Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 19. GORPHENAF, 1891. Cyf. II. "NID I DDAMNIO." GAN Y PARCH. E. T. DAVIES, ABERGELE. "Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio y byd, ond fel yr aehubid y byd trwyddo ef," Ioan hi. 17. ffl' 'AB Duw wedi dyfod yn Fab dyn a lefarodd y testyn—ar y ddaear, wrth un daearol iawn ei syniadau; ac yr oedd y syniadau grasol a nefol a draethid grnddo yn swnio yn ddyeithr a rhyfedd iawn ar glust Nicodemus: "Dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw." Y mae rhyw gyfnewidiad mawr yn angenrheidiol ar galon a deall pechadur, cyn y daw i dderbyn cenadwri ddwyfol yr efengyl, er iddi gael ei chyhoeddi gan Fab Duw ei hun, yr hwn na lefarodd dyn erioed fel y llefarodd Efe. Ofnwn mai esboniad lled Nicodemusaidd a roddid gan lawer o wrandawyr yr efengyl, os nad gan rai a'i proffesant, pe gofynid iddynt draethu eu syniadau am ail- enedigaeth. Pa le bynag y cyfarfyddir à "dyn ailenedig," gwesgir ni ar unwaith i ddweyd am y ffaith, "Wele bys Duw yw hyn." Maerhywbeth yn y cyfnewidiad nas gall rheswm meidrol byth mo'i olrhain na'i am- gyffred, llawer llai ei ddadlenu i eraill; ac ni all yr ail-enedig ei hun ddweyd fawr am dano mwy na'r hyn a ddywedodd y dall hwnw a dderbyniodd ei olwg naturiol gan Grist,—"Lle yr oeddwn i gynt yn ddall yr wyf £ yn awr yn gweled."—"Tmwaded ag ef ei hun, &c,"— rhaid iddo fod yn "greadur newydd" i wneud hyny: mae y creadur newydd yn Nghrist Iesu, yn gwadu yr hen hunan alìan o Grìst Iesu:— "Croeshoelia yr hen ddyn yn nghyd a'i wyniau a'i chwantau,"—croes- hoelio a gwadu yr hyn oedd anwylaf ganddo o'r blaen—ei bobpeth a wna yr ail-enedig, yr hyn ni wnaeth ac ni wna un dyn byth hyd nes y