Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 71.] TACHWEDD, 1892. [Cyf. VI. GWRTHGILIAD MEIBION EPHRAIM. GAN Y PARCH. O. L. ROBERTS, (A.,) PWLLHELI. " Meibion Ephraim, yn arfog ac yn saethu a bwa, a droisant eu cefnau yn nydd y frwydr.—Psalm lxxviii. 9. AE penderfynu yr amgylchiadau uniongyrchol at ba rai y mae y geiriau hyn yn cyfeirio yn fater ag y teimla esbonwyr cryn lawer o anhawsder yn nglyn ag ef. Barna rhai yn gry fod yma gyfeiriad uniongyrchol at symudiad yr arch o Siloh yn llwyth Ephraim i Seion yn llwyth Judah, a chyda hyny symudiad yr uchafiaeth o'r naill i'r Ila.ll. Ac os felly fod y geiriau yn dysgu fod y cyfnewidiad hwnw wedi cymeryd lle fel barn o eiddo yr Arglwydd ar anffydd- londeb a difaterwch Ephraim yn arweiniad y genedl. Ond barna eraill ein bod i gymeryd y gair " Ephraim " yn y Salm hon fel yn dynodi nid y llwyth arbenig hwnw o'r genedl a gyfenwid felly, ond y genedl fel cyfangorff yn gyffredinol, a seilir y dybiaeth yma ar y ffaith fod y genedl yn aml yn myned dan yr enw hwn ; ac hefyd fod yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn y Salm yn rhai a gymerasant le yn ddiddadl yn hanes y genedl fel cenedl, ac nid yn hanes unrhyw lwyth neillduol o'r genedl. Ac yn mhell- ach, fe eirychir gan yr esbonwyr hyn fod y testyn yn cyfeirio nid at rhyw un amgylchiad yn hanes y genedl, ond at nodwedd bar- haus yn nghymeriad y genedl yn mhob cyfnod yn ei hanes, sef, anffyddlondeb i'w Duw yn yr adeg yr oedd mwyaf o'u heisiau a'u hangen. Ac yn y goleu yna y bydd i ni edrych ar y geiriau yn hyn o sylwadau, sef gwrthgiliad meibion Ephraím fel y mâe yn cael ei ailadrodd yn hanes crefyddwyr yn mhob oes, yn ei nod- weddion, ac yn yr achosion o hono.