Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest." RHifif. »©/| CHWJEFROB, 1S3S. [JPris lc. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: "Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." Y DIWYGIAD DIRWESTOL. Pan fyddo unrhyw ddiwygiad nodedig, neu gyf newidiad mawr yn cymeryd lle yn y byd, y mae rhyw ymholi cyff'redinoì am y modd y dechreuodd y cyfryw; a chan fod y diwygiad dirwestol yn un o'r pethau rhyfeddaf a gymer- odd le yn y byd erioed, ac wedi cael cymerad- wyaeth a chefnogaeth gan y dynion goreu, a'r mwyaf dysgedig a chyfrifol yn mhob gwlad, nid ychydig sydd o ymofyn gan bwy, yn mha le, a thrwy ùa foddion, y cafodd y diwygiad hwn ei ddechreuad. Yn gyffredinol, y mae y Duw bendigedig, awdwr pob daioni, yn dwyn yn mlaen y pethau mwyaf ardderchog a gogon- eddus, yny fath fodd ag sydd yn cau allan ym- ff'rost, ac yn cuddio balchder oddiwrth bob dyn, fel na byddo i neb arall gael y clod am y daioni a effeithir ond ef'e ei hunan. Ac wrth edrych ar y mater dan sylw gwelir fod hyn i raddau go helaeth yn perthyn iddo. Tybia rhai mai yn yr America y cafodd yr achcs daionus hwn ei gyrhwyniad: mai yno y cafwyd hysbysiad o ewyllys y Nef am yr arfer- iad cyffredinol a gwarthus o'r di'odydd meddwol, trwy yr hyn y mae dynion yn ymollwng i gyflawni y pechodau mwyaf ysgeler, yn dwyn arnynt eu hunain ac ereill annhraethol drueni yn y byd hwn, ac yn syrthio wrth y miloedd o dan soriant a dialedd cyfiawn y Goruchaf yn y byd tu draw i'r bedd. Y mae ereill yn barnu mai gair o ryw iaith estronol a dyeithr ydy w teetotal, gan nas gellir ei gael mewn un geirlyfr, na Chymraeg na Saesoneg; a'r casgliad a wnant yw, mai dyfais o eiddo rhyw ddyhirod estroniaethas ydyw dirwestiaeth. Ië, y mae rhai yn beiddio haeru mai dyfais uffernol ydyw, wedi ei llunio gan Beelzebub ei hun i'r dyben o dwyllo dynion, ac i ddyrysu a drygu amgylchiadau llaweroedd. Gwell fyddai i'r gwyr hyn gymeryd yn araf, rhag eu cael yn ymladd yn erbyn eu trech. Dywedwyd gan ryw rai gynt, mai trwy Beel- zebub yr oedd Mab Duw yn gwneyd gwyrth- iau; a thystiodd Crist ei hun fod hyny yn gabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân. Ond nid ydym yn dyweyd bod cablu yr achos dirwestol felly; er hyny ni a ddywedwn yn hyf ei fod yn tueddu y ffbrdd hono: ac mai gwell fyddai iddynt arafu yn eu camrau. Ámcan yr hyn a ganlyn ydy w rhoddi bodd- lonrwydd i'r ymholwyr a soniwyd, mewn modd byr a chynhwysfawr. Yr oedd gweinidog yr efengyl yn Unol Da- leithiau yr America, enw yr hwn nid yw ya awr yn hysbys, wedi bod yn dadleu dros lwyr- ymwrthod âgwirodydd erys tuathair-ar-hugain o flyneddau yn ol, sef yn y flwyddyn 1815; a dywedir iddo lwyddo i gael gan amryw eu rhoddi heibio yn hollol. Ond ni fu dim a ellir ei olygu yn gydymdrech cyffredinol yn erbyn meddwdod, hyd y flwyddyn 1825, pryd y cj-- hoeddwyd amryw draethodau ar y mater, yn nghyd â chweeh o bregethau gan yr enwog a'r haeddbarch Dr. Beecher ar annghymedroldeb. Y mae yn amlwg bod golygiadau cyfunwedd ar y mater gan amrai bersonau, ar yr un amser, a hyny gannoedd o filldiroedd oddiwrth eu gilydd, a chyn iddynt wybod dim am feddyliau eu gilydd: ac y mae hyn yn brawf nodedig a diymwad o law neilítuol Rhagluniaeth yn nechreuad yr achos daionus hwn. Tua diwedd y flwyddyn a nodwyd ddiwedd- af, sef 1825, yr oedd rhy w nifer o gristionogion, dan ddwys alar yn yr olwg ar y galanasdra a wnai annghymedroldeb yn eu gwlad, yn cyd- ystyried pa bcth a ellid ei wneyd i allludio "meddwdod o'r Unol Daleilhiau: ac wedi iddynt gvdymddyddan ar y mater, a thaer weddi'o am gyfarwyddid ac arweiniad y Goruchaf, pen- derfynwyd ceisio sefydlu cymdeithas ar yr egwyddor o lwyb-ymwrthod a diodydd cryfíon ; gan olygu, mae'n debyg, y gwirod- ydd poethion yn unig. Yn ganlynol i hyn, ar y dydd cyntaf o Chwefror, 1826, sefydlwyd y Gymdeithas Gymedroldeb Americanaidd; yr JLIVERPOOL: ARGRAFFEDIG GAN JOHN JONES, 9, CASTLE STREET; AT YR HWN Y MAE POB GOHEBIAETH PW DANFON YN DDIDBAUL.