Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HEN GEWRI PULPUD Y BEDYDDWYR. " Dyma y cedyrn a fu wyrjìnwog gynt."—Gmi. vi. 4. Rhif I.—Christmas Evans. *N y rhifyn cyntaf o Seren yr Ysgol Sul M. anrhegwn ein darllenwyr a darlun o Christmas Evans, yr hwn a gydnabyddir fel un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd a dylanwadol a fu erioed yn mhlith ein cenedl. Fe'i ganwyd ar ddydd Nadolig y flwyddyn 1766, mewn lle o'r enw Esgairwen, ger Llandyssul, yn Sir Áberteifi. Enw ei dad oedd Samuel Evans. Crydd gwlad oedd wrth ei alwedigaeth, ac mewn amgylchiadau tra isel. Bu farw pan nad oedd Christmas ond naw mlwydd oed. Wedi marwolaeth ei dad eymerwyd ef gan frawd ei fam, yr hwn oedd amaethwr yn y gymydogaeth. Lle gwael gafodd. Gwr meddw ac angharedig oedd yr ewythr, ac ymddygai yn greulon tuag at y llanc amddifad. Arosodd gydag ef, modd bynag, am ckwe mlynedd. Wedi hyny bu yn ngwas- anaeth íFermwyr ereill yn y wlad hono. Ni chafodd gymaint a diwrnod o ysgol pan yn blentyn, ac yr oedd yn ddwy ar bymtheg oed cyn medru gair ar lyfr. Tua'r pryd hwn bu cryn adfywiad ar grefydd yn y gymydog- aeth lle yr arosai; teimlodd yntau nerth y gwirionedd, ac ymunodd a'r eglwys yn Llwynrhydowen. Drwy ymroddiad llwyddodd i ddysgu darllen Cymraeg mewn tua mis o amser, a thrwy fenthyca Ilyfrau daeth yn gyflym i allu deall yr iaith Seisneg hefyd. 11. Yn bur fuan wedi ymuno a chrefydd daeth awydd cryf arno i ddechreu pregethu; ac wedi i'r frawdoliaeth ddeall hyny anogw^'d ef i arfer ei ddawn pan ydoedd yn nghylch pedair ar bymtheg oed. Cyn hir ar ol hyn aeth i'r ysgol enwog a gedwid gan y Parch. David Davies, Castellhy wel. Bu yno am chwe mis yn cael ei addysg yn rhad, ond ei fod yn cynal ei hun. Er mwyn