Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

i • YR HAÜWE. Rhif 214.] MEDI, 1907. [Cyf. XVIIL MISS ANNE JANE JONES, SARON, NANTYMOEL, [GYDA DARLUNJ. Gyda'r boddhad mwyaf y cyflwynwn i sylw y chwaer ienanc uchod. Merch ydyw i'r brawd a'r chwaer David a Margretta Jones, Vale View, Nantymoel. Mae ei thad yn nn o ddiacon- iaid mwyaf ymroddgar Saron. Yr oedd ei thaid o ochr ei mam, sefy diweddar John James, yn ddiacon gweithgar yn yr eglwys hon pan y bu farw, yr hwn a symmudodd i'r lle hwn o Talybont, ger Aberystwyth. Yr oedd John James yn gym- meriad arbenig, ac yn un o'r Bedyddwyr mwyaf teyrngarol; ac o herwydd ei fedrusrwydd meddygol, cafodd y gymmydog- aeth hon golled fawr ar ei ol. Cafodd ei briod Ann James fyw blynyddau ar ei ol, yr hon a fu farw dau fìs yn ol. Yr oedd hithau yn un o ffyddloniaid Seion. Mae ein chwaer ieuanc felly, yn gyfryw y gellir dweyd am ei chrefydd, megys ag y dywedodd Paul am ffydd Timotheus : " Yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice; a diamheu genyf ei bod ynot tithau hefyd." Pan dan 12 oed llwyddodd i fyned i'r Undeb, ac hefyd paa dan 16 oed, a chafodd wobr y Gymmanfa y ddau dro hyn. Yn Arholiad 1906, nid yn unig llwyddodd i fyned i'r Undeb, ond i fod ar ben y llechrcs yn Safon III. trwy Gymru oll. Er nad oedd neb yn awyddus i sefyll yr Arholiad yn y safon hon o'r ysgol hon, etto bu ein chwaer yn ddigon gwrol a phender- fynol i sefyll ei hunan. Methodd o herwydd afiechyd sefyll yr arholiad diweddaf, yr hyn a barodd ofid nid bychan iddi. Mae hi yn ffyddlawn a gweithgar gyda'r Ysgol Sul, nid er mwyn hunan-les yn unig; ond hefyd er mwyn llesoli ereill, ac felly y mae yn athrawes fedrus a llwyddiannus. Mae yn un o'r rhai mwyaf gweithgar gyda Chymdeithas y Bobl Ieuainc, a dewisiwyd hi yn Drysoryddes y Gymdeithas. Darllenodd