Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YB HAUWR. 241 Ettbeb p 5Bobl leuatnc. " Cyfammodau " Christmas Evans. 1. Adegau y Cyfammodau.—Pan y teimlodd Christmas Evans fod dylanwad Sandemaniaeth a'r dadleuon cyssylltiedig â hyny wedi oeri a bydoli ei deimladau crefyddol i raddau mawr, cawn ef ar ddiwrnod, byth i'w gofio, wrth fyned o Ddolgellau i Fachynlleth, wrth ddringo i fyny at Gader Idris, mewn màa unig a mynyddig, yn ymroi yn angerddol i weddio yn ddibaid am dair o oriau. Darlunia ei brofiad yn yr ymdrechfa ysprydol hon fel y canlyn :—" Teimlais fy holl feddwl fel yn ymddattod o ryw gaethiwed mawr, ac yn ymgodi o ryw auaf oerllyd; rhedodd dagrau lawer o'm llygaid, a gorfu arnaf waeddi allan, a llefain, am ymweliadau grasol Duw â mi, trwy roddi i mi drachefn o orfoledd Ei iechydwriaeth, ac am iddo Ef ymweled â'r eglwysi yn Môn ag oeddynt o dan fy ngofal." Yn ganlynol i'r ymdrechfa fawr hon ar un o lechweddau rhamantus Cader Idris y gwnaeth Christmas Evans un o'i " Gyfammodau " pwysicaf â Duw. Tebyg fu hanes un arall o'i " Gyfammódau " cynnwysfawr a difrifol. Pan yn pryderu yn nghylch symmud o Gaerffili i Gaerdydd ar y mynydd wrth ddychwelyd o Dongwynlais, disgynodd arno yspryd gweddi mewn modd rhyíeddol. Ei ddarluniad o'r ymdrechfa hon ydyw fel y canlyn:—" Wylais am rai oriau, ac ymbiliais â Iesu Grist, a thywalltodd fy nghalon y dymuniadau canlynol ger Ei fron ar y mynydd. Cefais deimlad o agosrwydd mawr at Grist, megys pe buasai yn fy ymyl; a llanwyd fy meddwl â hyder mawr ei fod Ef yn fy ngwrando, er mwyn pob haedd- iant sydd yn ei enw Ef." Bu y mynydd i Christmas fel myn- ydd Moriah i Abraham, ac wedi ymdrechfa fawr mewn gweddi tywalltodd ei ddymuniadau yn y "cyfammod" cyssegredicaf â Duw. 2. Nodweddau y " Cyfammodati." — Edrychai Christmas Evans arno ei hun yn y " Cyfammodau " yn ymrwymo i roi y cyfan berthynai iddo yn llaw Iesu Grist. Rhoddai ei hunan i dderbyn yr iachawdwriaeth fawr gan Grist. i. " Yr ydwyf yn rhoddify nghorff a'm henaid i ti Iesu, y gwir Dduw, a'r bywyd tragwyddol, i'm gwaredu rhag pechod, a rhag angautragwydd- ol. Amen. C.E." Erfynia am nodded ac amddiffyn Rhag- luniaethol Duw, yn'y " Cyfammodau." io. " Caniata nerth i mi i bwyso arnat ti am ymborth a dillad, a gwneyd fy neisyf- iadau yn hyspys. O gofala am danaf fel braint cyfammod rhyngof â thi, ac nid fel gofal cyffredinol i borthi y brain, y rhai a gollir, a gwisgo y lili a deflir i'r ffwrn; ond gofala am danaf fel un o'th deulu, fel un o'th frodyr yn annheilwng. C.E." Edrychai ar y " Cyfammodau" yn wir ddifrifol a