Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. GORPHENHAF, 1866. ^mm êmll i " Yn lle drain y cyfyd ffinydwydd, ac yn lle mîeri y cyfyd myrt- wydd."—Isaiah lv. 13. Fel sail arall i edrych ym mlaen am Amser Gwell, edrychwn ar yr hyn sydd eisioes wedi ei wneyd. Y cyfan a wnaed, mae yn ernes sicraf o'r hyn a wneir yn y dyfodol. A pha gymaint yw? Anhawdd, anmhosibl, dichon, i ni yw dychymygu pa gynifer o risiau sy'n gwahanu rhwng y dyn cyntaf, mwyaf egwan a diddiwylliad ei gyneddfau, a'r dyn doethaf a mwyaf rhinweddol sy wedi byw; rhwng yr oes gyntaf yn dechreu yn gyfangwbl drosti ei hun ac un o'r oesau diweddar hyn ag ydynt etifeddion mil o ganrifoedd. Mae yr hyn a gyrhaeddodd dyn yn barod yn anfesuradwy; llawer mwy felly yr hyn y bydd i'w ymdrech a'i hunanymwadiad ei gyflawni mewn amser i ddyfod. Tra ar y pen hwn, iawn sylwi, er fod rhai cenedloedd a llwythau yn ymddangos yn dirywio a dadfeilio, a rhai gwled- ydd yn awr fel yn aros yn yr unman; eto, mai ffaith nas gellir ei gwrthdroi yw—mai rhagddo ar y cyfan, gyda mynych droi o gylch a mynych oediad—ond rhagddo ar y cyfan y mae'r byd yn cychwyn. Mae mwy o wybodaeth, ac o ymofyniad am wybodaeth, mwy o ddiwydrwydd, mwy o ddyfais, mwy o gyfoeth ar dreigl ac yn lleshau preswylwyr y ddaiar; cyfiawn- ach deddfau raewn grym; haelach darpariaethau ar gyfer angen a thlodi, anwybodaeth a throseddau; mewn gair, mwy o rinwedd o bob rhyw, a mwy o ffydd yng ngallu rhinwedd; mwy o dduwioldeb hefyd—y blodyn tecaf yn holl erddi rhin- h2