Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 23. TACHWEDD, 1891. Cyf. II. GWAITH DYN A GWOBR DUW. GAN Y PARCH. T. TALWYN PHILLIPS, B.D., BALA. "Eithr yn gwneuthur daioni na ddîogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiâygiwn,'' Galatiaid vi. 9. Cff\ MAE Paul yn dal o'n blaen yn yr adnod hon ddau ddarlun í[j o'r dyn da. Darlun o hono yn y presenol, a darlun o hono yn y düo dyfodol—heddyw ac yfory y Cristion. Heddyw yn hau mewn dagrau, yfory yn medi mewn gorfoledd. Heddyw yn ílesg a blinedig yn ei waith, jçfory yn gorphwys oddiwrth ei lafur, a'i weithredoedd yn ei ganlyn ef. Heddyw yn y winllan yn gweithio, yfory gyda'i Feistr yn derbyn gwobr y gwas da. Un darlun o hono "yn myned rhagddo ac yn wylo, gan ddwyn hâd gwerthfawr;" ond darlun arall o hono yn dyfod yn ei ol yn amser y cynhauaf "mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau." Ceisiwn alw eich sylw at y ddau ddarlun prydferth hyn— y Cristion yn hau—"yn gwneuthur daioni;" a'r Cristion yn "ei iawn bryd" yn medi. I. Gwaith y Cristion : "Yn gwneuthur daioni na ddiogwn"—na flinwn. Y mae y dyn newydd sydd wedi ei eni oddi uchod yn awyddus i weithredoedd da. Y mae mor sychedig am waith ag yw yr hydd am yr afonydd dyfroedd. Ysbryd gweithgar yw yr Ysbryd Glan, ac y mae y dyn sydd wedi ei eni o'r Ysbryd yn cyfranogi o'i weithgarwch. Ni welwyd yr un dyn diog erioed yn llawn o'r Ysbryd Glan. Y mae "Cristion segur" yn ymadrodd diystyr. Lle y mae Ysbryd yr Arglwydd^ yno y mae gweithgarwch. Y mae gwaith fel y Jerusalem newydd, wedi disgyn o'r nef oddiwrth Dduw. Y mae gwaith yn ddwyfol. Y mae y Gwaredwr wedi rhoi urddas bythol ar waith, Ystyriai athronwyr y byd paganaidd fod gWeithio â