Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW, RHAGFYR, 1866. X, GAN T PAKCH. CHARLES VOYSEY, B.A., A draddodwyd ganddo yn Eglwys Healaugh, ger Tadcaster, Hydref 2lain, 1866. " O blant bychain, na thwylled neb chwi. Yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megys y mae yntau yn gyfiawn."— 1 Ioan iii. 7. Yr wythnos cyn y ddiweddaf, yn y cyfarfod o esgobion a chlerigwyr a gynhaliwyd yng Nghaerefrog, adroddir ddarfod i wr urddasol o'r Eglwys ddweyd " fod crefydd heb foesoldeb yn well na moesoldeb heb grefydd." Gan nad yw ei eiriau ei hunan o fy mlaen, ni chrybwyllaf enw y llefarwr; ond mor bell ag y gallwn i gasglu oddiwrth yr adroddiad, amcan yr holl araith oedd dadleu yr angenrheidrwydd am gredo haerdybiol, a dangos rhagoriaeth credo ar ymarferiad. Poenus fel y rhaid bod y fath olwg i chwi a minau, eto nid wyf fi yn synu dim fod gwr urddasol o'r Eglwys yn ei gosod allan, nac ychwaith iddi dderbyn y fath gymeradwyaeth gan y clerigwyr cynulledig; oblegyd yn wir mynych y clywais i yr olwg hon yn cael ei thraethu neu ei hawgrymu mewn gwahanol flyrdd, ac mewn graddau gwahanol o ddigywilydd-dra. Mae rhai Uchel- Eglwyswyr wedi cystal â gwadu y posiblrwydd o fod yn gyf- iawn heb gael bedydd a chyfranogi o swper yr Arglwydd; ac y mae yr efengyliaid wedi myned mor bell â dweyd fod bywyd moesol yn rhwystr yn hytrach na help i'n derbyniad o'r efengyl. Rhyglyddant ryw gymaint o gredid am eu gonest- rwydd a'u cysondeb; ac oni b'ai y fttth fynegiadau â'r rhai hyn, z2