Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. /if HYDREP, 1866. Defensor Fìdei: Ymddiffynydd y Ffydd. Ceir hyn mewn cysylltiad âg enw ein grasusaf Frenines ar holl arian bathol ein teyrnas. Gofynodd Shôn Landwr, pwy ddiwrnod, wedi i mi egluro iddo yr uchod, "Ymddiffynydd o ba ffydd ydyw hi ? " Atebais, " Y Ffydd Brotestanaidd." " Beth yw hònoî " ebe Shôn. " Wel, yn wir,'' ebwn inau, " mae y gofyniad mor bwysig, fel nas gallaf ei ateb yn awr. Ond gallaf godi llaw mewn syndod, a rhyfeddu, os yw ein Brenines dda yn cadw at ei dyledswydd, y raae ganddi waith mawr i'w wneyd y dydd- iau hyn i ymddiffyn y Ffydd Brotestanaidd yn nwylaw cynifer o wahanol bleidiau. Yn gyntaf, gyda'r Eglwys Lân Gatholig, ar yr hon y mae hi yn ben. Yn ail, gyda'r lluoedd Ymneillduedig o wahanol enwadau, y rhai nid yw hi yn ben arnynt, mwy nag yw hi yn ben ar y Mahometaniaid neu'r Brahminiaid. O'r goreu, pa fodd yn awr y mae Ymddiffynydd y Ffydd yn sefyll yng nghanol y berw 'stên-shonedol hyn? Pa fodd y mae hi yn teimio? Nis gall fod yn dda. Tosturiwn wrthi hi. Nis gall fod yn ësmwyth arni fel ag i ganu Salmau. Plant drwg, lawer o honynt, sy ganddi yn y tŷ Episcopalaidd, ar yr hwn y mae hi, fel eraill o'i blaen, wedi ei gosod yn ben gan Harri VIII, y dyn duwiolfrydig hwnw I Nid yw teulu y tỳ hwn heb fod yn amrafaelio â'u gilydd; ac os yw hi yn gwneyd ei dyledswydd, y mae yn gorfod cymeryd rhywbeth mewn llaw rhagor na fflangell o fân-reffynau i'w tawelu." O'r " tu allan hefyd y ceir y cŵn," yn cyfarth i'w haflonyddu b 2