Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(<o PULPUD CYMRU. Rhif 143.] TACHWEDD, 1898. [Cyfrol XII. " Anfarwoideb yr Enaid." GAN Y PARCH. J. WESLEY HUGHES, CORWEN. ---------o-----— " Os bydd gwr marw, a fydd efe byw drachefn ?' Job xiv, lá, N o nodweddion amlycaf yr oes yr ydym yn bywyn- ddi ydyw ei thueddiad materyddol. Mae gwyddon- iaeth wedi camru mor frâs ac wedi dyddori medd- yliau dynion i'r fath fesur fel mai anhawdd yw cael dynion i feddwl am ddim ond y gweledig a materol. Masnach sydd wedi cynyddu cymaint ac yn cael ei chario ymlaen ar linellau mor gulion nes hawlio pob sylw, gofal a diwydrwydd. Mae y gystadleuaeth mor agosfelymae yn rhaid i'r masnachydd sydd am lwyddo, sefydlu ei alluoedd ar ei fasnach a dyblu ei íìfyddlondeb iddo. Mae y dreth a osodir ar amser, meddwl, a chorff dynion, mewn canlyniad i hyn yn hawlio cyfleusterau ychwanegol i ddyogelu yr adloniant a'r ymarferiad angenrheidiol er cadw y corff a'r meddwl rhag dadfeilio ; a gwelir llu mawr yn ymroi gydag yni a brwdfrydedd neillduol i chwareu- yddiaeth a mwyniant daearol yn eu holl ffurfiau. Ffrwyth hyn yw— fod y meddwl dynol yn cael ei hudo oddiwrth yr Ysbrydol a'r An- weîedig i'r fath fesur, fel ag i ddwyri dyn i golli golwg ar y fìfaith ei fod yn Anfarwol, ac fod sefyllfa ddyfodol yn ei aros wedi y terfyno y fuchedd bresenol. Teimlwn yn ngwyneb hyn, mai pri-