Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BIRWBSTYBB. " Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' Rliif'. «.] »HAGFTB, ISSO* [Pris lCé Yr Egwyddorion a lleidir yn y Cyhoeddiad hten, ydynt y rhai a gynwysir yn Yít YMRWYMIAD DIRWESTOL. Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr ymattal oddiwrth yfed Gwirodydd, Cwrw, Porter, Cider, Gwin, (oddieithr yn Sacramentaidd, neu feí meddyginiaeth,) a phob math arall o Ddiodydd Meddwol;—i beidio a'u rhoddi na'u cynnyg i neb arall;—ac yn mhob modd i wrthsefyll pob rhyw achosion ac achlysuron o Annghymedroldeb." RHESYMAU DROS LWYR YMWRTHOD A'R DIODYDD MEDDWOL. 1. Y mae ein gwlad yn gyffredinol yn ym- lygru, ac yn cael ei dinystrio, trwy yr arferiad â'r diodydd meddwol: ac y mae crefyddwyr hefyd, o bob enwad, o bob gradd a sefyllfa yn yr eglwysi, wedi llithro yn ormodol i'r unrhyw gamwedd. Gan hyny y mae hi yn Uawn bryd defnyddio y moddion mwyaf effeithiol er attal y drygau hyn, a thuagat ddwyn oddiamgylch ddiwygiad cyffredinol; a'r moddion goreu yw llwyr-ymwrthod â'r ddi'od feddwol. 2. Y mae yn ddiammheuol fod di'ota dirgel- aidd yn llithio ac yn distrywio cymaint, os nid mwy, íìg a wna yfed a meddwi cyhoeddus: a bod di'ota felly yn ffordd uniawn a d'iogel, a sicr hefyd, (ond ei dilyn,) i arwain dynion i feddw- dod. Ac nid oes dira ond llwyr-ymwrlhod yn debyg, heb sôn am sicr, o fyned dan wraidd y di'ota dirgelaidd yma. Gallai dyn ddyfetha ei gyfansoddiad, a dinystrio ei enaid, ac etto ym- ddangos i ddynion fel un yn cadw ymrwyniad y gymdeithas gymedroldeb. Gan hyny nid oes un feddyginiaeth a gyrhaedda ddyfnder ei glwy, ond llwyr-ymatal oddiwrth dd'iodydd meddwol. 3. Y mae yn amlwTg nad yw llwyr-ymwrthod â di'odydd meddwol yn bechadurus ynddo ei hun. Y mae gorchymyn Duw i'r Nazareaid, a'i gy- meradwyaeth ef o ymddygiad y Rechabiaid, &c. yn gosod y mater hwn y tu hwnt i bob gwrth- ddadl. (Gwel Lef. x. 9. Num. vi. 3. JBarn. xiii. Luc i. 15. Jer. xxxv.) 4. Y mae ymwrthod â phethau cyfreithlon a diniwed ynddynt eu hunain, nid yn unig yn oddefol, eithr yn ddyledswydd gristionogol pan y byddo hyny yn tueddu i ateb rhyw ddyben daionus i'n cyd-greaduriaid. Gwrthod y mwyn- iant a allem ei gael, gan ein gosod ein hunain yn agored i ddyoddefaint a gwaradwydd er mwyn rhinwedd, yw " cyfodi y groes." As os yw hunan-ymwadiad â phethau diniwed yn angenrheidiol, pan y byddo hyny yn llesâd i ddynion.ni ddylid petruso am fomentynnghylch ymwadu à'r pethau àc sydd yn dinystrio cyrff ac eneidiau dynion. Nid yw hunanolrwydd a chwrant y cnawd, yn un ran o wir grefydd. 5. Y mae hanesiaeth oesau a chenedloedd y byd, yn nghyd â thystiolaethau y meddygon enwocaf yn mhob gwlad, yn profi mor amlwg â'r haul ganol dydd, nadydyw d'iodydd medd- wol yn anhebgorol er cynnal a maethu y corff dynol, nac ychwaith er tori ei syched. Y mae miloedd o ddynion wedi byw oes hir yn iachus, nerthol, a chysurus, heb ddim o honynt; ahyny mewn gwahanol oesau, gwahanol wledydd, a gwahanol hinsoddau, (climates.) Ië, yr oedd ein hynafiaid ni, y Cymry, yn byw felly; ac yr oeddynt yn iachach, yn gryfach, a hwy eu hoes y pryd hyny nâg ydym ni wrth arfer di'odydd meddwol. 6. Y mae y cyfryw dd'iodydd yn niweidiol i'r cyfansoddiad dynol, hyd yn nod yn yr arfer- . iad mwyaf cymedrol o honynt, fel diodydd cyffredin. Y maent yn achosi llüaws o anhwyl- derau, llesgedd, ac afiechyd; i'e, y maent yn lladd dynion. Y mae cymedroldeb o honynt yn lladd, 'ie, yn sicr o ladd, er i hyny fod yn raddol; sef cymaint o swm neu fesur o'r d'iod- ydd hyn, âg a fyddai yn gymhesur, ac yn ang-. enrheidiol hefyd, i'w hyfed o dd'iod iachus. Pa beth a brofa yn fwy eglur fod unrhyw beth yn niweidiol fel ymborth neu ddi'od, na'i fod ef yn lladd y neb a'i defnyddio? Y mae y rhai hoffaf o effeithiau y gwirf ar eu gewynau, yn addef fod llawer o hono yn lladd; ac yn wir nid oes dim diolch iddynt am addef hyny, canys nis gallant ei wadu: ond er hyny haerant fod ychydig o hono yn llesol! Llawer yn lladd, ac ychydig yn llesol! Llawer yn dinystrio y corff, ac ychydig yn ei nerthu ! Ychydig yn troi yn gnáwd, gewynau, esgyrn, gwaed iachus, &c.; a thipyn chwaneg o'r un peth yn eu hafiachâu, eu Üygru, a'u hadfeilio ! ! Os nad yw hyn yn afresymoldeb, yr wyf fi yn hollol analluog i wahaniaethu rhwng rheswm a thwyll. Ond gwrthddadleuir, fod gormod o ymborth iachus yn niweidiol, er fod cymedroldeb o hono yn anhebgorol. Addefirhyny ynrhwydd. Ond pa fodd y mae efe yn niweidiol ? Cymeryd i