Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

62 CYFABFODYDD YSGOLION. yr Arglwydd," pen i; araith ar " Yr angen- rheidrwydd o feddugwybodaeth Fciblaidd." Am 2 o'r gloch, cafwyd ancrchiad gan y llywydd, yn anog i lafur ac ymroddiad ychwanegol gyda'r ieuenctyd, ac araith ragorol gan frawd ieuanc o'r Graig ar " Ddy- ledswydd crefyddwyr i fod yn aelodau o'r Ysgol Sabbothol, acifod ynffyddlon ynddi." Gan na ddaeth y cynrychiolydd o Benygarn a'i araith ddisgwyliedig ar " Arholi mewn cysylltiad â'r Ysgol Sabbothol," rhoddwyd ar Mr. R. Morris i holi'r plant eto yn yr un penodau ag yn nghyfarfod y boreu, er rhoddi engraifft o'r modd y dylid cario'r gwaith hwn ymlaen. Gohiriwyd ethol swyddogion, sef lly wyddac ysgrifenyddhyd y cyfarfod nesaf, am nad oedd cynrychiolydd yn bresenol o Jjibanus na Phenygarn.—E. Jones, Ysg. LLEYN AC EIFIONYDD, Dosbarth Eifionydd.—Llywydd, Mr. D. J. Williams, 3oar ; Is-lywydd, Mr. J. B. Jones, Pencoed ; Trysorydd, Mr. T. Grifiiths, Penant; Arholydd, Parch. J. Jones, Pencaenewydd. Moriah, Ionawr lleg, 1880. Am 10, cymerwyd y gadair gan Mr. T. Roberts, y cyn-lywydd. Adroddwyd llyfr y Proffwyd Jonah gan y plant, a holwyd hwynt ynddo. Canwyd amryw ddarnau o Swn y Jiwbili. Am 11, caf wyd sylwadau ar y mater penodedig, sef " Y buddioldeb o ddarllen y Beibl yn ein horiau hamddenol." Cyfarfod athrawon. Dewiswyd ynlly wydd am y flwyddyn, D. J. Wüliams ; yn is-lyw- ydd, J. B. Jones; trysorydd, Mr. T. Griffiths, Darllenwyd cofnodion y cyfarfod diweddaf, galwyd yr ystadegau, a darllenwyd cyfrifon ysgol Moriah. Darllenwyd hefyd yr ystad- egau am y flwyddyn, ynçhyd a chyfrif y trysorydd. Derbyniwyd llais yr ysgolion mewn perthynas i'r gymanfa—y rhan fwyaf dros ei chael yn y Garn yr un modd a'r llynedd. Cadarnhawyd y materion. Pas- iwyd cael dau arholiad—un i'r ieuenctyd a'r llall i bobl mewn oed—i'w gynal ymhob capel—ymddiriedwyd y rhan gerddorol i'r un pwyllgor a'r llynedd. Derbyniwyd llythyrau oddiwrth weinidogion y dosbarth m addaw eu gwasanaeth. Cyfarfod nesaf i bd yn Brynengan, Chwef. 22ain. Mater areithio, " Y ddyledswydd o ufudd-dod o fewn cylch yr ysgol." Cynrychiolwyr Penant a Phencoediagor ymater. I'rplant, "Hanes Moses ;" i'r ysgol yn gyffredinol, Ilhuf. iv.— Yr Ysg. [Anfoned yr ysgrifenydd ei gyfeiriad i ni. —Cyhoeddwr.] Dobbarth Penlleyn.—Cynhaliwyd Cyf- arfod Ysgolion Sabbothol Penlleyn, yn nghapel y Bwlch, Llanengan, Rhag. 28ain, 1879. Holwyd ysgol y lle gan y Parch. John M. Jones, Dinas, oddiar Ioan iii, am 10 a 2. Mater pwysig, sef " aü-enedigaeth," yn ei drych, gwelwn mai anmhosibl i unrhyw ddyn, pa mor ragorol bynag y bo, weled na myned i mewn i daprnas Dduw heb yr oruchwyliaeth ysbrydol hon. Yn y cyfarfod ganol dydd, laf. Galwyd y cyfrifon, yr oedd cenhadon o 13eg o ysgolion allan o 20ain. 211. Yn gymaint a bod yr wythno3 gyntaf o'r flwyddyn i'w threulio ar ein gliniau am i'r Arglwydd lwyddo ei waith, mai priodol iawn a fyddai i'r Ysgol Sabbothol am Sab- bath gael ei throi yn gyfarfod i wcddio am ddeffroad ynddi a llwyddiant arni i'w hamcan gogoneddus. Ymddiddanwyd yn wresog ar hyn, a phasiwyd anogaeth un- frydol i hyn gymeryd lle yr llcg o Ionawr, 1880, ymhob capel yn y dosbarth. 3ydd. Rhoddwyd anogaethau o blaid lledaeniad y Cronicl a Dyddlyfr yr Ysgol Sabbothol, a dymunid ar y cenhadon gario hyn adref i'r gwahanol ysgolion. Y cyfarfod nesaf i fod íc yn Uwch-y-mynydd, Ionawr 25ain, 1880. Mater Ex. xii., a Luc xxii; i'r plant yr Holicdydd Bach.—M. Joncs, Ysg. SIR DDINBYCH. Dosbartii Llanrwst.—Ion. lleg, cynhal- iwyd Cyfarfod Ysgolion yn y Nant. Dech- reuwyd cyfarfod y boreu gan Mr. R. Thomas, Sychnant, pryd yr adroddwyd penod gan Miss M. Harker. Holwyd y plant gan Mr. R. Morris, Pantllin. Ychydig o gynrychiol- wyr oedd yn bresenol. Penderfynwyd ar fod i'r gwahanol gynrychiolwyr gario adref yr anogaeth i'r ysgolion ymgymeryd â materion yr arholiad sirol. Cyfarfod nesaf yn Salem, y 3ydd Sabbath yn Mawrth (21ain). Mater, " Yr Adgyfodiací," 1 Cor. xv, a Hanes Icsu Grist i'r plant. "Darllen i fuddioldeb," gan Mr. W. J. Williams, Regent House. Penderfynwyd gwneyd cais am wasanaeth y Parch, E. Davios, Trefriw, yn arholydd yn y Dosbarth. Holwyd yr ysgol am ddau o'r gloch gan Mr. M. Davies. Gwnacd sylwadau gan yr ysgrifenydd ar lafur a rhifodi y gŵahanol ysgolion yn y Dosbarth.—•W. Owen, Ysg. [Gorfu i ni adael allan y sylwadau buddiol hyn o ddiffyg lle.-GoL.] ARFON. Dosbarth Caernarfon.—Nazareth, Ion. 4. Llywydd, Mr. Owen Roberts, Engedi. Cyfarfod Cynrychiolwyr am 9.—1. Dechreu- odd Mr. W. Jones, o ysgoi y Workhouse. 2. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodau y cyfarfod blaenoroi. 3. Galwyd am y cyfrif- on ; daethant i law o'r oll oddigerth tair. 4. Darllenwyd cyfrifon arianol y Dosbarth am y 3 blynedd diweddaf gan y trysorydd, Mr. D. Roberts. Yr ocddynt wedi cael eu liar- chwilio gan yr archwilwyr a benodwyd yn y cyfarfod blaenorol, a'u cael yn gywir, a phasiwyd hwy. 5. Galwyd sylw at y priod- oldcb o anog y plant i ddyigu y Deg Gorch- ymyn a'r Pader, a phenderfynwyd pan eu hadroddir gan bersonau unigol eu bod i gael eu dodi i lawr yn y taficni cyfrifon, a'r ad- roddiad i gael oi ystyried fel un newydd un- waith yn y flwyddyn. Cyfarfod cyhoeddus am 10.—Dechreuwyd gan Mr. D. Roberts. Y mater y siaradwyd arno oedd, " Y dylan- wad ddylai yr Ysgol Sabbothol gael ar bryd- londeb mewn dyfod i, ac iawn ymdddygiad yn moddion gras." Cacd aylwadau gan y llywydd, Mri. W. Jones, Nazareth ; R. O. Jones, o ysgol Workhou»o; R. R. Roberts, Moriah, a'r Parch. Evan Jonea. Diwedd- wyd gan Mr. Richard Hughes, Ceunant. Cyfarfod Cynrychiolwyr ac Athrawon am 11.30. Rhoddwyd hygbysrwydd oddiwrth Mr. Owen Grifflth (Eryr Eryri), ei fod yn bwriadu ymweled A'r ysgolion i roddi cyfar- wyddiadau gyda'r canu yn mis Chwefror, a dymunid ar i bob Ue anfon ato pa amser y byddai yn f wyaf tebygol o gael yr ysgol yn gryno gyda'u gilydd. Pasiwyd y disgwylir cael adroddiad o hyn allan ymhob Cyfarfod Ysgol, yn Nghyfarfod y Cynrychialwyr a'r Athrawon, o ansawdd yr ysgol yn y lle, ynghyd â'r canghenau perthynol, os bydd rhai. Galwyd sylw at " Ddyddlyfr yr Ysgol Sabbothol," Cronicl yr Ysgol Sabbothol. Gan ci bod yn ddechreu blwyddyn, a'r cyn- rychiolwyr gan mwyaf yn rhai newyddion, gofynwyd am gyfciriad cynrychiolwyr pob ysgol, fel y galler anfon unrhyw genadwri ìddynt drwy y Uythyrdy. Hysbyswyd y cynhelir y cyfarfod nesaf yn Moriah, Chwer. 29ain. Nodwyd yn destyn i siarad arno, Es. lii. 1: cynrychiolwyr Ceunant a Caeathraw i draothu arno.— Iî. O. Joncs, Ysg. Dosbarth Bethesda.—Llywydd, Parch. T. Roberts, Jerusalem. Brynteg, Rhag. 28. I Cyfarfod 8-30.—1. Galw enwau'r ysgolion, a