Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TARIAN RHYDDID, Rhif. 1. IOMWR 1830. Frâs %g. 1 ■ ■ i----;------------ AT Y DARLLENYDDION. Anwyl Gydwladwyr,— jLIYMA Gyhoeddiad Misol newydd eto yn cael ei gynyg i'ch sylw a'ch derbyniad. Er cynifer o honynt sydd yn cael eu bwrw allan eisoes drwy y wasg Gymreig, barnai Cyhoeddwyr y "Darian" bod ansawdd a helynt yr amser presenol yn galw am un yn ychwanegol o natur y dyben hwn. Y mae enw ein Cyhoeddiad yn amlygiad o'r hyn ydyw i fod, beth yw ei aincan a'i fwriad, pa faterion sydd i gael eu. trin a'u trafod ynddo: gall y neb a ganfyddo yr enw frudiaw yn hawdd y bydd ei du-dal- enau yn faesydd rhyfel; ond ni lychwinir hwynt â gwaed, namyn un du. Y saif, nid yn unig ar yr ochr amddiffynol yn " Dariarì' rhag saethau y gelynion, ond yr anturia wneyd rhuthrgyrchau yn erbyn eu gwersyll* oedd a'u hamddiífynfeydd; a dengys hefyd ei fod yn hyderus iawn am lwyddiant yn yr ymornest. Dengýs, gyda hyny, pwy, a pha beth y mae yn fwriadu amddi- ffyn a dyogelu; a'r hyn y mae am ruthro arno a'i ddymchwelyd. Amcana amddiffyn a dyogeln un o iawnderau mwyaf gwerthfawr a chysegredig dyn; a dymchwelyd a dinystrio un o brif fell'dithion a drygau y byd ! A 'does bosibl, gan hyny, na chaiff dderbyniad croesawus, a chefnogaeth wresog yn gyffredinoL Ni saif y " Dariarì' yn amddifíyn a nawdd i blaid na pherson, ond i'r graddau ag y byiido eu "Rhyddid" yn gofyn: ac ni ymesyd y "Dymchwelwr' ar unrhyw chwaith, ond i'r graddau y byddont yn plcidio ac yn gweithredu " Gormes" Nid yw y " Darian ar Dym- chweîydd" nag Esgobyddiad, Ännibynwr, Bedyddiwr,