Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. 12 AWST, 1866. çdffttrjîaá dfpteipad Youth's wings should trim themselves for fligbt Ere youthful strength be gone, Thro' hate of wrong and love of right To bear him bravely on.—Goethe. Mae cymeriad pob dyn yn ymddibynu ar ddau fath o safon: yn gyntaf, arno ei hun; yn ail, ar sefyllfa feddyliol y wlad y bo yn byw ynddi. Y blaenaf, oblegyd yn y dyn ei hun y mae defnyddiau'r cymeriad; yr olaf, o herwydd nad yr un peth a ystyrir yn gymeriad da ym mhob gwlad; yn y deymas hon, fel engraifiFt, ac ym mhlith, dywedir, yr Hottentotiaid; gan Fahometaniaid a Phabyddion, a chan Grist'nogion Protestan- aidd. Y safon a fabwysiadwn ni a fydd yr ieuanc ei hun yng ngoleu yr hyn a ymddengys i ni yn wir Grist'nogaeth. Y hi a gaiff fod y fantol i brofî pob gosodiado'u heiddo. Cymeriad da, ynte, yw y trysor sydd yn gwneuthur yr ieuanc yn bwysau derbyniol a chyflawn yn y glorian a nodwyd. Ystyriwn gymeriad da fel y trysor goreu i ddyn ieuanc yn y byd hwn ac ar gyfer y byd a ddaw, gan nas gall dim fod yn werthfawrocach na daioni. Ni a geisiwn nodi y moddion effeithiolaf er cyrhaedd y perl drudfawr hwn, a thuag at arwain y meddwl ieuanc ato. Bydd a fyno ein sylwadau yn benaf â dyn ieuanc rhwng deuddeg ac ugain oed. Y pryd hwn mae yn gofyn am hyfforddiad, ynghyd âg anogaethau cywir a chedyrn, yn gymaint ag y gall fod gwahanol achos- ion, arferion, a chymhelliadau wedi gadael llawer o argraffiadau llygredig ar y meddwl yn flaenorol, a bod rhag-dueddiadau l2