o waith, heb raid troi i falu eisin, a dim gormodd. Yr oedd yno hefyd ddigonedd o ddawn ymadrodd i drafod y materion ger bron, heb ddim gwastraffu arno i estyn yr eisteddiadau yn rhy hir, ac i feichio y rhai sydd yn caru gwrandaw mewn dystawrwydd. Os darfu i ryw ychydig yno siarad yn mron ar bob pwnc a fu dan sylw, a siarad amryw weithiau ar ambell un o honynt, yr oeddynt yn siarad mor dda ac mor bwrpasol, fel y mae yn anhawdd meddwl fod neb yn anfodd- loni iddynt. Fe allai mai hwylusdod i'r gwaith yn ein Cym- deithasfaoedd ni yw fod y rhai mwyaf cyfarwydd, a mwyaf craff, yn siarad yn y cynadleddau yn amlach na'r lleill o'r brodyr. Aeth yr etholiadau heibio yn gwbl ddidrwst, ac fel y credwn, yn gwbl ddiddolur i deimlad pob un oedd yn bresenol. Y Parch. William Morris Lewis, Tyllwyd, Sir Benfro, yw y Llywydd etholedig ar gyfer y flwyddyn ddyfodol. Bydd y Parch. William John yn cyflwyno y gadair iddo, os yr Ar- glwydd ai myn, yn y Gymdeithasfa nesaf yn y Twrgwyn. Un o'r materion cyntaf i gael trafodaeth o ddim hyd arno, oedd y cynygiad o'r Gymanfa Gjffredinol am gael newydd- iadur ceiniog yn feddiant i'r Cyfundeb. A oedd yno neb yn credu yn y dymunoldeb i'r Cyfundeb, o dan yr amgylchiadau presenol, ymgymeryd â'r cyfrifoldeb o gyhoeddi newyddiadur wythnosol, sydd beth yr ydym yn tueddu ei amheu ; ond gwnaeth y Llywydd hi yn eglur nad oedd efe yn credu dim yn y fath gynygiad, a dywedodd yn lled groyw mai y tebygol-