Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

,^t^idid< " Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dírwest." jchíi. 10.] EBRILL, 1939. [J?ris lç. ARDYSTIAD CYMMANÍA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD, Yr hon a gynnaliwyd yn Ninbych, Chwefror 8 o'r 9, 1837« * Yr ydwyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr ymattal oddiwrth yfed pob math o Wlybyroedd Meddwol fel diod; i beidio a'u rhoddi na'u cynnyg feüy i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll pob rhyw achosion ac achlysuron o Annghymedroldeb." ANNOGAETHAU I YMUNO A'R GYMDEITHAS DDIRWESTOL, Ceir cymheìlion cryfion i ymuno á'r gymdeithas ddir- westol, oddiar ystyried y drwg a'r llygredigaeth a wrth- wynebirganddi, sef meddwdod a"i holl berthynasan ; a"r daioni a'r rhiuwedd y mae yn eu pleidio, sef sobreidd- rwydd a moesgarwch yn mh iwb. Ymddengys rhesymoldeb yr annogaeth i ymuno â hi yn wyneb y pethau canlynol: 1. Y mae meddwdod ynbechod; a chan ei fod yn bechod, dylai pob dyn ei wrthwynebu, a phawb gyduno i wneyd hyny. Ymddengys ei fod yn bechod, (1.) Am fod Duw yn ei air yn ei wahardd : " Na feddwer chwi gan win." Nid ydyw Duw yn gwahardd dim i ddynion ond yr hyn sydd ddiwg. (2.) Y mae bod meddwdod yn cau dynion o'r nefoedd, yn proíi ei fod yn bechod : '*Ni chaifFy meddwon etifeddu teyrnas Dduw." (3.) Y mae y gwaeau a'r bygythion mwyaf arswydlawn uwch ben y meddwon : "Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a'r dynion nerthol i gymysgu diod gadarn." "Gwae a roddo ddi'od i'w gymydog; yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel ac yn ei feddwi hefyd." Gan fod medd- won, a'r rhai sydd yn gwneuihur meddwon, yn wrth- ddrychau gwaeau y Jehofah anfeidrol, rhaid yw bod meddwdod yn bechod. 2. Mae meddwdod yn bechod cyffredinol, yn mhlith pob graddau, pob sefyllfa, pob oedran, a phob rhyw, sef meibion a merched. Y mae wedi gorlifo dros y byd bron, fel nad oes ond ychydig o'r híl ddynol nad ydynt, i raddau, wedi ymdrybaeddu yn y llaid fBaidd hwn; fel y gellir dywedyd bod y chwant ynfyd a niweidiol at ddi'od feddwol, wedi boddi miloedd o ddynion i ddinystr a cholledigaeth. Gan hyny onid rhesymol yw i bawb ymuno i'w wrthwynebu ? 3. Y mae meddwdod nid yn unig yn bechod, ac yn bechod cyfFredinol, ond y mae yn achosi llawer o bech- odau ereitl. Y mae llawer, pan o dan ddylanwad medd- wdod, yn cyflawni y pechodau mwyaf ihyfygus ac aflan, y rhai nas beiddient eu cyflawni pan yn sobr; a phe ceid pen y Goliath hwn i lawr, gellid dysgwyl cael buddug- oliaeth ar y fyddin Philistaidd o bechodau ag sydd yn ei ddilyn. Pe byddai rhyw fath o ymborth, er ei fod yn faethlon yn ei natur, yn tori allan yn weliau crawnUyd ac yn gornwydydd blin ar gyrfFdynion, díau yr ymattal- iai pawb yn unfryd oddiwrth y cyfiyw ymborth : a chan fod diod f'eddwol yn achosi y fath orlifiant o ddrygau, llawer gwaeth na'r cornwydydd mwyaf biin, onid rhes- ymol yw llwyr ymwrthod â hi ? 4. Y mae yr annghysuron a'r niweidiau tymmorol y mae meddwdod yn eu dwyn ar ddynion, yn galw ar bawb i gyd-ddeífroi i'w erbyn. Mae ei efFeithiau yn annhraethol, a'r damweiniau dychrynllyd a achlysurir trwyddo yn anneirif. Y mae yr holl dlodi, yr aíìechyd, yr ymladiiau, y gwallgofrwydd, y lladradau, y godinebau, y llofruddiaethau, yr hunan-laddiadau ;—y gwaradwydd a dynodd ar achos Crist, a'r gofîd a gafodd eglwys Dduw oddiwrtho ;—heb son am y dinystr tragwyddol y mae gwedi dwyn miliynau dirif i"w afael;—y mae yr holl bethau hyn, fel cynifër o glychau yn uchel alw ar bawb i gyd ymdrech yn erbyn meddwdod. Pe galîem edrych dros geulan amser, a chanfod yr ysbrydion annedwydd sydd yn y carchar anobeithiol, y rhai a ddybenodd eu gyrfa trwy fèddwdod ;—a phe gaîlem wybod pa faint sydd yn eu plith o"n henafiaid, eiu perthynasau, a'n cyf- oedion ; di'au y crëai hyn ryw awydd ac ymdrech yn mhob dyngarwr i wneuthur a allai er attal pawb ag sydd ar y ffordd tuag yno, " rhag myned o honynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwnw." Pe byddai yn bosibl hys- bysu iddynt hwy fod moddion efFeithiol wedi ei drefna er sobreiddio meddwon, yn yr ardaloedd y buont hwy gynt yn byw ynddynt yn y byd; ni wnai hyny ond ychwanegu eu gotid, gan nad oedd y cyfryw foddion yn eu hamser hwy, ac na chant gynnyg arno byth chwaith: ond pa faint mwy a fydd arteìthiau y rhai a dd'íystyrant y gymdeithas hon, ac a ddybenant eu gyrfa yn feddwon ? Oni bydd hyn megys pryf yr hwn ni fydd marw byth ? 5. Y mae llawer mwy o rym mewn undeb a chyd- weiihrediad cymdeithasol, i gael unrhyw amcan i bèn, nag sydd mewn ymdrechiadau personau unigtìl. O her- wydd eu hundeb á'u gilydd, y mae y tywod mân yn ateb y dyben i fod yn derfyn i'r môr: ac felly trwy undeb & chydweithrediad y gymdeithas hon, y mae gorchestion rhyfeddol wedi eu gwneyd, na allesid byth eu gwneuthur heb hyny. Ei phrif amcanion ydynt—darostwng medd- wdod—achub y meddwon, a'u dwyn at y Gwaredwr i